Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Mae pum mlynedd o arloesi ymarferol yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru wedi helpu i wella gweithgynhyrchu yng Nghymru, gyda busnesau'n dysgu gweithio mewn ffordd glyfrach, lleihau gwastraff a chreu cynhyrchion gwell.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers agor ei drysau am y tro cyntaf, mae'r ganolfan ymchwil gwerth £20 miliwn ym Mrychdyn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu mwy na 100 o fusnesau yng Nghymru i wneud cynhyrchion mewn ffordd well, yn gyflymach ac yn wyrddach, wrth gynnal dros 20 o raglenni sy'n dangos i gwmnïau gweithgynhyrchu sut i wella cynhyrchiant a lleihau'r ynni maen nhw'n ei ddefnyddio. Yn fuan ar ôl agor, bu AMRC Cymru, sy'n rhan o Brifysgol Sheffield, yn amhrisiadwy drwy newid yn gyflym i gynhyrchu peiriannau anadlu meddygol a oedd yn achub bywydau yn ystod pandemig Covid-19, gan weithio ar y cyd ag Airbus.

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gweithiodd y ganolfan ar y prosiect Ffatri 4.0, gan ddod ag Airbus a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod at ei gilydd i helpu ffatrïoedd i weithio mewn ffordd glyfrach, i gynyddu cynhyrchiant ac i leihau eu heffaith amgylcheddol drwy dechnolegau newydd. Mae'r Pudding Compartment yn y Fflint wedi gweld manteision y dull hwn, gan ddefnyddio synwyryddion i fonitro tymheredd a faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio, a phrofi sut i osod a threfnu’r ffatri yn ddigidol, ac fe welson nhw fod gweithio mewn ffordd glyfrach fel hyn yn arwain at allbwn uwch ac at ddenu cwsmeriaid newydd.

Dywedodd Jason Murphy, Cyfarwyddwr Strategaeth a Masnach AMRC Cymru: 

Mae wedi bod yn bum mlynedd cyffrous ers i Airbus, Prifysgol Sheffield a Llywodraeth Cymru ymrwymo i gytundeb a ddaeth â'r AMRC i Gymru.

Mewn cyfleuster newydd ar safle Airbus yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth yr AMRC, mae Airbus wedi bod yn datblygu prosesau cydosod adenydd datblygedig ar gyfer y genhedlaeth nesaf o awyrennau un eil – rhaglen hynod bwysig i sector awyrofod y DU.

Ond mae'r ffocws ar gyfer yr AMRC yng Nghymru yn llawer ehangach. Mae galluoedd arloesol wedi helpu busnesau Cymru o wahanol sectorau, gan gynnwys y sector modurol, ynni adnewyddadwy a bwyd a diod, i ddatblygu cynhyrchion gwell a gwella eu prosesau drwy arloesi a thechnoleg.

Rydyn ni'n edrych yn ôl ar y pum mlynedd diwethaf gydag ymdeimlad o falchder, ond mae ein her fwyaf eto i ddod; dros y deng mlynedd nesaf ein nod yw trawsnewid economi Cymru, gan weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i adeiladu sector gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

Mae AMRC Cymru wedi cael effaith enfawr yn ei phum mlynedd gyntaf. Fe wnaethon ni fuddsoddi yn y ganolfan hon oherwydd ein bod yn gwybod y byddai o fudd i ogledd Cymru, gweithgynhyrchu ac economi ehangach Cymru. Mae wedi dod yn rhan hanfodol o'n rhwydwaith ymchwil yn gyflym, gan helpu busnesau Cymru i ddatblygu cynhyrchion newydd a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Fis diwethaf, ehangodd yr AMRC, sy'n rhan o'r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel (HVM Catapult), diolch yn rhannol i fuddsoddiad o £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mewn canolfan ffatri ddigidol newydd yn HVM Catapult Baglan yn Ne Cymru, gan helpu hyd yn oed rhagor o fusnesau yng Nghymru i weithio'n effeithlon wrth leihau eu heffaith amgylcheddol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: 

Mae AMRC Cymru yn ymgorffori’r hyn rydyn ni ei eisiau ar gyfer economi Cymru. Drwy ddod â phrifysgolion, y llywodraeth a busnesau at ei gilydd i gyflymu arloesedd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd, mae AMRC wedi creu swyddi a chyfleoedd ledled Cymru, ac mae eisoes wedi dod yn rhan bwysig o dirwedd fusnes sy'n barod i ddenu buddsoddi pellach a sbarduno cyfleoedd ar gyfer swyddi yma.