Amodau ar gyfer Gweithredwyr Hurio Preifat
Mae'r amodau hyn yn berthnasol i weithredwyr cerbydau hurio preifat.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r amodau hyn yn gymwys i weithredwyr hurio preifat.
Mae pob cyfeiriad at "Gweithredwr" yn yr amodau hyn isod yn cyfeirio at unigolyn sy'n dal trwydded i weithredu cerbydau hurio preifat a roddwyd yn unol ag Adran 55 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae ‘Awdurdod Trwyddedu’ yn cyfeirio at Gyngor.
Mae i ‘Swyddog awdurdodedig’ yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Ystyrir bod unrhyw ofynion cyfreithiol sy'n gymwys i weithredu trwydded gweithredwr hurio preifat yn amodau o'r drwydded hon, p'un a ydynt wedi'u rhestru'n benodol isod neu yn y polisi ai peidio.
1. Cyffredinol
1.1 Rhaid i'r gweithredwr gynnal gwiriadau digonol i fodloni ei hun mai dim ond gyrwyr addas sy'n cael eu defnyddio (ac a fydd yn parhau i gael eu defnyddio) wrth gynnal ei fusnes. Bydd hyn yn cynnwys gwirio trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat pob gyrrwr a gwneud copi ohoni cyn i'r gyrrwr hwnnw gludo unrhyw deithwyr sy'n talu. Bydd methiant gweithredwr i sicrhau bod gwiriadau priodol yn cael eu cynnal yn codi amheuaeth ynghylch cymhwyster a phriodoldeb y gweithredwr. At hynny, efallai y bydd methu â chymryd camau priodol mewn perthynas â gyrwyr sy'n torri amodau trwydded yn barhaus, hefyd yn codi amheuaeth ynghylch a yw'r gweithredwr yn parhau i fod yn gymwys ac yn briodol.
1.2 Os bydd gweithredwr yn diswyddo neu'n rhyddhau gyrrwr, rhaid iddo hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu ei fod wedi diswyddo'r gyrrwr o fewn 48 awr i'w ddiswyddo, gan nodi'r rhesymau dros wneud hynny.
1.3 Rhaid i'r Gweithredwr hysbysu'r Swyddfa Drwyddedu, yn ysgrifenedig, o fewn 5 diwrnod gwaith, os bydd y Gweithredwr, neu unrhyw un o gyfarwyddwyr y cwmni, neu unrhyw unigolyn a enwir ar y ffurflen gais:
a) yn newid ei gyfeiriad cartref
b) os bydd unrhyw gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn newid ei swyddfa gofrestredig
c) os gwneir newidiadau i berchenogaeth/rheolaeth/partneriaeth y busnes fel y'i nodir yn eich ffurflen gais. Noder y bydd yn ofynnol i berchenogion newydd neu bartneriaid ychwanegol gael datgeliad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ni fydd y broses o drosglwyddo trwydded y gweithredwr wedi'i chwblhau nes i'r Awdurdod Trwyddedu gael copi o'r datgeliad.
d) Os bydd cyfarwyddwr neu berson cyfrifol dynodedig yn peidio â chael ei gyflogi mwyach yn y rôl hon
1.4 Rhaid i'r gweithredwr hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu os bydd ef neu'r unigolyn sy'n rhedeg y busnes yn absennol o'r gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd am 2 fis yn olynol. Wrth wneud hyn, rhaid i'r gweithredwr roi enw'r unigolyn a fydd yn gyfrifol am redeg y busnes ar ei ran yn ystod y cyfnod byr hwn.
1.5 Ni ddylai'r Gweithredwr ddefnyddio unrhyw feddalwedd, technoleg na dyfais arall a all rwystro gweithgareddau cyfreithlon asiantaethau gorfodi na gweithgarwch rheoleiddio'r Awdurdod Trwyddedu, na hwyluso'r defnydd o unrhyw feddalwedd, technoleg neu ddyfais o'r fath.
1.6 Rhaid i'r Gweithredwr gydymffurfio â phob cais rhesymol a wneir gan swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.
2. System gwyno
2.1 Rhaid i Weithredwyr Hurio Preifat neu gynrychiolydd penodedig o'r tu mewn i'r busnes ddechrau ymchwiliad i unrhyw gŵyn a geir gan y cyhoedd o fewn 48 awr i gael y gŵyn.
2.2 Rhaid i'r gweithredwr gynnal cofrestr o gwynion (digidol neu gopi caled), y mae'n rhaid iddi gynnwys y wybodaeth ganlynol:
a. Enw a chyfeiriad/cyfeiriad e-bost yr achwynydd
b. Manylion y gŵyn
c. Amser a dyddiad y digwyddiad honedig
d. Yr amser a'r dyddiad y cafodd y gweithredwr y gŵyn
e. Sut y cafodd y gŵyn e.e. dros y ffôn, drwy e-bost ac ati
f. Enw'r unigolyn a gafodd y gŵyn
g. Enw'r cyflawnwr honedig
h. Os cafodd y gŵyn ei chyfeirio at yr Awdurdod Trwyddedu – yr amser a'r dyddiad y cafodd ei chyfeirio a gan bwy.
i. Manylion y camau a gymerwyd i ddatrys y gŵyn a gan bwy
j. Y dyddiad y datryswyd y gŵyn
2.3 Rhaid i gopi o'r gofrestr gwynion fod ar gael i'w harchwilio gan un o Swyddogion Awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu ar gais. Rhaid cadw'r cofnodion am gyfnod o 6 mis.
2.4 Os bydd y Gweithredwr yn cael cwyn ynghylch gyrrwr trwyddedig, rhaid iddo hysbysu'r achwynydd ar unwaith am ei hawl i gyfeirio ei gŵyn at yr Awdurdod Trwyddedu.
2.5 Bydd y Gweithredwr yn sicrhau bod manylion am sut y gall cwsmer gysylltu â'r gweithredwr os bydd unrhyw gŵyn ynghylch contract i hurio neu gontract honedig i hurio sy'n ymwneud â'i fusnes neu sy'n deillio ohono, yn cael eu dangos ar wefan neu ap hurio'r gweithredwr, neu os na fydd unrhyw lwyfan hurio ar-lein, yn y swyddfa hurio.
2.6 Os bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn cael cwyn, rhaid i'r gweithredwr gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth a/neu ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol a roddir gan swyddog awdurdodedig neu swyddog yr heddlu mewn perthynas â'r gŵyn.
2.7 Rhaid i'r Gweithredwr hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu o fewn 48 awr os bydd y gweithredwr yn cael cwyn ynghylch gyrrwr a weithredir ganddo pan nodwyd bod y gŵyn yn ymwneud ag unrhyw un o'r canlynol:
a) honiadau o gamymddwyn rhywiol (gan gynnwys defnyddio iaith o natur rywiol)
b) ymddygiad hiliol
c) trais (gan gynnwys iaith fygythiol)
d) anonestrwydd gan gynnwys dwyn
e) torri deddfwriaeth cydraddoldeb
f) unrhyw achosion difrifol eraill o gamymddwyn (gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â moduro sy'n ymwneud, er enghraifft, â gyrru'n beryglus neu yrru dan ddylanwad alcohol).
