Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ystadegau hyn?

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn darparu cymysgedd o wasanaethau GIG arbenigol mewn gofal sylfaenol ac eilaidd i blant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl fel y'u diffinnir gan Fesur Iechyd Meddwl 2010. Mae'r gwasanaeth yn cynnig asesiad a thriniaeth pan fydd gan blant a phobl ifanc anawsterau emosiynol, ymddygiadol neu iechyd meddwl yn ogystal â hyrwyddo lles emosiynol a gwasanaethau iechyd meddwl ataliol a thriniaeth i blant a phobl ifanc. Gellir cyfeirio plant a phobl ifanc a'u teuluoedd at CAMHS os ydynt yn ei chael hi'n anodd ymdopi â bywyd teuluol, ysgol neu'r byd ehangach. Mae darparu gwasanaethau sylfaenol ac eilaidd yn rhan o gontinwwm o ofal a gynigir, ac mae mwy o gymhlethdod, difrifoldeb a risg yn perthyn i brofiad cleifion gofal eilaidd.

Darperir darpariaeth CAMHS mewn gofal sylfaenol drwy Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) a chyhoeddir data fel rhan o Ddatganiad Ystadegol Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae datganiad Amseroedd Aros Apwyntiad Cyntaf sCAMHS yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth a ddarperir drwy ofal eilaidd.

Mae’r ystadegau am yr amseroedd aros am apwyntiadau cyntaf sCAMHS yn dangos, yn ôl darparwr Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru ac yn ôl ardal breswyl BILl, o fis Awst 2019:

  • cyfanswm nifer y llwybrau cleifion sy'n aros am apwyntiad cyntaf ar gyfer sCAMHS
  • nifer a chanran y llwybrau cleifion sy'n aros llai na 4 wythnos am apwyntiad cyntaf ar gyfer sCAMHS

Diffiniadau

Mae plant a phobl ifanc sy’n 17 blwydd a  6 mis oed neu’n iau na hynny yr adeg y derbyniwyd yr atgyfeiriad gan sCAMHS wedi'u cynnwys yn yr amseroedd aros, yn hytrach na’u hoedran pan ddechreuodd unrhyw ymyriadau dilynol.

Dyddiad dechrau'r amser aros (pwynt cychwyn y cloc)

Dyma'r dyddiad y mae'r atgyfeiriad ar gyfer asesiad sCAMHS yn dod i law'r tîm sCAMHS.

Dyddiad gorffen yr amser aros (pwynt aros y cloc)

Dyma'r dyddiad y mae'r apwyntiad wyneb yn wyneb neu rithwir cyntaf cyntaf, fel rhan o'r broses asesu, yn digwydd.  Gall hyn fod â’r claf yn bresennol neu beidio, e.e. y rhiant neu'r gwarcheidwad yn unig.

Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) preswyl

Dyma'r bwrdd iechyd lleol lle mae'r claf yn preswylio.

Darparwr BILl

Dyma'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am reoli triniaeth y claf. 

Mae BILl Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaethau sCAMHS i drigolion BILl Bae Abertawe.

Mae BILl Betsi Cadwaladr yn darparu gwasanaeth CAMHS sydd yn hollgynhwysol o ran Rhan 1 a Rhan 2 o'r Mesur Iechyd Meddwl (sylfaenol ac eilaidd) ac mae ganddo gwmpas ehangach na dim ond atgyfeiriadau gan feddyg teulu neu ymgynghorwyr, i gynnwys pob atgyfeiriwr. Cyfeirir pobl ifanc at y Pwynt Mynediad Sengl (SPOA) i dderbyn naill ai asesiad a chymorth sylfaenol neu eilaidd fel y tybir yn briodol gan yr ymarferydd a ddyrannwyd iddynt. Mae hyn yn berthnasol i atgyfeiriadau gan bob ymarferydd, nid atgyfeiriadau gan feddygon teulu yn unig. Mae pob atgyfeiriad SPOA yn ffurfio'r amseroedd aros a gofnodwyd yn ffurflenni ystadegol Rhan 1 y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol. Mae pobl ifanc sydd angen gofal arbenigol a Chydlynydd Gofal yn cael eu cynnwys yn ystadegau amseroedd aros sCAMHS.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a’r Glasoed (sCAMHS) i drigolion ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hyd at fis Mawrth 2023. O fis Ebrill 2023, cafodd gofal trigolion Bae Abertawe ei drosglwyddo yn ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gan fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnig gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, yn debyg i sefydliadau eraill ledled Cymru, caiff holl drigolion ardal Bae Abertawe sy'n aros am wasanaethau sCAMHS eu hasesu ac adroddir arnynt o dan Ran 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Wythnosau'n aros

Mae cyfrif yr amser aros yn dechrau o ddyddiad dechrau'r cloc ac yn dod i ben ar ddyddiad y cyfrifiad, sef diwrnod olaf pob mis. Adroddir ar yr amseroedd aros wedi'u grwpio o fewn bandiau amser a ddisgrifir mewn wythnosau, hyd at 40 wythnos o aros. Adroddir ar bob arhosiad y tu hwnt i hynny mewn un grŵp.

