Neidio i'r prif gynnwy

Mae AMRC Cymru ymhlith nifer o safleoedd allweddol a fydd yn cynnal y gwaith o wneud peiriannau anadlu yn gyflym, fel rhan o gonsortiwm o fusnesau sydd wedi dod at ei gilydd o dan Her Peiriannau Anadlu’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan adeiladu ar ymdrechion y DU gyfan, bydd gweithgynhyrchu yn dechrau’n gynnar ym mis Ebrill yn y cyfleuster y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno ym Mrychdyn, sy’n cael ei reoli gan Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) enwog Prifysgol Sheffield.

Mae consortiwm Her Peiriannau Anadlu y DU yn cynnwys Airbus, prif denant AMRC, ynghyd â BAE Systems, Rolls Royce, GKN Aerospace a Siemens UK, ymhlith eraill, ac mae’r cwmnïau hyn wedi symud llawer o’u pobl orau o brosiectau allweddol ac wedi neilltuo cryn adnoddau i ddiwallu’r angen cenedlaethol hwn.

Bydd y grŵp yn harneisio eu galluoedd dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu i gynhyrchu yn gyflym y peiriannau anadlu hyn sydd eu hangen yn fawr iawn ar y GIG. Maen nhw wedi derbyn archeb gan Lywodraeth y DU i gynhyrchu o leiaf 10,000 o beiriannau.

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Hoffwn i ddiolch i’r holl fusnesau gwych sy’n rhan o gonsortiwm Her Peiriannau Anadlu y DU am eu rhagoriaeth a’u harloesedd yn ystod yr argyfwng hwn. Dw i wrth fy modd bod Airbus yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn, sydd o’r radd flaenaf, yn AMRC Cymru i helpu i gynhyrchu peiriannau anadlu, a’u bod yn cymryd rhan yn y prosiect cenedlaethol pwysig hwn i achub bywydau. Pan agoron ni AMRC Cymru y llynedd ni allen ni fod wedi rhagweld y byddai’n chwarae rôl mor hanfodol yn ystod argyfwng cenedlaethol o’r fath.

Dywedodd Martin Bolton, Pennaeth Cydosod, Wing of Tomorrow, yn Airbus:

"Mae gan Airbus rôl hanfodol i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Rydyn ni’n rhan o Gonsortiwm Her Peiriannau Anadlu y DU, sydd â’r nod o gyflymu’r gwaith o gynhyrchu’r peiriannau anadlu sydd eu hangen ar yr GIG i achub bywydau. Mae ein peirianwyr a’n timau technoleg yn gweithio’n ddiflin i ymateb i’r her, a dw i’n falch o fod yn rhan o’r tîm.

Meddai Katherine Bennett CBE, Is-lywydd Uwch Airbus yn y DU:

“Mae’r frwydr yn erbyn COVID-19 yn cael effaith ar bob un ohonom. Mae Airbus yn rhan o’r Consortiwm ‘VentilatorChallengeUK’ ac mae’n defnyddio ei sgiliau diwydiannol i gynhyrchu mwy o beiriannau anadlu ar fyrder i gefnogi’r GIG a helpu i achub bywydau. Hoffwn ddiolch i bob un o’n gweithwyr sy’n rhan o hyn am eu hymrwymiad gwych i helpu’r DU yn ystod y cyfnod yma.

Mae rhagor o fanylion am yr Her Peiriannau Anadlu ar gael yma.