3. Cofnodion Gyrwyr a Cherbydau
3.1 Rhaid i'r Gweithredwr gynnal a diweddaru'r cofnodion canlynol a rhaid iddynt fod ar gael ar unwaith i'w harchwilio os bydd un o swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu neu swyddog yr heddlu yn gofyn amdanynt:
a) enw a chyfeiriad cartref pob gyrrwr cerbyd hurio preifat a weithredir ganddo;
b) manylion gan gynnwys rhif trwydded a dyddiad dod i ben trwydded gyrrwr hurio preifat pob gyrrwr cerbyd hurio preifat a weithredir ganddo;
c) enw a chyfeiriad cartref perchennog pob cerbyd hurio preifat a weithredir ganddo;
d) manylion gan gynnwys rhif plât a dyddiad dod i ben trwydded hurio preifat a rhif cofrestru cerbyd pob cerbyd hurio preifat a weithredir ganddo
4. Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
4.1 Rhaid i bob unigolyn sy'n gwneud cais i roi neu adnewyddu trwydded Gweithredwr Hurio Preifat gyflwyno datgeliad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (wedi'i ddyddio o fewn un mis i ddyddiad y cais) er mwyn bodloni'r awdurdod ei fod yn berson ‘cymwys a phriodol’. Yn achos ceisiadau gan gwmni neu sefydliad, rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni/sefydliad ddarparu datgeliad sylfaenol. Yr ymgeisydd/deiliad y drwydded fydd yn talu cost y gwiriadau hyn.
4.2 Ar ôl i drwydded gael ei rhoi, rhaid i ddeiliaid trwydded gyflwyno datgeliad sylfaenol newydd i'r Awdurdod Trwyddedu bob blwyddyn.
4.3 Ni fydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd eisoes yn dal trwydded gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat gyda'r awdurdod hwn ddarparu'r datgeliad sylfaenol fel rhan o'u cais am drwydded gweithredwr hurio preifat. Ar yr amod bod deiliaid trwydded yn parhau i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat gyda'r awdurdod hwn, ni fydd yn ofynnol iddynt gyflwyno datgeliad sylfaenol bob blwyddyn.
4.4
a) Rhaid i'r gweithredwr weld tystysgrif sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (wedi'i dyddio o fewn un mis i'r gwiriad) unrhyw aelod o staff sydd â mynediad at gofnodion hurio neu sy'n anfon cerbydau.
b) Rhaid i'r gweithredwr gynnal cofrestr o'r holl aelodau o staff a fydd yn cofnodi pryd y cynhaliwyd pob gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio gan un o swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu ar gais. Dylai'r gofrestr gynnwys y canlynol:
i. y dyddiad y dechreuwyd cyflogi'r unigolyn yn y rôl honno
ii. y dyddiad y gwiriodd y gweithredwr dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
iii. enw'r unigolyn a wiriodd dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
iv. Y dyddiad y rhoddodd yr unigolyn y gorau i gyflawni'r rôl honno.
c) Rhaid i'r gofrestr gael ei chadw am 6 mis yn unol â'r cofnodion hurio.
d) Os caiff enw cyflogai ei dynnu oddi ar y gofrestr a'i fod yn ailymuno â'r gofrestr yn ddiweddarach, dylai tystysgrif sylfaenol newydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (neu dystiolaeth o'r defnydd o'r Gwasanaeth Diweddaru) gael ei gweld gan y gweithredwr.
4.5 Os bydd yr ymgeisydd/gweithredwr yn cyflogi, neu'n bwriadu cyflogi, unigolion sy'n ateb galwadau cwsmeriaid neu'n anfon cerbydau, rhaid i'r gweithredwr lunio polisi ar ddefnyddio cyn-droseddwyr yn y rolau hyn. Rhaid i'r polisi fod ar gael i'w archwilio ar gais un o swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.
4.6 Rhaid i'r Gweithredwr fynnu bod pob aelod o staff sy'n ateb galwadau cwsmeriaid neu'n anfon cerbydau yn ei hysbysu o fewn 48 awr am unrhyw euogfarn, gorchymyn rhwymo, rhybuddiad, rhybudd, cerydd neu arestiad am unrhyw fater troseddol tra bydd yn cael ei gyflogi yn y rôl hon.
4.7 Rhaid i'r gweithredwr sicrhau bod gan unrhyw swyddogaethau ateb galwadau ac anfon cerbydau allanol fesurau diogelu digonol ar waith ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed. Rhaid i'r gweithredwr fod wedi gofyn am dystiolaeth o hyn gan y cwmni cyn rhoi'r swyddogaethau hyn ar gontract allanol.
