Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd rhagddi, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i roi eu barn ar ei gweledigaeth ar gyfer y sector diwylliant, gydag ychydig llai na mis i fynd nes bydd yr ymgynghoriad yn cau.
Mae'r Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth:
- Dod â phobl ynghyd drwy ddiwylliant
- Hyrwyddo Cymru fel cenedl diwylliant
- Sicrhau bod y sector diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy
Caiff y tair blaenoriaeth hyn eu hategu gan ugain uchelgais drafft sy'n cynnwys sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb yng Nghymru, meithrin cysylltiadau gartref a thramor drwy ddiwylliant a helpu'r sector i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r blaenoriaethau drafft yn berthnasol i'r sector diwylliant cyfan yng Nghymru, o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad. Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol hefyd i bob sefydliad sector cyhoeddus y mae'n ofynnol iddynt gyflawni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o ‘Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn gyfle delfrydol i ymwelwyr â stondin Llywodraeth Cymru gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad gan y staff a rhoi eu hymateb.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt:
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn lle gwych i weld diwylliant Cymru ar waith ac, fel llywodraeth, rydym yn uchelgeisiol o ran ein gweledigaeth ar gyfer y sector nawr ac yn y dyfodol.
Mae diwylliant yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywydau pobl, gan ddod â phobl at ei gilydd a chefnogi cyfiawnder cymdeithasol.
Mae'r blaenoriaethau drafft yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer diwylliant yng Nghymru, gan ddefnyddio'r talentau a'r creadigrwydd sydd gennym o fewn y sector i sicrhau ei fod yn llwyddiannus ac yn gydnerth.
Mae'n hanfodol bod gennym ni safbwyntiau cymaint o bobl â phosib fel rhan o'r ymgynghoriad – rydyn ni eisiau sicrhau bod y Blaenoriaethau'n gweithio i bawb.
Mae ymgynghoriad y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant: 2024-2030 ar agor a bydd yn cau ddydd Mercher 4 Medi.
I weld yr ymgynghoriad a rhoi eich barn ewch i: Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030.