Sut y dylai gweithiwr fferyllol proffesiynol gael amser dysgu gwarchodedig i gefnogi eu datblygiad.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru o'r farn y dylai pob gweithiwr fferyllol proffesiynol gael amser dysgu gwarchodedig o fewn oriau gwaith. Dylai'r amser hwn alluogi gweithwyr fferyllol proffesiynol i gwblhau gweithgareddau addysgol er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol a gwella eu hymarfer, gan sicrhau bod y cleifion yn parhau i gael y gofal gorau.
Mae dyletswydd ar bob gweithiwr fferyllol proffesiynol i gefnogi datblygiad pobl eraill, a chadw'n ymwybodol o'r datblygiadau ym maes meddygaeth a datblygu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion eu cleifion. Dylai cyflogwyr, fframweithiau cytundebol a chymorth proffesiynol ehangach gefnogi hyn er mwyn helpu i sicrhau llesiant y gweithlu.
Cyflwyniad
Bydd amser dysgu gwarchodedig yn galluogi gweithwyr fferyllol proffesiynol i ymgymryd â datblygiad proffesiynol sy'n gyson â'r cwricwla ôl-gofrestru perthnasol, gan arwain at lwybr i ddatblygu a sicrhau gallu proffesiynol ar ôl cofrestru ar gyfer rolau sy'n wynebu cleifion.
Mae'r sefyllfa hon yn gyson â'r strategaeth bresennol ar gyfer y gweithlu, gan gynnwys y rhai a restrir isod.
Nodau fferylliaeth: cyflawni Cymru iachach 2025
Mae nod 5.4 yn nodi:
Sicrhau bod hyblygrwydd i hyfforddi ac amser i hyfforddi a mentora eraill yn rhan annatod o gynlluniau gwaith ac yn weithgareddau gwarchodedig.
Mae nod 7.3 yn nodi:
Sicrhau bod yr holl weithwyr fferyllol proffesiynol (cyflogedig a hunangyflogedig) sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru yn cael eu cefnogi i gael mynediad at addysg a hyfforddiant a’u bod yn gallu darparu gwasanaethau cyson i gleifion yng Nghymru.
Rhagnodi cynnydd: trawsnewid fferylliaeth glinigol ysbyty yng Nghymru ar gyfer gwell gofal cleifion
Mae argymhelliad 19 yn nodi:
Rhaid gwreiddio diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus, gwella ansawdd, gwerthuso gwasanaethau ac ymchwil ymhellach yn y tîm fferylliaeth. Rhaid i ddarparwyr addysg gynllunio hyfforddiant hyblyg o amgylch anghenion y gweithlu.
O fewn yr argymhelliad, mae'r adroddiad yn nodi:
Rhaid i weithwyr fferyllfa proffesiynol gael mynediad at amser gwarchodedig ar gyfer dysgu, gwella ansawdd ac ymchwil a datblygu i helpu i hwyluso hyn.
Cynllun strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer y gweithlu
Mae'r cynllun yn nodi:
Nid yw’r defnydd o gyllid datblygu canolog ar gyfer timau fferylliaeth, wedi’i sicrhau drwy gynllun addysg a hyfforddiant AaGIC, wedi bod cystal ag y dylai oherwydd diffyg amser datblygu neilltuedig, neu oherwydd nad oes modd rhyddhau unigolion gan nad oes digon o weithwyr eraill i gymryd eu lle.
Mae datblygiad personol yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant.[troednodyn 1] Dangosodd arolwg llesiant y gweithlu 2023 y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol fod mwyafrif helaeth o'r gweithlu fferyllol yn wynebu risg uchel o flinder meddyliol, ac mae diffyg dysgu gwarchodedig wedi'i nodi yn un o'r prif ffactorau cyfranogol. Mae sefydliadau sydd â diwylliant o ddysgu hefyd wedi cynyddu cynhyrchiant.[troednodyn 2] Mae amser dysgu gwarchodedig hefyd yn debygol o wneud swydd gweithiwr fferyllol proffesiynol yn yrfa fwy deniadol, gan helpu i ddenu a chadw gweithwyr proffesiynol o safon uchel yn y proffesiwn.
Yn anffodus, nid yw'n ymddangos bod y mwyafrif o'r gweithwyr fferyllol proffesiynol yn elwa ar amser dysgu gwarchodedig. Dangosodd arolwg llesiant (2023) y Gymdeithas fod:
access to protected learning time varied between pharmacy sectors; 93% of respondents working in community pharmacy are offered insufficient or no protected learning time beyond mandatory organisational training, which is much higher reported rate than those working in hospital pharmacy and general practice (83% and 61%, respectively).
Mae Pwyllgor Fferyllol Cymru yn cydnabod bod angen amser i ddatblygu eraill yn y tîm ac mae'n pwysleisio'r cyfrifoldeb sydd ar gyflogwyr a rheolwyr llinell i sicrhau y darperir ar gyfer datblygiad personol pob aelod o staff yn y tîm fferylliaeth.
Mae'r rhan fwyaf o weithwyr fferyllol proffesiynol yn wynebu cleifion ac i'r rhai sy'n symud ymlaen i lefel uwch, dylai fod ganddynt gynllun swydd sy'n cynnwys amser penodedig ar gyfer y 4 piler ymarfer proffesiynol ym maes gofal iechyd:
- ymarfer clinigol
- ymchwil
- arweinyddiaeth a rheolaeth
- addysg a hyfforddiant
Mae'r rhain yn endidau ar wahân a rhaid ystyried amser ar gyfer ymchwil ac i ddatblygu eraill, yn ogystal ag amser i ddatblygu eich hun.