5. Rhoi Gwybod am Euogfarnau
5.1 O fewn 48 awr i gael ei arestio a'i ryddhau am unrhyw reswm, ac yna ar ôl unrhyw euogfarn ddilynol, gorchymyn rhwymo, rhybuddiad, rhybudd, cerydd neu arestiad am unrhyw fater troseddol neu foduro (p'un a gafodd ei gyhuddo ai peidio) a osodir arno yn ystod cyfnod y drwydded, bydd yn rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu gan roi manylion llawn y mater(ion).
Yr hyn y mae'n rhaid hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu amdano:-
a. Unrhyw euogfarn (mater troseddol neu foduro);
b. Unrhyw rybuddiad (a roddwyd gan yr Heddlu neu unrhyw asiantaeth arall);
c. Unrhyw wŷs a gyflwynwyd i chi gan unrhyw Lys Ynadon;
d. Unrhyw rybudd cosb benodedig a roddwyd i chi am unrhyw fater;
e. Unrhyw rybudd neu orchymyn yn ymwneud ag aflonyddu neu unrhyw fath arall o rybudd neu orchymyn o gan y gyfraith droseddol gan gynnwys gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol neu orchmynion tebyg;
f. Unrhyw arestiad am unrhyw drosedd (p'un a gawsoch eich cyhuddo ai peidio);
g. Unrhyw ryddfarn yn dilyn achos troseddol a wrandawyd gan lys;
h. Unrhyw benderfyniad i wrthod rhoi unrhyw fath o drwydded gan unrhyw awdurdod rheoleiddio arall neu unrhyw benderfyniad i
atal unrhyw drwydded o'r fath dros dro, ei dirymu neu beidio â'i hadnewyddu.
6. Safleoedd Busnes
6.1 Rhaid i'r Gweithredwr roi cyfeiriad y safle yn ardal yr Awdurdod Trwyddedu lle y bydd y busnes yn cael ei redeg i'r Awdurdod Trwyddedu.
6.2 Os bydd safle'r gweithredwr yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd, rhaid ei gadw'n lân a'i wresogi, ei awyru a'i oleuo'n ddigonol.
6.3 Bydd y gweithredwr yn sicrhau bod seddi digonol ar gael mewn unrhyw ardal aros a ddarperir i'w defnyddio gan ddarpar hurwyr ac y cedwir yr ardal honno ar wahân yn ffisegol i unrhyw ardal orffwys i yrwyr ac unrhyw ystafell reoli.
6.4 Rhaid arddangos trwydded y gweithredwr hurio preifat mewn man amlwg ar y safle y mae'r gweithredwr yn gweithredu ohono. Dylid dileu unrhyw fanylion personol megis cyfeiriad cartref deiliad y drwydded o'r copi sydd i'w arddangos cyn ei arddangos.
6.5 Bydd y gweithredwr yn rhoi copi o'r amodau trwyddedu hyn i'r cyhoedd ar gais.
7. Cofnodion hurio
7.1 Rhaid i'r gweithredwr gadw cofnod o bob trefniant hurio preifat naill ai'n ysgrifenedig mewn llyfr parhaol addas sydd â rhifau tudalen olynol neu system hurio ac anfon cerbydau gyfrifiadurol.
Os defnyddir llyfr, rhaid i bob cofnod fod yn glir, yn Saesneg ac yn hawdd i'w ddarllen, heb unrhyw rynglinellau na thudalennau gwag.
Os defnyddir system hurio gyfrifiadurol, rhaid bod modd argraffu unrhyw gofnodion y mae swyddog awdurdodedig neu swyddog yr heddlu yn gofyn amdanynt bob amser.
