Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ynglŷn ag anafusion traffig ffyrdd ymysg pobl ifanc, hynny ydi pobl rhwng 16 a 24 oed yn gynwysedig ar gyfer 2016.

Siart yn dangos nifer yr anafusion 16-24 oed mewn damweiniau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar ffyrdd yng Nghymru, 1979-2016, yn ôl difrifoldeb. Mae'r siart yn dangos gostyngiad cyffredinol ers 1979 ar gyfer pob difrifoldeb. Ffynhonnell: System adroddiadau damweiniau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Prif bwyntiau

  • Yn 2016 gwelwyd y nifer isaf o bobl ifanc a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol (KSI) ar y ffyrdd yng Nghymru.
  • Cafodd 239 o bobl ifanc KSI yn 2016, sy'n ostyngiad o 39.6% o'i gymharu â chyfartaledd 2004-2008. Targed Llywodraeth Cymru yw gostyngiad o 40% erbyn 2020.
  • 2016 oedd y flwyddyn gyntaf ers 2012 lle gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl ifanc a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
  • Roedd pobl ifanc 16 i 24 oed yn cyfrif am 12% o’r boblogaeth yng Nghymru yn 2016, ond yn cyfrif am 24% o’r anafusion KSI
  • Roedd dynion ifanc mewn dwywaith yn fwy o ddamweiniau na menywod ifanc.
  • Yn ystod yr wythnos waith, roedd pobl ifanc yn fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau yn ystod cyfnodau prysur.

Adroddiadau

Anafusion ar y ffyrdd i bobl ifanc, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 680 KB

PDF
Saesneg yn unig
680 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.