Prif egwyddorion
Y prif egwyddorion yw:
- Rydym yn annog cyflogwyr yng Nghymru i gynnwys amser gwarchodedig ar gyfer datblygiad personol, hyfforddi eraill a gweithgareddau ymchwil o fewn cynlluniau gwaith.
- Rhaid bod gan fferyllwyr sy'n gweithio tuag at asesiadau cymhwyso'r Gymdeithas amser i ymgymryd â dysgu a datblygu sy'n cyfrannu at sicrwydd o'u gallu ar draws y 4 piler ymarfer, neu asesiadau eraill sy'n ofynnol ar gyfer eu rôl. Dylai technegwyr fferyllol sy'n wynebu cleifion hefyd fod yn gweithio ar draws y 4 piler ymarfer, o fewn fframwaith ôl-gofrestru.
- Mae angen cydweithredu er mwyn parhau i recriwtio a hyfforddi mwy o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol, er mwyn sicrhau bod gweithwyr fferyllol proffesiynol yn ystyried Cymru fel lle y gellir eu cefnogi i ragori yn eu gyrfaoedd er budd cleifion.
- Rhaid cefnogi a gwobrwyo gweithwyr fferyllol proffesiynol am eu cyfraniadau at addysgu, gan arddangos arfer gorau mewn cynadleddau a mentora eraill.
- Mae angen ymgorffori cyllid ac ystyriaeth am yr amser dysgu gwarchodedig i mewn i unrhyw gontract ar gyfer gwasanaethau a hyfforddiant, fel trwy gontractau AaGIC a'r contract fferylliaeth gymunedol.
- Dylai'r General Pharmaceutical Council sicrhau bod disgwyliad rhesymol ar gyflogwyr i gefnogi amser dysgu gwarchodedig er mwyn i fferyllwyr allu ymgymryd â gweithgareddau dysgu a datblygu sy'n cefnogi eu datblygiad yn erbyn fframweithiau gyrfa gydnabyddedig.
Galluogwyr
Bu cynnydd sylweddol yng Nghymru hyd yma o ran buddsoddi a rhoi'r amser dysgu gwarchodedig ar waith ar gyfer gweithwyr fferyllol proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys:
- Comisiynodd AaGIC astudiaeth beilot i amser dysgu gwarchodedig a ddechreuwyd gan CureMed yn 2021.[troednodyn 3] Gwerthusodd y prosiect dri dull cyflawni amser dysgu gwarchodedig gwahanol ar gyfer fferyllwyr cymunedol. Dangosodd y canlyniadau pan oedd unigolion yn cael amser gwarchodedig i ehangu eu ‘cwmpas ymarfer’, gwnaethant ddatblygu ystod ehangach o wasanaethau mewn gofal sylfaenol drwy fferyllfeydd cymunedol.
- Dechreuwyd ail gam y peilot ym mis Chwefror 2023 ar gyfer fferyllwyr rhagnodi annibynnol yn benodol, lle cafodd 30 o gynrychiolwyr ryw 6 i 9 mis i ddefnyddio 5 diwrnod o amser dysgu gwarchodedig. Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2024.
- Cyflwyno rhaglen hyfforddiant i fferyllwyr sylfaen ôl-gofrestru AaGIC, sy'n darparu 80 o gredydau ôl-raddedig a thystysgrif ymarfer rhagnodi annibynnol o Brifysgol Caerdydd, ac amser gwarchodedig ymroddedig mewn ymarfer gyda chymorth goruchwylwyr, sy'n gyfwerth â diwrnod yr wythnos i ddysgwyr amser llawn, ac 1 diwrnod y mis wedi'i ariannu ar gyfer amser y goruchwyliwr.
- Mae'r rhaglen hyfforddiant i fferyllwyr sylfaen yng Nghymru yn darparu cyllid ychwanegol i bob goruchwyliwr dynodedig wneud amser i hyfforddi eraill, yn ogystal â darparu amser dysgu gwarchodedig i hyfforddeion am ryw hanner diwrnod yr wythnos.
Bydd cynllun gweithlu fferylliaeth AaGIC yn helpu i gynyddu nifer y fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol i alluogi mwy o gapasiti er mwyn galluogi mwy o amser ar gyfer addysg a hyfforddiant ar draws y gweithlu.
Mae AaGIC yn parhau i ariannu a chefnogi gweithwyr fferyllol proffesiynol i gael gafael ar gyfleoedd datblygu ôl-gofrestru o ansawdd uchel. Cyfrifoldeb AaGIC yw sicrhau bod yr hyfforddiant a ariennir sydd ar gael yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol yn darparu addysg a hyfforddiant o'r lefel gywir er mwyn galluogi ar gyfer asesu a chymhwyso'n llwyddiannus yn erbyn y cwricwla perthnasol lle y bo'n briodol.
Troednodiadau
[1] 5 cam at lesiant meddyliol. Gwefan iechyd meddwl www.nhs.uk a welwyd ym mis Ionawr 2024.
[2] Ahmetaj, G. a Daly, J. (2018), Driving Performance and Productivity: why learning organisations propel and sustain more impact. Towards Maturity: CIPD in focus report.
[3] Bartlett, S. and Bullock, A. (2022), An Evaluation of Models of Support for Community Pharmacy Registrants’ Development. Final report. Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol.