Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos nifer y bobl sy'n aros am fwy nag 8 wythnos am wasanaethau diagnostig a 14 wythnos am wasanaethau therapy ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Gwasanathau diagnostig

  • Dros y cyfnod diwethaf o bum mlynedd, 2017-18 oedd y flwyddyn orau at ei gilydd o safbwynt y niferoedd sy'n aros dros 8 wythnos. Y pwynt isaf ar draws yr holl gyfnod amser oedd Mawrth 2018.  
  • Roedd nifer y bobl a oedd yn aros dros 8 wythnos yn 2017-18 yn uwch nag yn y mwyafrif o fisoedd ar gyfer 2010-11, ond yn is na 2011-12 ar gyfer y mwyafrif o fisoedd.
  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oedd â'r gostyngiad mwyaf o gleifion sy'n aros fwy nag 8 wythnos yn 2017-18. O ganlyniad, ar ddechrau'r flwyddyn roedd ganddo'r rhan fwyaf o arosiadau dros 8 wythnos ar ddechrau'r flwyddyn ond roedd bron dim arosiadau ganddo ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Roedd gostyngiad mawr o gleifion yn aros fwy nag 8 wythnos ar gyfer gwasanaethau endosgopi diagnostig yn ystod 2017-18.

Gwasanathau therapi

  • Roedd gan 2017-18 lefel uchel o amrywiad yn nifer y cleifion sy'n aros dros 14 wythnos am wasanaethau therapi, gyda rhai o'r pwyntiau misol uchaf ac isaf o'i gymharu â'r cyfnod blaenorol o saith mlynedd. Er bod y niferoedd rhwng Ebrill a Hydref yn fwy ar y cyfan na'r saith mlynedd flaenorol, gwnaeth perfformiad wella o fis Rhagfyr, gyda'r niferoedd yn is na'r chwe blynedd ddiwethaf.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd â'r gostyngiad mwyaf yn nifer y cleifion a oedd yn aros yn hwy na'r amser targed yn 2017-18.
  • Yn 2017-18, podiatreg a gwasanaethau ffisiotherapi oedd yn cyfrif am y mwyafrif o arosiadau ar ddechrau'r flwyddyn, ond erbyn mis Mawrth roedd y niferoedd ar eu hisaf.

Adroddiadau

Amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi GIG, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 830 KB

PDF
Saesneg yn unig
830 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.