Defnyddwyr a defnydd

Mae dealltwriaeth o dueddiadau mewn amseroedd aros a maint y gwaith a wneir mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol i'r rhai sy'n ymwneud â chynllunio a gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol.

Credwn mai prif ddefnyddwyr ystadegau cyllid llywodraeth leol yw:

  • gweinidogion a'u cynghorwyr;
  • Aelodau’r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn Senedd Cymru
  • Swyddogion Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
  • GIG Cymru
  • awdurdodau lleol
  • sefydliadau trydydd sector / gwirfoddol
  • iechyd meddwl
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau eraill mewn llywodraeth
  • darparwyr  annibynnol
  • y cyfryngau
  • dinasyddion unigol

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • asesu, rheoli a monitro amseroedd aros y GIG ar gyfer gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phroblem iechyd meddwl
  • Cyngor i Weinidogion a briffio ar y perfformiad diweddaraf ledled Cymru yn erbyn Fframwaith Cyflawni’r GIG
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd ar gyfer gwella ansawdd
  • Yn ôl Byrddau Iechyd Lleol y GIG, i feincnodi eu hunain yn erbyn Byrddau Iechyd Lleol eraill
  • cyfrannu at erthyglau newydd sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru
  • er mwyn helpu i benderfynu ar y gwasanaeth y gallai'r cyhoedd ei dderbyn gan GIG Cymru

Os ydych chi'n ddefnyddiwr ac nad ydych chi'n teimlo bod y rhestr uchod yn eich cwmpasu'n ddigonol, neu os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy e-bostio hss.performance@llyw.cymru.

Cryfderau a chyfyngiadau’r data

Cryfderau

  • Caiff yr wybodaeth ei phrosesu a'i chyhoeddi'n fisol (yn StatsCymru ac mewn pennawd ar wefan Llywodraeth Cymru) mewn modd trefnus er hwylustod mynediad a defnydd.
  • Mae'r allbynnau'n canolbwyntio'n glir ar Gymru ac fe'u datblygwyd i ddiwallu anghenion mewnol ac allanol defnyddwyr yng Nghymru. Darperir gwybodaeth gan y BILl. Cyhoeddir ffigurau a chanrannau.
  • Mae'r data'n galluogi defnyddwyr i asesu, rheoli a monitro amseroedd aros y GIG ar gyfer gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phroblem iechyd meddwl.

Cyfyngiadau

  • Bwriedir gwybodaeth StatsCymru ar gyfer cynulleidfa fwy hyddysg, heb fawr o esboniad i alluogi defnyddwyr eraill i ddehongli'r data'n briodol. Rydym yn annog defnyddwyr i gyfeirio at yr adroddiad ansawdd / pennawd hwn i gael mwy o gefndir.
  • Nid oes data wedi’u mapio.
  • Oherwydd y gweinyddiaethau datganoledig a pholisïau a deddfwriaeth wahanol, mae llai o gyfle i wneud cymariaethau uniongyrchol â’r DU.
  • Cyfyngedig yw’r sylwebaeth yn y prif ddata misol.

Y cylch prosesu data

Casglu data

Mae'r Is-adran Cyflawni a Pherfformiad yn Llywodraeth Cymru yn derbyn ffurflenni monitro amseroedd aros apwyntiadau cyntaf sCAMHS misol gan bob un o'r BILlau. Mae safonau sy'n ymwneud â'r ffurflenni hyn wedi'u hadolygu a'u pasio gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB) a'r Grŵp Hysbysiad Newid Safonau Data (DSCN).

Dilysu a chadarnhau

Mae'r Is-adran Cyflawni a Pherfformiad yn lanlwytho'r data a dderbynnir yn fisol. Mae'r system prosesu data a ddefnyddir yn sicrhau nad yw data ar goll o'r ffurflenni. Yna gwneir gwiriadau dilysu a gwirio pellach yn fisol, gan gynnwys, er enghraifft, gwirio tueddiadau yn y data ac unrhyw ostyngiadau sylweddol mewn perfformiad yn erbyn targedau Fframwaith Cyflawni'r GIG. Nodir unrhyw annormaleddau yn y data ac yna codir y rhain gyda'r BILlau i’w galluogi i wirio, cywiro neu roi sylwadau ar eu data a darparu gwybodaeth gyd-destunol lle bo hynny'n berthnasol. 

Cyhoeddi a diwygio

Cynhyrchir yr ystadegau a gyhoeddir gan yr Is-adran Cyflawni a Pherfformiad drwy grynhoi'r wybodaeth a ddarperir gan y BILlau.

