Neidio i'r prif gynnwy

Cau Pysgodfa Cregyn y Brenin yn 7d a 7e.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r amrywiad sy'n weithredol o 00:01 o'r gloch Ddydd Mercher 15 Mai 2024 fel a ganlyn:  

Cau Pysgodfa Cregyn y Brenin yn 7d a 7e

Yn effeithio ar atodlenni A (11), B (31) ac C (41) trwyddedau cychod dros 10m

10.1 Cychod dros 10 metr ar eu hyd; Gwaherddir pysgota am gregyn y brenin gan ddefnyddio treillrwydi yn adran 7d ICES yn nyfroedd y DU o 00:01 o'r gloch ar 15 Mai 2024 tan 23:59 ar 30 Medi 2024. 

10.2 Cychod dros 12 metr ar eu hyd; Gwaherddir pysgota am gregyn y brenin gan ddefnyddio treillrwydi yn hirsgwar 29E6, 29E7, 30E6 a 30E7 adran 7e ICES yn nyfroedd y DU o 00:01 o'r gloch ar 15 Mai 2024 tan 23:59 ar 30 Medi 2024.