Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn ymateb i ystadegau perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw.
Meddai'r gweinidog:
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i staff rheng flaen adrannau brys, ac fe wnaeth hyn barhau ym mis Mehefin gyda chyfanswm y rhai a gafodd eu gweld yn ystod chwe mis cyntaf 2019 bellach dros 520,000. Er gwaetha'r pwysau hwn, mae’n galonogol gweld bod mwyafrif llethol y safleoedd gofal brys wedi gwella'u perfformiad o gymharu â'r mis diwethaf. Rwy'n dal i bryderu am brydlondeb nifer fach o safleoedd, ond rydyn ni'n gweithio gyda nhw i wella'u perfformiad.
Roedd llai o bobl yn aros am dros 12 awr mewn adrannau brys i gael gwely mewn ysbyty o gymharu â mis Mai, ac roedd achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal 3% yn is na'r un cyfnod llynedd - y cyfanswm isaf ond un ar gofnod ar gyfer mis Mehefin. Er hynny, rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwell perfformiad yn y meysydd hyn.
Mae gostwng amseroedd aros ar gyfer triniaethau dewisol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddar cyhoeddais £50m ychwanegol i helpu i wneud hynny. Mae'r data diweddaraf yn dangos 19% o ostyngiad mewn achosion o aros am dros 36 wythnos o gymharu â'r un adeg llynedd. Rydyn ni'n disgwyl i fyrddau iechyd weithredu cynlluniau lleol ar sail buddsoddiad ychwanegol ar fyrder, ynghyd â thargedu gwelliannau mewn perfformiad ar ganser.
Unwaith eto roedd ymateb ambiwlansys argyfwng yn uwch na'r targed cenedlaethol gyda gwelliannau mewn perfformiad yn erbyn y safon 8 munud a'r amser ymateb cyffredinol ar gyfer galwadau 'coch' o gymharu â mis Mai. Roedd hyn er gwaetha'r nifer pedwerydd uchaf ar gyfartaledd o alwadau coch yn ddyddiol ers cyflwyno model newydd bron i bedair blynedd yn ôl.
Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn galw am weithredu brys i ddatrys pryderon staff meddygol ynghylch goblygiadau pensiwn a threth sy'n arwain at rai yn peidio ag ymgymryd ag oriau ychwanegol.
Gallai hyn gael effaith ddifrifol ar ein hymdrechion i wella amseroedd aros a mynediad at wasanaethau yng Nghymru. Byddaf yn gwneud y pwynt hwn eto yn ystod yr ymgynghoriad arfaethedig ar gynllun pensiwn GIG Cymru a Lloegr.