Yn fisol rydym yn cyhoeddi pennawd html byr ar ein gwefan sy'n rhoi dolen at dablau StatsCymru a'r adroddiad ansawdd hwn. Cynhyrchir y wybodaeth a gyflwynir yn StatsCymru drwy broses awtomataidd. 

Pe bai data anghywir yn cael eu cyhoeddi, er y byddai hynny'n annhebygol, byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â threfniadau diwygiadau, camgymeriadau a diwygiadau Llywodraeth Cymru. 

Datgelu a chyfrinachedd

Yn dilyn ein hasesiad risg datgelu credwn fod y tebygolrwydd o adnabod claf unigol o'r data a gyhoeddir gennym yn isel iawn, heb i wybodaeth arall am y claf fod yn hysbys eisoes. Felly nid yw gwerthoedd bach wedi'u hatal.

Rydym yn cadw at datganiad ar gyfrinachedd a gweld data, a gyhoeddwyd yn unol â'r gofynion a nodir yn Egwyddor y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Ansawdd

Mae’r Is-adran Cyflawni a Pherfformiad yn glynu wrth y strategaeth ansawdd ac mae hyn yn unol ag Egwyddor 4 y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Yn benodol, mae'r rhestr isod yn manylu ar chwe dimensiwn y System Ystadegol Ewropeaidd a'r modd rydym yn eu dilyn.

Perthnasedd

I ba raddau mae'r cynnyrch ystadegol yn bodloni anghenion y defnyddiwr o ran cwmpas a chynnwys.

Defnyddir yr ystadegau fel mesur perfformiad yn erbyn targedau cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru ac maent yn cyfrannu at asesu, rheoli a monitro amseroedd aros y GIG ar gyfer gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd â phroblem iechyd meddwl. Amlinellir uchod y buddiannau a'r defnydd a wneir o'r data hyn.

Rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod inni sut maent yn defnyddio'r data. Ni fyddai'n bosibl darparu tablau i ddiwallu holl anghenion defnyddwyr, ond nod y tablau a gyhoeddir ar StatsCymru yw ateb cwestiynau cyffredin.

Rydym yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol cyn gwneud newidiadau a, lle bo modd, yn rhoi cyhoeddusrwydd i newidiadau ar y rhyngrwyd ac mewn pwyllgorau a rhwydweithiau eraill er mwyn ymgynghori â defnyddwyr yn ehangach. Ein nod yw ymateb yn gyflym i newidiadau polisi er mwyn sicrhau bod ein hystadegau’n parhau yn berthnasol.

Cywirdeb

Pa mor agos yw canlyniad a amcangyfrifir a’r gwir werth (anhysbys).

Gellir dadansoddi cywirdeb yn ôl gwallau samplu a gwallau nad ydynt yn rhai samplu. Mae gwallau nad ydynt yn rhai samplu yn cynnwys meysydd fel gwallau cwmpas, gwallau diffyg ymateb, gwallau mesur a gwallau prosesu.

Casgliad data sefydledig yw hwn sy'n seiliedig ar ddata 100% h.y. nid sampl.

Ar gyfer y rhan fwyaf o fisoedd, gall pob BILl gyflenwi data ac felly nid oes angen amcangyfrif o'r ffigurau. Lle defnyddir amcangyfrifon, oherwydd nad yw BILl yn gallu cyflenwi data ar gyfer mis penodol, amlinellir hyn yn glir yn y data.

Nid ydym eto wedi ymchwilio i wallau nad ydynt yn wallau samplu. Fodd bynnag, gallai gwallau prosesu ddigwydd lle mae clercod mewn ysbytai yn mewnbynnu data yn anghywir i'w system weinyddol a gallai gwallau mesur ddigwydd gan staff mewn ysbytai sydd â dehongliadau gwahanol o ddiffiniadau. Er mwyn lleihau gwallau nad ydynt yn wallau samplu, darperir safonau a chanllawiau ar gyfer pob ffurflen ddata er mwyn ceisio sicrhau bod BILlau yn cyflwyno gwybodaeth yn unol â'r diffiniadau a'r fanyleb y cytunwyd arnynt. Mae safonau sy'n ymwneud â chasglu data wedi'u hadolygu a'u cymeradwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru. Os bydd gwall nad yw'n wall samplu yn effeithio ar y data, byddwn yn darparu gwybodaeth lawn i ddefnyddwyr i'w galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar ansawdd yr ystadegau, yn enwedig os oes cyfyngiadau.

Mae pob un o'n hallbynnau yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd mewn perthynas â chwmpas, amseru a daearyddiaeth.

Mae gweithdrefnau sicrhau ansawdd ar waith i ddeall ac egluro symudiadau yn y data ac i sicrhau bod y system gyfrifiadurol yn cyfrifo'r ystadegau cyhoeddedig yn gywir.

