Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth yn atgoffa pobl bod yr ymgynghoriad ar gynlluniau ar gyfer y drydedd bont dros y Fenai yn dod i ben ddydd Gwener 9fed Mawrth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ymgynghoriad, a ddechreuodd ar 15 Rhagfyr 2017 yn edrych ar bedwar opsiwn i gynyddu capasiti dros yr Afon Menai i fodurwyr, cerddwyr a beicwyr.

Yr opsiynau sy'n cael eu hystyried yw:

Yr Opsiwn Coch:

  • Pont newydd yn union i'r gorllewin o Bont  Britannia
  • Gwelliannau i'r A55 ar Gyffordd 8A

Dewis Pinc:

  • Ymestyn Pont Britannia / pont newydd yn union i'r dwyrain o'r bont bresennol i ddarparu lonydd traffig ychwanegol  
  • Gwelliannau i'r A55 ar Gyffordd 8A

Dewis Oren:

  • Pont newydd yn union i'r dwyrain o Bont  Britannia
  • Gwelliannau i'r A55 ar Gyffordd 8A

Dewis Porffor:

  • Pont newydd i'r dwyrain o Bont Britannia
  • Gwelliannau i'r A55 ar gyffyrdd 8 ac 8A

Cynhaliwyd Arddangosfeydd Ymgynghoriad Cyhoeddus hefyd yn Llanfairpwll a Pharc Menai, Bangor yn ystod Ionawr ble y gallai pobl adael eu sylwadau a dysgu mwy am yr opsiynau a'r mathau o bontydd sy'n cael eu hystyried.

Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori, bydd pob ymateb yn cael ei ystyried yn ofalus ochr yn ochr â'r gwerthusiadau amgylcheddol, technegol ac economaidd cyn datblygu'r cynllun ymhellach. Y nod yw cyhoeddi'r newidiadau a'u rhoi ar waith ar ddechrau haf 2018.

Mae cam dylunio a datblygu gwerth £3 miliwn y drydedd bont yn rhan o'r gyllideb dros 2 flynedd a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru a Plaid Cymru.

Meddai Ken Skates:

"Mae'r drydedd bont ar draws y Fenai yn ddatblygiad sylweddol fydd yn gwella cadernid y rhwydwaith, yn cynnig amseroedd teithio gwell ac yn lleihau tagfeydd traffig yn yr ardal.

"Mae hyn yn rhan hollbwysig o gynlluniau buddsoddi Llywodraeth Cymru o fewn seilwaith trafnidiaeth Gogledd Cymru dros y blynyddoedd nesaf, ac mae'r ymgynghoriad yn gyfle rhagorol i bobl gael dweud eu dweud ar yr opsiynau sy'n cael eu hystyried.

"Mae pob ymateb yn hollbwysig i ddatblygu'r prosiect ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i roi eu barn cyn y dyddiad cau o 9fed Mawrth."

Mae rhagor o fanylion y cynlluniau a sut i rannu eich safbwyntiau i'w gweld ar: https://beta.llyw.cymru/trydedd-bont-dros-y-fenai-ar-gyfer-yr-a55