7.2 Ar gyfer pob cais i hurio cerbyd a dderbynnir, caiff cofnod ei wneud yn y llyfr cofnodion neu'r
system hurio ac anfon cerbydau gyfrifiadurol a fydd yn cynnwys y canlynol:
a) Enw'r unigolyn sy'n gwneud y cofnod (os nad yw'n cael ei wneud gan system gyfrifiadurol)
b) Yr amser a'r dyddiad y mae'r cerbyd yn cael ei hurio
c) Enw'r unigolyn y mae'r cerbyd yn cael ei hurio ar ei gyfer
d) Manylion cyswllt yr unigolyn y mae'r cerbyd yn cael ei hurio ar ei gyfer (cyfeiriad e-bost neu rif ffôn)
e) Yr amser a'r man casglu y cytunwyd arnynt, neu, os bydd mwy nag un, yr amser a'r man
casglu cyntaf y cytunwyd arnynt
f) Y gyrchfan – dylai hyn gynnwys, o leiaf, y stryd a/neu enw'r adeilad a'r ardal bost. Lle y bo'n bosibl, dylai gynnwys cod post llawn.
g) Yr amser y cwblhawyd y daith
h) Cyfanswm cost y daith a gwblhawyd
i) Enw gyrrwr y cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat
j) Rhif trwydded gyrrwr y cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat
k) Rhif cofrestru'r cerbyd a huriwyd
l) enw unrhyw unigolyn a ymatebodd i'r cais i hurio cerbyd
m) Enw'r unigolyn a anfonodd y cerbyd (os na chafodd ei anfon gan system gyfrifiadurol)
n) Os yw'n gymwys, enw'r gweithredwr arall y cafwyd cais i hurio cerbyd ganddo
a/neu yr isgontractiwyd y cais am hurio cerbyd.
7.3 Rhaid gwneud unrhyw ddiwygiad i'r cofnod gwreiddiol drwy ychwanegu eitem.
7.4 Rhaid i bob cofnod o drefniant hurio preifat, p'un a gaiff ei gadw mewn llyfr neu ar ffurf ddigidol, gael ei gadw am o leiaf 6 mis o ddyddiad y cofnod olaf a bod ar gael yn hawdd i'w ddarparu i un o swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu neu swyddog yr heddlu i'w archwiliio unrhyw bryd yn ystod oriau gweithredu.
8. Data personol
8.1 Rhaid hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu yn ysgrifenedig am unrhyw ddata personol a gollir drwy gael eu dwyn neu mewn rhyw ffordd arall o fewn 24 awr, a rhaid hysbysu'r heddlu ar unwaith os amheuir bod y data hynny wedi'u dwyn. Noder: efallai y bydd angen hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd fod data wedi'u colli, am ragor o wybodaeth gweler: Report a breach
9. Oriau gwaith
9.1 Rhaid i'r gweithredwr gymryd camau i sicrhau na fydd gyrwyr yn gweithio oriau rhy hir. Ni ddylid caniatáu i yrwyr yrru am fwy na 10 awr y dydd a rhaid iddynt gael seibiant sy'n para o leiaf 30 munud ar ôl gyrru am 5.5 awr. Rhaid i'r gyrrwr hefyd gael seibiant ar ddiwedd y cyfnod hwn, oni bai mai diwedd y diwrnod gwaith ydyw.
10. Yswiriant
10.1 Rhaid i weithredwyr sicrhau bod polisi yswiriant ar waith bob amser ar gyfer pob cerbyd hurio preifat a weithredir, er mwyn cludo teithwyr, ar sail hurio cerbydau neu am dâl drwy eu hurio ymlaen llaw yn unig neu'r cyfryw warant ag sy'n cydymffurfio â gofynion Rhan VI o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.
10.2 Rhaid sicrhau bod gan unrhyw safle sy'n darparu mynediad i aelodau o'r cyhoedd Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
10.3 Rhaid i weithredwyr sicrhau, os bydd cerbyd yn dod o dan bolisi yswiriant fflyd, fod gyrwyr yn ymwybodol o gynnwys y polisi, gan gynnwys ei gyfyngiadau a'i hepgoriadau. Rhaid i'r gweithredwr gadw cofnod, wedi'i lofnodi gan y gyrrwr, yn ffeil gofnodion pob unigolyn pan fydd wedi'i gwblhau. Rhaid darparu copi o gofnodion unrhyw unigolyn , ar gais, i unrhyw un o swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.
