Neidio i'r prif gynnwy

Data am gleifion sy'n treulio llai na 4 awr a mwy na 12 awr nes eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Cafwyd 1,030,680 o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, yr uchaf ar gofnod. Roedd hyn 2.7% yn fwy nag yn 2016-17 (27,016 yn fwy), y cynnydd canran blynyddol mwyaf ers 2006-07. Ar gyfartaledd roedd 2,824 o dderbyniadau y diwrnod, 74 mwy y diwrnod nag yn 2016-17.
  • Treuliodd 81.7% o gleifion llai na 4 awr yn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Mae hyn 0.3 pwynt canran yn llai nag yn 2016-17 a hwn yw’r perfformiad isaf ar gofnod. Er hynny, treuliodd 841,617 o gleifion lai na’r amser targed mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys, sef 19,355 yn fwy nag yn 2016-17 a’r mwyaf ers 2013-14.
  • Treuliodd 38,904 o gleifion mwy na 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, 5,062 yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf ar gofnod. Yn gyffredinol, treuliodd 3.8% o gleifion fwy na 12 awr mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys  yn 2017-18, sef 0.4 pwynt canran yn fwy nag yn 2016-17.
  • Treuliodd cleifion dros oed 85 hirach ar gyfartaledd o’r eiliad iddynt gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

Adroddiadau

Amser a dreuliwyd yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Amser a dreuliwyd yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG, Ebrill 2017 i Mawrth 2018: tablau ychwanegol , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 27 KB

ODS
Saesneg yn unig
27 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.