Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dylai plant, lle y bo'n ddiogel ac yn bosibl, allu treulio amser gyda'u rhieni (neu bobl eraill sy'n bwysig iddynt) yn eu cymuned leol, yn eu cartrefi eu hunain neu gartref cyfarwydd aelod o'r teulu neu ffrind. Gwasanaeth byr dymor yw amser teulu dan oruchwyliaeth a gaiff ei gomisiynu a'i ariannu gan Cafcass Cymru fel rhan o asesiad yr ymarferydd ar gyfer y Llys Teulu. Dim ond os yw'n angenrheidiol at ddiben yr asesiad y gwneir atgyfeiriadau, lle mae angen goruchwylio'r amser y mae'r plentyn a'i riant yn treulio gyda'i gilydd yn agos a lle nad oes unrhyw berson addas arall ar gael i wneud hynny.

Beth yw diben amser teulu dan oruchwyliaeth?

  • Amser teulu dan oruchwyliaeth (cyswllt dan oruchwyliaeth) yw pan fydd rhieni yn treulio amser gyda'u plentyn/plant mewn amgylchedd diogel a gaiff ei fonitro'n agos fel rhan o asesiad Cafcass Cymru ar gyfer achosion cyfraith teulu preifat, lle mae angen rhagor o wybodaeth am alluedd rhiant i ddiwallu anghenion ei blentyn/blant yn ddiogel.
  • Caiff amser teulu ei oruchwylio gan ddarparwr gwasanaeth cyswllt wedi'i achredu gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Canolfannau Cyswllt i Blant. Mae'n darparu cofnodion manwl o'r oruchwyliaeth i Cafcass Cymru er mwyn helpu'r ymarferydd i gwblhau ei asesiad a gwneud argymhellion terfynol diogel ar gyfer y plentyn/plant.
  • Gall amser teulu dan oruchwyliaeth gael ei gomisiynu gan Cafcass Cymru er mwyn profi trefniadau amser teulu a sicrhau bod y plentyn/plant yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus i dreulio amser gyda'i riant/gyda'u rhiant cyn i'r llys wneud gorchymyn terfynol.

Cyn gwneud atgyfeiriad ar gyfer amser teulu dan oruchwyliaeth

  • Cyn gwneud atgyfeiriad ar gyfer amser teulu dan oruchwyliaeth, bydd yr ymarferydd a gaiff ei ddyrannu ar gyfer yr achos yn edrych ar amgylchiadau'r teulu unigol ac yn siarad â'r oedolion a'r plentyn/plant sy'n gysylltiedig â'r achos, os yw/ydynt yn ddigon hen. Os bydd o'r farn bod angen gwneud atgyfeiriad i ddatrys y materion yn yr achos, bydd yn trafod hyn ag un o reolwyr Cafcass Cymru. Gyda'i gilydd, byddant yn ystyried yr hyn y bydd sesiynau amser teulu dan oruchwyliaeth yn ei gyfrannu at yr asesiad.
  • Er mwyn i amser teulu dan oruchwyliaeth fod yn bwrpasol ac o fudd i'r plentyn/plant, rhaid bod cyfle realistig i'r plentyn/plant a'r oedolyn a fydd yn treulio amser gydag ef/gyda nhw feithrin cydberthynas gadarnhaol a diogel a all barhau y tu hwnt i'r sesiynau goruchwylio.
  • Bydd yr ymarferydd yn meddwl am yr hyn y gall y gwasanaeth ei gyflawni'n ddiogel ac yn realistig ar gyfer y plentyn/plant, ac yn ystyried unrhyw honiadau o achosion o gam-drin domestig neu bryderon eraill o ran niwed, a chanlyniadau unrhyw wrandawiadau canfod ffeithiau. Bydd yr ymarferydd yn meddwl am effaith atgyfeiriad ar y plentyn/plant a'r oedolion ac yn asesu p'un a fyddai gwneud atgyfeiriad yn ddiogel neu a allai atgyfeiriad arwain at risgiau o niwed corfforol, emosiynol neu seicolegol i blentyn neu oedolyn.
  • Bydd yr ymarferydd yn ystyried sut mae'r plentyn/plant yn teimlo am eu trefniadau ar gyfer treulio amser gyda'r oedolyn yn ofalus. Cyn gwneud atgyfeiriad, bydd yn siarad â'r plentyn/plant am y trefniadau a gaiff eu hawgrymu, ac yn goruchwylio amser teulu gyda'r rhiant dan sylw ar gyfer plentyn/plant iau.

Pryd y mae'n briodol gwneud atgyfeiriad ar gyfer amser teulu dan oruchwyliaeth?

  • Dylid ond gwneud atgyfeiriad fel rhan o asesiad sy'n llywio adroddiad Cafcass Cymru i'r llys.
  • Dim ond pan fydd gobaith realistig i'r plentyn a'r oedolyn feithrin cydberthynas ddiogel a chadarnhaol y tu hwnt i'r ymyriad y mae atgyfeiriad yn briodol.
  • Rhaid i'r llys, a Cafcass Cymru, fodloni eu hunain nad yw unrhyw amser dan oruchwyliaeth a dreulir gyda rhiant yn amlygu'r plentyn neu riant arall i risg barhaus o niwed a bod y broses er lles pennaf y plentyn.

Pryd na fydd gwneud atgyfeiriad ar gyfer amser teulu dan oruchwyliaeth yn briodol?

  • Nid yw atgyfeiriad yn briodol os bydd y plentyn o oed lle y gall fynegi ei safbwyntiau'n glir ac yn gwrthod treulio amser gyda'r rhiant dan sylw.
  • Mae'n bosibl na fyddai atgyfeiriad yn briodol os disgwylir i wrandawiad canfod ffeithiau neu wrandawiad cyfreithiol gael eu cynnal sy'n berthnasol i ddiogelwch a llesiant y plant neu'r oedolion.
  • Nid yw atgyfeiriad yn briodol os na fydd Cafcass Cymru yn cynnal unrhyw asesiad, er enghraifft, ni ddylid gwneud atgyfeiriad ar ddiwedd achosion fel rhan o orchymyn trefniadau plentyn terfynol.

Faint o sesiynau fydd yn cael eu cynnal?

  • Gellir darparu uchafswm o chwe awr o sesiynau amser teulu dan oruchwyliaeth wedi'u hariannu. Fodd bynnag, bydd nifer a hyd sesiynau y gwneir cais i'w cynnal gan yr ymarferydd yn amrywio yn dibynnu ar y materion y mae angen eu hasesu.

Beth yw'r broses atgyfeirio?

  • Yr ymarferydd a ddyrannwyd fydd yn gwneud yr atgyfeiriad, ar ôl trafod ag un o'r rheolwyr. Os bydd llys yn gorchymyn y dylid cynnal amser teulu dan oruchwyliaeth nad yw wedi'i argymell gan ymarferydd Cafcass Cymru, bydd yr ymarferydd a ddyrannwyd yn gwneud yn siŵr bod yr atgyfeiriad yn briodol. Gall hyn olygu y bydd yn cwrdd â'r teulu a'r plentyn cyn gwneud atgyfeiriad. Os bydd yr ymarferydd yn ystyried nad yw'r atgyfeiriad yn ddiogel nac yn briodol, bydd Cafcass Cymru yn ysgrifennu at y llys i esbonio'r materion ac yn ceisio arweiniad ar y ffordd orau o symud ymlaen cyn parhau â'r atgyfeiriad.
  • Tîm Gwasanaethau a Gomisiynir Cafcass Cymru fydd yn gyfrifol am anfon yr atgyfeiriad drwy'r porth diogel at ddarparwr gwasanaeth a gomisiynir a bydd yn rhoi gwybod i'r teulu pan gaiff yr atgyfeiriad ei wneud.

Beth yw cyfrifoldebau'r darparwr amser teulu dan oruchwyliaeth?

  • Y darparwr gwasanaeth sy'n gyfrifol am roi gwybod i Cafcass Cymru o fewn 10 diwrnod gwaith p'un a yw'n derbyn yr atgyfeiriad ai peidio. Ef sy'n gyfrifol am drefnu ymweliadau cyflwyno a'r sesiynau amser teulu dan oruchwyliaeth gyda'r teulu. Bydd yn rhoi gwybod i Cafcass Cymru os nad yw'r rhieni yn ymgysylltu â'r sesiynau ac am unrhyw faterion fel achosion o ymddygiad treisgar, bygythiol neu gamdriniol yn ymwneud â'r teulu. Y darparwr fydd yn gyfrifol am roi gwybod yn uniongyrchol i'r heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol am unrhyw bryderon amddiffyn neu ddiogelu plant yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a'i weithdrefnau diogelu ei hun.