Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos nifer y bobl sy'n aros am fwy nag 8 wythnos am wasanaethau diagnostig a 14 wythnos am wasanaethau therapi ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Gwasanathau diagnostig

  • Ar gyfer pob mis, roedd y nifer a fu’n aros mwy nag 8 wythnos yn is eleni nag ym mhob blwyddyn bron ers 2011-12 (heblaw 2017-18, pan oedd yn uwch ym mis Mawrth).
  • Ym mwrdd Hywel Dda a bwrdd addysgu Powys yr oedd y nifer isaf o gleifion a fu’n aros am fwy na’r amser targed ar gyfer y rhan fwyaf o fisoedd yn 2018-19. Ym mwrdd Betsi Cadwaladr y bu’r rhan fwyaf o gleifion yn aros am fwy na’r amser targed ar gyfer y rhan fwyaf o fisoedd, a dyma'r unig fwrdd Iechyd lle gwelwyd cynnydd dros y flwyddyn (1,460 neu 178.7%); cyrhaeddodd uchafbwynt ym mis Awst 2018 (2,462), yr uchaf ers mis Ionawr 2015.
  • O’r holl wasanaethau, endosgopi diagnostig oedd yr un lle bu’r nifer mwyaf yn aros yn hirach na’r amser targed ym mhob mis yn ystod 2018-19, a dyna’r unig wasanaeth lle gwelwyd cynnydd yn ystod y flwyddyn. Delweddu a niwroffisioleg oedd y gwasanaethau â’r nifer lleiaf neu gyd-leiaf ar gyfer pob mis.

Gwasanathau therapi

  • Ar gyfer pob mis, roedd nifer y rhai a fu’n aros mwy nag 14 wythnos yn is eleni nag ym mhob blwyddyn ers 2012-13.
  • Yn 2018-19, nid oedd gan fyrddau Betsi Cadwaladr, Abertawe Bro Morgannwg na Chwm Taf unrhyw gleifion a fu’n aros yn hirach nag 14 wythnos mewn 11 mis o’r flwyddyn. Erbyn mis Mawrth 2019, nid oedd gan unrhyw fwrdd iechyd ac eithrio Powys unrhyw gleifion a fu’n aros am fwy nag 14 wythnos. Gan fyrddau Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro yr oedd y nifer mwyaf o gleifion a fu’n aros yn hirach na’r amser targed o blith yr holl fyrddau iechyd ym mhob mis er nad oedd ganddynt, erbyn mis Mawrth 2019, unrhyw gleifion a fu’n aros yn hirach na’r amser targed.
  • Yn 2018-19, therapïau celfyddydol oedd y maes lle bu’r nifer isaf o gleifion yn aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer y rhan fwyaf o fisoedd y flwyddyn, ac iaith a lleferydd yn ei ddilyn. Nid oedd gan y gwasanaethau eraill, ac eithrio ffisiotherapi, unrhyw gleifion yn aros am fwy na’r amser targed mewn un mis o’r flwyddyn, ac ym maes podiatreg roedd dau fis heb gleifion yn aros yn hirach na’r amser targed.

Yn newydd eleni

Mae dangosfwrdd rhyngweithiol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r bwletin. Mae’n darparu dadansoddiad rhyngweithiol manylach, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl bwrdd iechyd lleol a’r math o wasanaeth diagnostig neu therapi.

Adroddiadau

Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 542 KB

PDF
Saesneg yn unig
542 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.