Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi a chynghori gweithwyr proffesiynol mewn amgueddfeydd a'r sector amgueddfeydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwella a chydnabod ansawdd

Rydym yn rhan o'r Cynllun Achredu Amgueddfeydd, partneriaeth o fewn y DU sy'n cael ei redeg gan Arts Council England.

Mae Croeso Cymru yn rhedeg y Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr (VAQAS). Mae hwn yn ychwanegu at safonau ymwelwyr a defnyddwyr sydd eisoes wedi'u cyrraedd ar gyfer Achredu Amgueddfeydd. Mae VAQAS yn cynnig asesiad annibynnol i amgueddfeydd o safbwynt ymwelydd.

Mae VAQAS Amgueddfeydd Cymru ond ar gael i amgueddfeydd achrededig. Rydym yn talu i bob amgueddfa achrededig yng Nghymru i ymuno. Rydym yn ymweld ac yn asesu amgueddfeydd pob 2 flynedd, ac yn rhoi adroddiad llawn.

Mae ein harolygon ymwelwyr yn rhan o arolygon Croeso Cymru. Rydym yn gofyn cwestiynau ychwanegol ynghylch pam fod pobl wedi ymweld ag amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth. 

Mae ein canllaw arwyddocád yn helpu amgueddfeydd i asesu gwerth eitemau i helpu i benderfynu beth i'w gasglu a'i arddangos.

Cymorth ariannol

Mae grantiau cyfalaf ar gael i drawsnewid neu foderneiddio adeiladau amgueddfeydd presennol.

Mae creu amgueddfa newydd yn broses ddrud sy'n cymryd amser, ac mae angen llawer o ymrwymiad hirdymor. Nid yw Llywodraeth Cymru fel arfer yn cynnig cymorth ariannol i amgueddfeydd newydd. Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol yn cyhoeddi canllaw i sefydlu amgueddfa newydd yn llwyddiannus. Cewch hefyd ddarllen y pecyn amgueddfa newydd ar Museums Galleries Scotland.

Gall rhai amgueddfeydd achrededig hawlio TAW yn ôl. Edrychwch a yw eich hamgueddfa yn gymwys drwy ddefnyddio'r ffurflen gais hon.

Paratoi ar gyfer y dyfodol

Mae angen i amgueddfeydd gynllunio ar gyfer staff a newidiadau eraill, i wneud yn siŵr y gallant barhau i ddarparu eu gwasanaethau. Gall ein canllaw a'n templed eich helpu gyda'r cynllunio hwn ar gyfer olyniaeth. Mae angen hyn hefyd ar gyfer y Cynllun Achredu Amgueddfeydd.

Termau Cymraeg

Rydym yn creu geirfa a thermau’n gysylltiedig ag amgueddfeydd yn y Gymraeg, i helpu ymwelwyr a gweithwyr proffesiynol mewn amgueddfeydd. 

Gosod yn erbyn eich treth etifeddiant gyda chyfraniadau o weithiau celf

Gellir cyfrannu gweithiau celf i'r genedl yn lle eich treth etifeddiant mewn amgylchiadau eithriadol. Mae'r Gweinidog Diwylliant yn penderfynu a all Gymru dderbyn unrhyw weithiau celf sy'n cael eu cynnig.

Sicrhau bod ymweliadau yn hawdd a bod pobl yn mwynhau

Mae mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol.

Mae Kids in Museums yn elusen sy'n helpu i sicrhau bod amgueddfeydd yn agored ac yn croesawu plant a phobl ifanc. Rydym wedi cefnogi Kids in Museums yn ariannol ers 2012.