Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ystadegau diweddaraf ar berfformiad Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Mae staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n galed iawn ac mae cynlluniau cadarn yn cael eu gwneud ar gyfer y gaeaf. Does ond angen sylweddoli bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bodloni ei darged ar gyfer y cleifion mwyaf difrifol, y rheini yn y categori “coch”, a bod gwelliannau wedi cael eu gwneud yn erbyn y targed 4 awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Ionawr i werthfawrogi hynny. Mae’r gostyngiad a welwyd am yr ail fis yn olynol yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal hefyd yn destun calondid. Cafodd y gwelliannau hyn eu gwneud er gwaetha’r pwysau eithriadol a wynebwyd. Dim ond un mis Ionawr prysurach na’r mis diwethaf a brofwyd erioed yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys.
Rydyn ni’n cydnabod bod gormod o bobl yn treulio cyfnodau hir mewn adrannau brys wrth aros am wely yn yr ysbyty. Rhyddhawyd £40m arall gennym y gaeaf hwn ac rydyn ni’n disgwyl i’r sefyllfa wella felly.
Mae amseroedd aros am ofal wedi’i drefnu yn cael eu heffeithio’n sylweddol gan y ffaith bod meddygon yn lleihau eu horiau oherwydd newidiadau i reolau treth pensiynau CThEM. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y newidiadau hynny. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, oherwydd y newidiadau hyn, collwyd tua 3,200 o sesiynau, ac effeithiwyd ar bron i 27,000 o gleifion. Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i ddatrys y mater hwn ar fyrder.