Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhewch bod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei roi i bob aelod o staff a chydweithiwr sy’n helpu i weinyddu’r cynlluniau.

Amgylchiadau esgusodol

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod myfyrwyr a theuluoedd ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r canolfannau dysgu sy’n parhau i ymateb i’r heriau ac yn helpu i weinyddu’r cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach). Rydym hefyd yn gwerthfawrogi pob ymdrech sy’n cael ei gwneud gan ganolfannau dysgu i sicrhau bod ceisiadau yn cyrraedd myfyrwyr mor gynnar â phosibl, gan gynnwys darparu cymorth i’w helpu i ymgeisio am y grantiau. 

Rydym yn disgwyl i ganolfannau dysgu weithredu a chynnal eu polisïau absenoldeb/presenoldeb eu hunain, ond rydym hefyd yn cydnabod y bydd rhai pobl ifanc ac oedolion yn wynebu amgylchiadau esgusodol, a allai gael effaith anochel ar eu presenoldeb yn ystod eu cyfnod astudio, er enghraifft gofalwyr ifanc/oedolion sy’n ofalwyr sy’n darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu. 

Ers 2017 i 2018, rydym wedi cymryd camau cadarnhaol ac wedi cryfhau canllawiau’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i ganolfannau dysgu, gan gydnabod rôl bwysig gofalwyr ifanc/oedolion sy’n ofalwyr sydd â dyletswyddau gofal di-dâl, at ddibenion presenoldeb. 

Mae templedi cytundeb y cynlluniau LCA a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) hefyd wedi eu haddasu, ac maent yn darparu opsiwn i fyfyrwyr ddatgelu’n wirfoddol os ydynt yn wynebu amgylchiadau esgusodol a allai gael effaith anochel ar eu presenoldeb. Y nod yw sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr yn cael ei drin yn annheg oherwydd ei amgylchiadau personol ac ystyrir sefyllfa y rhai sydd mewn perygl o golli sesiynau gyda disgresiwn. 

Mae Porth Canolfan Ddysgu’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr hefyd yn darparu nodyn atgoffa gweledol pan fydd myfyriwr wedi nodi amgylchiadau esgusodol trwy ei gytundeb dysgu, gan helpu canolfannau dysgu i ystyried yr holl amgylchiadau a gwneud penderfyniadau gwybodus am absenoldebau awdurdodedig ac absenoldebau heb eu hawdurdodi at ddibenion y cynlluniau LCA a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach).

Nid yw'r diffiniad o fyfyriwr agored i niwed wedi'i nodi yn y cynlluniau. Fodd bynnag, byddem yn ystyried ei fod yn cynnwys carfanau megis gofalwyr ifanc/oedolion sy’n ofalwyr, plant sy'n derbyn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal.

Taliadau wedi'u hôl-ddyddio

Ymgeiswyr LCA

Ers 2020 rydym wedi ymestyn y cyfnod i ymgeisydd gael ei ystyried ar gyfer taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio. Gall myfyrwyr cymwys newydd dderbyn taliadau LCA sydd wedi eu dyddio’n ôl i ddechrau eu cwrs yn y flwyddyn academaidd, os daw eu cais i law Cyllid Myfyrwyr Cymru ymhen 13 wythnos (yn lle 8 wythnos) o ddyddiad dechrau eu cwrs. Gall myfyrwyr cymwys sy'n dychwelyd hefyd dderbyn taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio i ddechrau'r cwrs yn y flwyddyn academaidd os yw eu Cytundeb LCA yn cael ei arwyddo/cytuno o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau’r cwrs.

Fodd bynnag, os bydd cais (ar gyfer myfyrwyr newydd) yn dod i law neu os llofnodir Cytundeb LCA (ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd) ar ôl 13 wythnos, bydd y myfyriwr ddim ond yn gymwys ar gyfer taliadau wedi'u hôl-ddyddio i'r dyddiad y daeth ei gais i law Cyllid Myfyrwyr Cymru neu'r dyddiad y llofnodwyd eu Cytundeb LCA. 