Pe bai data anghywir yn cael eu cyhoeddi, er y byddai hynny'n annhebygol, byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â Threfniadau diwygiadau, camgymeriadau a diwygiadau Llywodraeth Cymru. 

Amseroldeb a phrydlondeb

Amseroldeb yw'r cyfnod o amser rhwng cyhoeddi'r data a'r cyfnod y mae'r data hwnnw'n cyfeirio ato.  Prydlondeb yw'r cyfnod o amser rhwng y dyddiadau cyhoeddi arfaethedig a’r dyddiad gwirioneddol.

Mae'r holl allbynnau'n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw drwy'r calendr cyhoeddiadau i ddod. At hynny, pe bai angen gohirio allbwn, byddai hynny'n digwydd yn unol â Threfniadau diwygiadau, camgymeriadau a diwygiadau Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cyhoeddi data cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob mis ac yn unol ag anghenion defnyddwyr. 

Hygyrchedd ac eglurder

Hygyrchedd yw pa mor hwylus yw hi i ddefnyddwyr gyrraedd at y data, gan hefyd adlewyrchu'r fformat(au) y mae'r data ar gael ynddynt a'r wybodaeth ategol sydd ar gael.  Eglurder yw ansawdd a digonedd y metadata, y delweddau a’r cyngor ategol.

Cyhoeddir yr ystadegau yn fisol fel pennawd ar ein gwefan ac ar StatsCymru mewn modd hygyrch, trefnus a gyhoeddwyd ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae rhybudd RSS yn tynnu sylw'r defnyddwyr cofrestredig at bob cyhoeddiad.  Cyhoeddir y datganiadau ar yr un pryd ar wefan cyhoeddiadau'r Ystadegau Gwladol ac ar StatsUserNet. Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r allbynnau ar Twitter. Gellir lawrlwytho'r holl ddatganiadau yn rhad ac am ddim.

Mae data manylach hefyd ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru, a gellir trin y data hyn ar-lein neu eu lawrlwytho i daenlenni i'w defnyddio all-lein.

Ein nod yw defnyddio iaith glir yn ein hallbynnau, ac mae pob un ohonynt yn dilyn polisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. At hynny, cyhoeddir ein penawdau yn Gymraeg a Saesneg. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol a enwir yn y datganiad neu drwy hss.performance@llyw.cymru.

Cymaroldeb

I ba raddau y gellir cymharu data dros amser a pharthau.

Lle y ceir hysbysiad ymlaen llaw am newidiadau yn y dyfodol, caiff y rhain eu rhag-gyhoeddi yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru.

Mae safonau a diffiniadau cytûn yng Nghymru yn rhoi sicrwydd bod y data'n gyson ar draws yr holl BILlau.

Er bod gwybodaeth am amseroedd aros ar gael o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni ellir cymharu'r data'n uniongyrchol oherwydd diffiniadau lleol, gwahanol bwyntiau mesur a safonau ym mhob ardal.

Lloegr

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd NHS Digital amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, 2019-20 a oedd yn cyflwyno ystadegau ar yr amser rhwng atgyfeirio a'r ail gyswllt ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, anableddau dysgu ac awtistiaeth yn Lloegr.

Yr Alban

Mae Public Health Scotland yn cyhoeddi Amseroedd Aros Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) bob chwarter.  Mae'r cyhoeddiad hwn yn darparu data misol am nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n aros am driniaeth ar ddiwedd pob mis a'r nifer a ddechreuodd driniaeth yn ystod y mis yn CAMHS yn yr Alban.

Gogledd Iwerddon

Mae'r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn cyhoeddi Amseroedd aros cleifion allanol bob chwarter ac yn cynnwys amseroedd aros cleifion allanol ar gyfer seiciatreg plant a phobl ifanc.

Cydlyniaeth

I ba raddau y mae tebygrwydd rhwng data sy'n dod o wahanol ffynonellau neu drwy wahanol ddulliau, ond sy'n cyfeirio at yr un ffenomen.

Bob mis cesglir y data o'r un ffynonellau a glynu wrth y safon genedlaethol.  Lle ceir newidiadau mewn diffiniadau neu gwmpas, rydym yn nodi hyn yn glir ar y brif dudalen ac yn ychwanegu cafeatau priodol at y data.

Lledaenu

Mae'r holl ddata o ansawdd digonol, yn dilyn y prosesau gwirio sylweddol a amlinellir uchod, i gyfiawnhau eu cyhoeddi.  Caiff yr holl ddata gwirioneddol a ddarperir eu cyhoeddi ar ein gwefan ryngweithiol StatsCymru.

Gwerthuso

Anfonwch eich adborth ar yr ystadegau a'r adroddiad ansawdd hwn at hss.performance@llyw.cymru.