Neidio i'r prif gynnwy

Data ar ddamweiniau ac anafiadau beicwyr modur, beicwyr pedal a cherddwyr, a cheir dadansoddiadau yn ôl nodweddion demograffig ar gyfer 2021.

Prif bwyntiau

Image
Mae’r siart hon yn dangos canrannau’r bobl sydd wedi eu hanafu yn ôl difrifoldeb eu hanafiadau, fel y’u cofnodwyd ar gyfer 2021. Cafodd 4,348 o bobl eu hanafu ar y ffyrdd yn 2021. O’r rhain, roedd 2 y cant wedi cael eu lladd, 21 y cant wedi eu hanafu’n ddifrifol, a 77 y cant wedi dioddef mân anafiadau.
  • Yn 2021, cofnododd heddluoedd Cymru fod 4,348 o bobl wedi cael eu hanafu neu eu lladd ar y ffyrdd. Mae hwn yn gynnydd o 17% o’i gymharu â 2020 ond yn ostyngiad o 25% o’i gymharu â 2019.
  • Cafodd 1,011 (23%) o’r bobl hynny eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, cynnydd o 23% o’i gymharu â 2020 ond yn ostyngiad o 15% o’i gymharu â 2019.
  • Cafodd 3,337 (77%) ohonynt fân anafiadau, 16% yn fwy na ‘r ffigur ar gyfer 2020 ond 28% yn is na’r ffigur ar gyfer 2019.
  • Roedd gwrywod yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu na menywod, gan iddynt gyfrif am 60% o’r holl bobl a anafwyd neu a laddwyd, a 69% o’r holl bobl a anafwyd yn ddifrifol neu a laddwyd yng Nghymru yn 2021.
  • Mae pobl ifanc 16 i 24 oed yn anghymesur yn fwy tebygol o gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar y ffyrdd. Maent yn cyfrif am 11% o’r boblogaeth ond, yn 2021 gwnaethant gyfrif am 21% o’r holl bobl a anafwyd neu a laddwyd.
  • Wrth addasu ar gyfer pellter a deithiwyd, roedd beicwyr modur a beicwyr pedal yn fwy tebygol o gael eu hanafu neu eu lladd na defnyddwyr ceir.

Adroddiadau

Anafusion ffyrdd adroddwyd amdanynt: 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 741 KB

PDF
Saesneg yn unig
741 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.