Ymgeiswyr Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

O ran ymgeiswyr ar gyfer Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), gallant wneud cais am y grant hyd at naw mis ar ôl iddynt ddechrau eu cwrs. Bydd y grant yn cael ei ôl-ddyddio i ddyddiad dechrau eu cwrs yn y flwyddyn academaidd, yn amodol ar asesiad gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Rhaid i ymgeiswyr hefyd sicrhau eu bod wedi llofnodi eu Cytundeb ar gyfer Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) cyn y gall eu taliadau tymhorol ddechrau.

Gostyngiad yn incwm aelwydydd

Os yw aelwyd ymgeisydd yn profi gostyngiad yn ei hincwm yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol (2022 i 2023), gallant ofyn am Asesiad Incwm Blwyddyn Gyfredol ar gyfer y cynlluniau LCA neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach). Mae hyn yn golygu y bydd amcanincwm ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (2022 i 2023) yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar eu cymhwystra a'u hawl. Gall ymgeiswyr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050 i drafod gostyngiad yn incwm eu haelwyd.

Myfyrwyr annibynnol

Ymgeiswyr LCA

Ar gyfer y cynllun LCA, efallai y bydd ymgeisydd yn cael ei ystyried yn fyfyriwr annibynnol os yw wedi ymddieithrio oddi wrth ei riant/rieni neu ei warchodwr/warchodwyr ac nad yw’n byw gyda nhw. Bydd angen i’r myfyriwr ddarparu gwybodaeth ariannol am ei incwm ei hun ac incwm ei bartner os yw hynny’n berthnasol.

Efallai y bydd ymgeisydd am LCA yn cael ei ystyried yn eithriedig os yw:

  • yn berson sydd wedi gadael gofal
  • yn byw o dan ofal yr awdurdod lleol neu gyda rhieni maeth
  • yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Cynhwysol
  • yn gyfrifol am blentyn
  • yn berson ifanc yn y ddalfa

Os yw’r ymgeisydd yn bodloni unrhyw un neu ragor o’r meini prawf uchod ar gyfer person eithriedig , nid oes angen iddo roi gwybodaeth ariannol am ei aelwyd wrth gwblhau cais am LCA. Bydd rhaid iddo, fodd bynnag, anfon tystiolaeth i Gyllid Myfyrwyr Cymru ynghylch ei statws.

Ymgeiswyr Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

Ar gyfer ymgeiswyr am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) sy’n cael eu cydnabod fel myfyrwyr annibynnol, bydd yr asesiad ariannol o incwm aelwydydd yn seiliedig ar eu hincwm (ac incwm eu partner os yw hynny’n berthnasol). Fodd bynnag, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn defnyddio’r incwm uchaf o’r ddau incwm i asesu hawl y myfyriwr. 

Dyma rai meini prawf a fydd yn golygu bod ymgeisydd yn cael ei ystyried yn fyfyriwr annibynnol at ddibenion Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach):

  • yn 25 oed neu’n hŷn na hynny ar ddiwrnod cyntaf y cwrs
  • yn gyfrifol am blentyn o dan 18 oed
  • yn cefnogi’ch hun yn ariannol am o leiaf dair blynedd cyn dyddiad dechrau’r cwrs
  • wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni am fwy na 12 mis cyn dyddiad dechrau’r cwrs
  • eich rhieni wedi marw
  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar ddiwrnod cyntaf y cwrs

O ran pobl sy’n gadael gofal cydnabyddedig sydd o dan 25 oed, ni fydd angen iddynt roi gwybodaeth ariannol yr aelwyd wrth gwblhau cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach). Bydd rhaid iddynt, fodd bynnag, anfon tystiolaeth at Gyllid Myfyrwyr Cymru i gadarnhau eu statws. Bydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer pobl sy’n gadael gofal yn cael y raddfa uchaf o’r grant sydd ar gael ar gyfer astudiaethau llawnamser neu ran-amser yn awtomatig, yn amodol ar fodloni pob un o’r meini prawf cymhwystra eraill. 

Sut i wneud cais am LCA neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi darparu pecynnau ymgeisio dwyieithog ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 i ganolfannau dysgu cofrestredig. Mae’r ffurflenni a’r canllawiau ar gymhwystra ar gael i’w lawrlwytho o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gellir cysylltu â gwasanaeth dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Is-adran Addysg Uwch yn Llywodraeth Cymru drwy e-bost isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Gellir gwneud cais am fersiwn o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac ieithoedd eraill.