11. Rhannu Taith/Car
11.1 Pan gaiff cerbyd ei hurio, rhaid hysbysu hurwyr unigol am drefniadau hurio sy'n rhan o daith a rennir neu daith mewn car a rennir a rhaid i'r hurwyr gydsynio'n benodol i'r trefniadau hynny.
11.2 Fel rhan o gynlluniau rhannu taith/car, rhaid i weithredwyr gynnig yr opsiwn i hurwyr rannu â theithwyr eraill o'r un rhyw yn unig. Os bydd hurwyr yn dewis yr opsiwn hwn, ni chaniateir ychwanegu teithwyr o'r rhyw arall at yr un trefniant hurio.
12. Safonau gwasanaeth
12.1 Rhaid i'r gweithredwr ddarparu gwasanaeth prydlon, effeithlon a dibynadwy i aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol ac, at y diben hwn, rhaid iddo yn benodol:
a) Darparu gwybodaeth a thechnoleg gyfathrebu, cyfleusterau a staff digonol, fel y bo'n briodol.
b) Sicrhau gwasanaeth a gofal cwsmeriaid o'r safon uchaf.
c) Sicrhau, pan fydd cerbyd hurio preifat wedi'i hurio i fod yn bresennol ar amser penodedig mewn man penodedig, y bydd y cerbyd yn cyrraedd y man penodedig erbyn yr amser penodedig, oni fydd achos digonol yn peri oedi iddo neu'n atal hynny rhag digwydd.
d) Sicrhau y caiff unrhyw gyfleusterau ffôn a chyfarpar radio (y gallai fod angen cael Trwydded Radio gan OFCOM ar ei gyfer) eu cadw mewn cyflwr da ac y caiff unrhyw ddiffygion eu hatgyweirio'n brydlon.
13. Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus
13.1 Ni ddylid defnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer trefniant hurio preifat, oni cheir cydsyniad gwybodus yr huriwr.
Nodiadau
XIII. Dylid darllen yr amodau hyn ar y cyd â darpariaethau Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
XIV. Rhaid i weithredwyr gynnal eu busnes yn unol â'r holl ddarpariaethau statudol perthnasol. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth ynglŷn ag iechyd, diogelwch a lles, deddfwriaeth amgylcheddol a deddfwriaeth cydraddoldebau.
XV. Ni ddylai'r Gweithredwr fethu â derbyn cais i hurio cerbyd a wneir gan neu ar ran person anabl sy'n cael ei hebrwng gan ‘gi cymorth’ na gwrthod derbyn cais o'r fath os mai'r rheswm dros fethu neu wrthod yw y bydd y person anabl yn cael ei hebrwng gan y ‘ci cymorth’.
XVI. Caiff methiant i ddatgan unrhyw euogfarn o fewn y terfyn amser penodedig ynghyd â natur yr euogfarn eu hystyried wrth benderfynu a yw deiliad trwydded yn berson cymwys a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat. Gall hyn arwain at atal y drwydded gyrrwr hurio preifat dros dro neu ei dirymu neu benderfynu gwrthod ei hadnewyddu.
XVII. Gallai unrhyw achos o dorri amodau'r drwydded arwain at atal y drwydded dros dro neu ei dirymu.
XVIII. Gall unrhyw un sy'n teimlo ei fod wedi cael cam o ganlyniad i unrhyw amodau a nodir yn y drwydded apelio i'r llys ynadon o fewn 21 diwrnod i'w rhoi.
XIX. Dylai trwydded gael ei hadnewyddu cyn iddi ddod i ben er mwyn sicrhau parhad. Nid oes unrhyw gyfnod gras awtomatig. Mae gweithredu cerbydau hurio preifat heb drwydded yn drosedd.
XX. Rhaid i bob gweithredwr gydymffurfio â'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a dylai fod wedi'i gofrestru â'r Comisiynydd Gwybodaeth.