Datganiad data misol sy’n dangos amseroedd aros am apwyntiad cyntaf ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (sCAMHS) ar gyfer Hydref 2024.
Mae'r datganiad hwn wedi'i ganslo
Mae'r datganiad hwn wedi dod i ben.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, bu nifer o ddarparwyr Byrddau Iechyd Lleol wrthi'n ailgynllunio gwasanaethau gan arwain at newid sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu hasesu a'u gweld mewn gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Mae pedwar o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol bellach yn gweithredu system Un Pwynt Mynediad. Dyma system lle mae plant a phobl ifanc sy'n aros am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (sCAMHS) arbenigol yn cael asesiad cychwynnol yng Ngwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol y Bwrdd. Felly, mae'r amseroedd aros am asesiad y Byrddau hyn bellach yn cael eu hadrodd o dan Ran 1 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, yn lle adrodd am amseroedd aros am apwyntiad cyntaf sCAMHS.
Mae manyleb gwasanaeth newydd yn cael ei datblygu ar gyfer gwasanaethau CAMHS ledled Cymru, a bydd honno’n nodi disgwyliadau'r modelau gofal a safonau y dylai'r Byrddau fod yn eu darparu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phryderon iechyd meddwl. Mae anghenion a gofynion data ar gyfer y data hyn yn y dyfodol yn destun archwilio, ochr yn ochr â'r gwaith hwnnw ar hyn o bryd.
Byddem yn croesawu unrhyw ymholiadau neu adborth ynghylch gofynion ar gyfer y data hyn yn y dyfodol. Cysylltwch â hss.performance@llyw.cymru.