Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar Mawrth 2022, data ar blant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol ac incwm isel yng Nghymru.

Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw. Rydym yn diffinio person fel bod mewn amddifadedd materol os ydynt heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio'r Arolwg Adnoddau Teuluol i gyhoeddi ystadegau am blant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yn eu hadroddiad Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) (DWP), wedi'u dangos ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn Lloegr.

Prif ganfyddiadau

Roedd 13% o blant sy'n byw yng Nghymru mewn amddifadedd materol a chartref incwm isel rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2020 a FYE 2022. Cartrefi incwm isel yw’r rhai gyda chyfanswm incwm aelwyd islaw 70% o incwm aelwyd gyfartalog y DU - cyn tynnu costau tai. Y gyfradd gyfatebol ar gyfer Lloegr yw 12% tra bod yr Alban yn 10% ac ar gyfer Gogledd Iwerddon 8%.

Roedd 11% o'r oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw yng Nghymru rhwng FYE 2020 a FYE 2022 mewn amddifadedd materol a chartrefi incwm isel. Dyma'r un gyfradd â'r gyfradd ar gyfer yr Alban. Mae'r cyfraddau cyfatebol yn is ar gyfer Lloegr (9%) ac ar gyfer Gogledd Iwerddon (7%).

Roedd 7% o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru mewn amddifadedd materol rhwng FYE 2020 a FYE 2022 (ni ystyrir incwm i bensiynwyr). Mae'r cyfraddau cyfatebol yn is ar 6% ar gyfer Lloegr, 5% ar gyfer Gogledd Iwerddon, a 4% ar gyfer yr Alban.

Gwybodaeth am yr ansawdd

Y llynedd ni wnaethom gyhoeddi data newydd ar dlodi materol ac incwm isel oherwydd materion yn ymwneud ag ansawdd data'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021, fel y disgrifir yn yr erthygl Mesurau tlodi: Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Eleni, ar gyfer FYE 2022, rydym o’r farn bod ansawdd y data yn gadarn felly rydym yn cyhoeddi'r data arferol ar blant a phensiynwyr, yn ogystal â data newydd ar dlodi materol ac incwm isel ar gyfer pobl oedran gweithio.

Mae'r ddau bwynt data newydd sy'n cael eu cyhoeddi yn rhychwantu cyfnod FYE 2021 ond nid ydynt yn cynnwys data arolwg FYE 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar gyfraddau ymateb yr arolwg. Ar gyfer y ddau bwynt data newydd, mae’r amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 mlynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021.

Ar gyfer FYE 2022, er bod yr effaith ar ymatebion yr arolwg yn llai amlwg na'r flwyddyn flaenorol, arhosodd y cyfyngiadau mewn grym trwy gydol chwarter cyntaf blwyddyn yr arolwg, cyn cael eu dileu'n raddol. Roedd hyn yn golygu efallai na fu'n bosibl i'r rhai a samplwyd cael mynediad at rai gwasanaethau neu gyfleoedd cymdeithasol (megis mynd ar wyliau neu gael torri gwallt) yn ystod FYE 2022, heb ystyried amddifadedd na chyfyngiadau ariannol. Efallai bod rhai o'r bobl hynny yn y sampl wedi ymateb i'r cwestiynau hyn gyda'u hamgylchiadau arferol mewn golwg. Efallai bod eraill wedi ymateb yn unol â’u hamgylchiadau gwirioneddol (yr oedd y cyfyngiadau symud yn effeithio arnynt).

Golyga hyn, ar gyfer FYE 2022, nid oes modd cymharu amcangyfrifon o amddifadedd materol yn llwyr â'r cyfnod cyn y pandemig. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data FYE 2022 ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Nia Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.