Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar gynigion ar gyfer pysgodfa cregyn moch Cymru drwy ymgynghoriad pythefnos rhwng 13 Tachwedd a 27 Tachwedd 2023. Mae hyn wedi cael ei drafod â Grŵp Cynghori ar Gregyn Moch Cymru Mae hyn yn ymwneud â chyfnod trwyddedau cregyn moch 2024–2025 sy'n dechrau ar 1 Mawrth 2024. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffi'r drwydded, a fydd yn cynyddu gyda chostau chwyddiant i £304
  • bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol yn aros yr un fath â 2023–24 sef 4,768 tunnell ac
  • ni fydd unrhyw newid i'r Terfyn Dalfa Misol cychwynnol sef 50 tunnell

Mae manylion sut i ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y llythyr hwn ond byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon ymatebion e-bost at Fisheries.Management@llyw.cymru.

 

Ffi'r drwydded cregyn moch

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei bwriad i godi'r ffi am drwyddedau cregyn moch. Mae hyn yn adlewyrchu costau gweinyddu a rheoli'r bysgodfa, gan gynnwys arolygon asesu stoc, ond heb gynnwys gorfodaeth.

Mae adennill costau a ysgwyddir gan Lywodraeth Cymru wrth reoli'r bysgodfa cregyn moch yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru 2016. Bydd gwneud hyn yn sicrhau ein bod yn gwella'r data sy'n helpu'r bysgodfa.

Y Fethodoleg i bennu Ffi Trwyddedau Cregyn Moch

O gyfnod trwydded 2023–2024 bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y costau'n cael eu cyfrifo'n gywir a'u bod yn gymesur. Ein nod fydd gweithio tuag at adennill costau llawn o fewn pum mlynedd, wrth hefyd geisio sicrhau effeithlonrwydd a lleihau costau i bysgotwyr.

Byddai codi'r ffi yn unol â chwyddiant yn arwain at ffi o £304 am y drwydded. Bydd hyn yn mynd â'r costau a adenillir i 20% o gost arolygon ac mae'n cyfateb i 24% o bris cyfartalog tunnell o gregyn moch.

Y Ffi ar gyfer Cyfnod Trwydded 2024–2025

Cynigir cost o £304 am y drwydded. Bydd amodau'r drwydded yn cael eu cyhoeddi ar ganllawiau Pysgota am Gregyn Moch 2024–2025 ar LLYW.CYMRU.

Terfyn Dalfa Blynyddol

Y Terfyn Dal Blynyddol yw'r cyfanswm cyfunol o gregyn moch y gellir ei gymryd gan yr holl cychod trwyddedig yn ystod cyfnod trwydded. Pwrpas y Terfyn Dal Blynyddol yw gwarchod y stoc cregyn moch a sicrhau bod y bysgodfa yn gynaliadwy.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor i ddatblygu methodoleg ar gyfer cyfrifo'r Terfyn Dalfa Blynyddol. Yng nghyfnod trwydded 2023/2024, gostyngwyd y Terfyn Dalfa Blynyddol llinell sylfaen o 5,298 tunnell 10% i 4,768 tunnell, yn dilyn set gymysg o ganlyniadau dangosyddion sy'n seiliedig ar faint.

Y Terfyn Dalfa Blynyddol ar gyfer Cyfnod Trwydded 2024–2025

Er mwyn llywio'r Terfyn Dalfa Blynyddol a'r Terfyn Dalfa Misol ar gyfer 2024/2025, cwblhaodd Prifysgol Bangor arolwg asesu stoc cregyn moch ym mis Medi 2023. Yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg, ni fydd unrhyw newid i'r Terfyn Dalfa Blynyddol o 4,768 tunnell.

Y Terfyn Dalfa Misol Hyblyg

Y Terfyn Dalfa Misol yw'r uchafswm o gregyn moch y gall pob cwch trwyddedig ei gymryd â photiau o barth Cymru bob mis. Bydd yr un terfyn yn berthnasol i bob cwch Unwaith y bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol wedi'i osod ar gyfer y fflyd drwyddedig, mae'n bwysig nad yw'n cael ei dorri.

Ein nod yw sicrhau bod buddion y bysgodfa'n cael eu rhannu ar draws cyfnod y drwydded yn unol â'r patrymau pysgota hanesyddol. Ar hyn o bryd y Terfyn Dalfa Misol ar 1 Mawrth fydd 50 tunnell gychwynnol oni bai bod tystiolaeth i awgrymu terfyn gwahanol. Yn ystod y misoedd canlynol, bydd ffurflenni dalfa misol oddi wrth ddeiliaid trwyddedau yn cael eu defnyddio i asesu cyfradd y cynnydd tuag at y Terfyn Dalfa Blynyddol. Cynigir i'r Terfyn Dalfa Misol ar gyfer 2024-2025 aros yr un fath.

Sut i ymateb

Os hoffech wneud sylwadau ar y cynigion hyn, e-bostiwch Llywodraeth Cymru yn Fisheries.Management@llyw.cymru

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Gweinidogion Cymru yn prosesu’r wybodaeth bersonol hon, yn unol â’u pwerau statudol, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion sy’n berthnasol i’r ymgynghoriad hwn, neu wrth gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru am ddadansoddi’r ymatebion ymhellach, efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i ofyn inni drosglwyddo’ch data i gorff arall
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu er mwyn arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113