Mae'r adroddiadau hwn yn edrych ar ffactorau sy'n golygu bod aelwyd yn fwy tebygol o ddioddef amddifadedd materol ar gyfer Ebrill 2014 i Fawrth 2015.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amddifadedd Materol (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Yn 2014-15 roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cyfres o gwestiynau ynghylch amddifadedd materol aelwydydd a phlant fel ffordd o fesur tlodi, ac yn arbennig dal canlyniadau tlodi hirdymor ar aelwydydd yn hytrach na straen ariannol tymor byr.
Cynhyrchwyd dau bapur ymchwil yn edrych ar ffactorau sy'n golygu bod aelwyd yn fwy tebygol o ddioddef amddifadedd materol.
Mae'r cyntaf yn defnyddio techneg ystadegol i edrych ar y cysylltiad rhwng pob ffactor unigol a bod mewn amddifadedd materol. Mae'r ail yn ddadansoddiad dyfnach gan ddefnyddio nifer o dechnegau, a hefyd yn edrych ar amddifadedd materol mewn aelwydydd â phlant.
Adroddiadau
Pa aelwydydd sydd fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol?, Ebrill 2014 i Fawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 578 KB
Amddifadedd materol, Ebrill 2014 i Fawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.