Neidio i'r prif gynnwy

Data ar blant mewn amddifadedd materol ac incwm isel a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru, yn seiliedig ar gyfres data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Sut y mesurir tlodi materol?

Ar gyfer plant, mesurir tlodi materol trwy ofyn ymatebwyr i'r arolwg os oes ganddynt fynediad i 21 o nwyddau a gwasanaethau. Os na allant fforddio eitem benodol maent yn cael sgôr, gydag eitemau mwy cyffredin (sy'n eiddo i fwy o bobl) yn rhoi sgôr pwysedig uwch.

Ystyrir bod plentyn mewn tlodi materol ac incwm isel os ydynt yn byw mewn teulu sydd â chyfanswm sgôr o 25 neu fwy allan o 100, ac incwm cyfwerth aelwyd islaw 70% o gyfartaledd (canolrif) y DU cyn talu costau tai.

Gofynnir ymatebwyr sy'n bensiynwyr oed 65 neu'n hŷn a oes ganddynt fynediad at restr o 15 o nwyddau a gwasanaethau. Os nad oes ganddynt eitem benodol (oherwydd cost, iechyd neu argaeledd) maent yn cael sgôr, gydag eitemau mwy cyffredin (sy'n eiddo i fwy o bobl) yn rhoi sgôr pwysedig uwch. Ystyrir bod bensiynwr mewn tlodi materol os ydynt yn byw mewn teulu sydd â sgôr terfynol o 20 neu fwy allan o 100.

Gofynnir i oedolion o oedran gweithio a oes ganddynt fynediad at 9 o nwyddau a gwasanaethau. Os na allant fforddio eitem benodol, mae hyn yn rhoi sgôr iddynt, gydag eitemau sy'n fwy cyffredin yn cael sgôr pwysoli uwch. Ystyrir bod oedolion o oedran gweithio mewn amddifadedd materol ac ar incwm isel os oes ganddynt sgôr amddifadedd materol o 25 neu fwy allan o 100 ac incwm aelwyd o dan 50/60/70% o gyfartaledd y DU (canolrif) cyn talu costau tai. Ystyrir bod y mesur incwm isel ac amddifadedd materol cyfunol ar gyfer oedolion o oedran gweithio yn ystadegau arbrofol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y dull a ddefnyddiwyd yn yr Adroddiad technegol ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (Adran Gwaith a Phensiynau).

Beth y dylai ei gadw mewn cof am dlodi materol?

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Argymhellir na ddylid dadansoddi data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw’r DU ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021 gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw’n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn hon o gymharu â’r lefel cyn y coronafeirws.

Nid yw pwyntiau data sy’n rhychwantu cyfnod y flwyddyn yn diweddu yn 2021 yn cynnwys data arolwg y flwyddyn honno mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau go iawn a ddigwyddodd i incwm, fel y cynllun ffyrlo neu’r cynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol, ddim ond yn cael eu cofnodi yn rhannol yn y gyfres amser.

Effeithiwyd ar ddata a gasglwyd ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2022 hefyd gan bandemig y coronafeirws, ond wedi gwaith dadansoddi helaeth mae Adran Gwaith a Phensiynau’r DU yn fodlon bod lefelau’r gogwydd yn y data sy’n deillio o’r newid modd yn is nag ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021 ac yn cael llai o ddylanwad ar yr ystadegau. Rydym o’r farn bod ansawdd data’r flwyddyn yn diweddu yn 2022  yn gadarn, fodd bynnag cynghorir defnyddio pwyll wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol a dehongli newidiadau mwy.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwella hyder yn ansawdd data y sampl eleni, a oedd yn fwy cynrychioliadol nag yn ystod y pandemig (FYE 2023), gyda phroffil yr ymatebwyr yn agosach at y rhai a ymatebodd i'r arolwg cyn FYE 2021.

Data cyfnewidiol

Ar gyfer dadansoddiadau rhanbarthol mae’r ffigurau tlodi materol yn gyfartaleddau 3 blynedd, ond, er hynny, gall y data fod yn gyfnewidiol, o ganlyniad i faint samplau bychain. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel is-grwpiau megis y rheiny sydd mewn tlodi materol.

Gwahanol fesurau

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy’n cyfrifo’r mesur tlodi materol sydd o fewn y datganiad hwn, gan ddefnyddio’r arolwg adnoddau teulu (FRS). Mae'n cyfeirio at anallu hunan-gofnodedig o unigolion neu gartrefi i fforddio nwyddau a gweithgareddau penodol sy'n nodweddiadol mewn cymdeithas ar adeg benodol mewn amser, ni waeth a byddent yn dewis cael yr eitemau hyn, hyd yn oed os gallent eu fforddio.

Gofynnir ymatebwyr a oes ganddynt 21 o nwyddau a gwasanaethau penodol, gan gynnwys eitemau plentyn, oedolyn ac aelwyd. Os nad oes ganddynt y nwydd neu wasanaeth, gofynnir a yw hyn oherwydd nad ydynt eu heisiau neu oherwydd na allant eu fforddio.

Yna, cyfunir gwybodaeth am blant neu oedolion oedran gweithio mewn amddifadedd materol â gwybodaeth am incwm eu haelwyd (cyn costau tai) ac adroddir ar y ffigurau ynghylch plant neu oedolion oedran gweithio mewn amddifadedd materol ac ar aelwydydd incwm isel.

Adroddwyd ffigurau ar gyfer pensiynwyr mewn amddifadedd materol ond ni chyfunir y rhain â gwybodaeth ar yr incwm yr aelwyd. Y ffynhonnell arall o wybodaeth ar amddifadedd materol yng Nghymru yw’r Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Mesur Arolwg Cenedlaethol yn defnyddio llawer o'r cwestiynau a ddefnyddir yn yr FRS, ond nid yw gwybodaeth am amddifadedd materol yn cael ei gyfuno gyda gwybodaeth ar incwm ar gyfer unrhyw un o'r grwpiau oedran.

Adroddodd yr Arolwg Cenedlaethol ffigurau ar gyfer oedolion, rhieni a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru.

Yr unig ffigurau o’r ddwy ffynhonnell y gellir eu cymharu yw’r rhai am bensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru (ni ellir cymharu’r ffigurau ar gyfer oedolion oherwydd bod sgoriau amddifadedd yr Arolwg o Adnoddau Teulu wedi’u cyfuno ag incwm, ond nid felly sgoriau Arolwg Cenedlaethol Cymru). Y rhesymau posibl pam fod ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer pensiynwyr yn wahanol i ffigurau’r Arolwg o Adnoddau Teulu yw:

  • Gofynnir pensiynwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol am 15 o nwyddau neu wasanaethau, tra gofynnir pensiynwyr yn yr FRS am 21 o nwyddau a gwasanaethau 
  • Mae’r ffigurau yn cyfeirio at gyfnodau amser ychydig yn wahanol – mae'r ffigurau FRS yn gyfartaledd tair blynedd o 2013-14 i 2015-16 tra bo'r ffigurau Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2016-17 
  • Gwahaniaethau yn y sampl o bensiynwyr a ddewiswyd ar gyfer y ddau arolwg.
  • Mae gan y ddau arolwg ffocws gwahanol o ran eu cynnwys. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn gofyn am amrywiaeth o bynciau gwahanol megis barn pobl ar wasanaethau amrywiol, eu hiechyd a lles a’u gweithgareddau, tra bod y FRS yn arolwg sy'n canolbwyntio ar incwm a beth mae pobl yn gallu eu fforddio.