Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r prif ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn dadansoddi manylach, er mwyn diwallu angen/budd y defnyddwyr. Cyhoeddir dadansoddiad manwl ddiwedd y gwanwyn. Bydd adroddiad methodoleg manwl yn cyd-fynd â hyn. Oherwydd gwahaniaethau yn y fethodoleg, ni ellir cymharu amcangyfrifon modelu 2021 o dlodi tanwydd yn uniongyrchol â ffigurau blaenorol.

Gwybodaeth gefndir

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad bob dwy flynedd o'r cynllun i drechu tlodi tanwydd 2021 i 2035. Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Mawrth 2021 a bydd yr adolygiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Comisiynwyd amcangyfrifon wedi'u modelu o dlodi tanwydd 2021 gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) i lywio'r adolygiad cyntaf ac i helpu i baratoi targedau interim i'w hychwanegu i’r cynllun. Mae'r canlyniadau lefel uchel hyn yn cael eu cyhoeddi at ddibenion tryloywder.

Methodoleg

Mae’r amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru wedi'u hailgyfrifo gan BRE i adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Hydref 2021, gan ddefnyddio data sylfaen Arolwg o Gyflwr Tai Cymru 2017-18 a modelu newidiadau i incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd rhwng 2017 a Hydref 2021. Dewiswyd Hydref 2021 fel y pwynt cyfeirio, gan mai dyma ganolbwynt blwyddyn arolwg nodweddiadol. Mae gwelliannau i gartrefi o ran effeithlonrwydd ynni wedi'u cymhwyso yn unol â'r mesurau sy'n debygol o fod wedi'u gosod yn y stoc dai yn ystod y cyfnod hwnnw [troednodyn 1], tra bod effaith y coronafeirws (COVID-19) wedi'i hymchwilio drwy addasu trefn wresogi aelwydydd ag oedolion y rhoddwyd statws 'gweithio o gartref' iddynt. Cyfrifwyd ffigurau 2021 o dan y diffiniad incwm llawn [troednodyn 2] a modelwyd gofynion ynni aelwydydd gan ddefnyddio Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (fersiwn 1.1 BREDEM 2012).

Diffiniadau

A Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all yr aelwyd honno gadw’r cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, caiff aelwyd ei ddiffinio fel unrhyw aelwyd a fyddai’n gorfod gwario mwy na 10% o'i hincwm ar gynnal trefn wresogi ddigonol [troednodyn 3]. Diffinnir unrhyw aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8 a 10% yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. maent yn agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni).

Diffinnir aelwydydd sy'n agored i niwed fel rheini sy’n gartref i berson 60 oed a throsodd, plentyn neu berson dibynnol o dan 16 oed, person sengl o dan 25 oed a/neu berson sy’n anabl neu sydd â salwch hirdymor.

Diffinnir aelwyd incwm is fel aelwyd y mae ei hincwm yn llai na 60% o incwm canolrifol aelwydydd yn y DU cyn costau tai fel y'u cyhoeddir yn flynyddol yn adroddiad HBAI [troednodyn 4].

Y prif ganlyniadau

  • Amcangyfrifwyd bod 196,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 14% o aelwydydd.
  • Amcangyfrifwyd bod 38,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sy'n cyfateb i 3% o aelwydydd.
  • Amcangyfrifwyd bod 153,000 o aelwydydd mewn perygl o dlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 11% o aelwydydd.
  • Amcangyfrifwyd bod 169,000 o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 14% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Amcangyfrifwyd bod 26,000 o aelwydydd agored i niwed yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sy'n cyfateb i 2% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Amcangyfrifwyd bod 141,000 o aelwydydd agored i niwed mewn perygl o dlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 12% o aelwydydd sy'n agored i niwed.
  • Amcangyfrifwyd bod 130,000 o aelwydydd incwm is yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 59% o'r holl aelwydydd incwm is.
  • Amcangyfrifwyd bod 34,000 o aelwydydd incwm is yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sy'n cyfateb i 16% o aelwydydd incwm is.
  • Amcangyfrifwyd bod 58,000 o aelwydydd incwm is mewn perygl o dlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 26% o aelwydydd incwm is.

Effaith COVID-19 ar lefelau tlodi tanwydd

Er mwyn adlewyrchu'r cynnydd mewn gweithio gartref ers dechrau pandemig COVID-19, neilltuwyd statws 'gweithio gartref' i ddetholiad ar hap o oedolion cyflogedig yn set ddata Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 i bontio'r bwlch rhwng y lefelau gweithio gartref cyn y pandemig a’r lefelau ym mis Hydref 2021. Daeth y data ar nifer y bobl sy'n gweithio gartref o'r astudiaeth Deall Cymdeithas [troednodyn 5]. Nodwyd bod cyfanswm o 19% o oedolion cyflogedig yn gweithio gartref, a neilltuwyd trefn wresogi lawn i aelwydydd nad oeddent yn agored i niwed gyda rhywun yn ‘gweithio gartref' (16 awr o wres), gyda thymheredd gofynnol o 21°C yn yr ystafell fyw. 

Yn seiliedig ar y dadansoddiad hwn, roedd gan aelwydydd â phobl ychwanegol sy'n gweithio gartref oherwydd pandemig COVID-19 incwm uwch (incwm canolrifol o £38,800) o gymharu ag aelwydydd heb unrhyw bobl ychwanegol yn gweithio gartref (incwm canolrifol o £23,400). Mae hyn yn adlewyrchu'r gwahaniaeth yn incwm aelwydydd yn ôl statws cyflogaeth. Roedd gan aelwydydd lle’r oedd yr ymatebydd wedi’i gyflogi incwm uwch (incwm canolrifol o £37,100) o gymharu ag aelwydydd lle'r oedd yr ymatebydd yn economaidd anweithgar neu'n ddi-waith (incwm canolrifol o £18,700)

Nid oedd ychwanegu’r rheini a oedd yn gweithio gartref i gyfrif am bandemig COVID-19 a'r cynnydd canlyniadol mewn gweithio gartref wedi cael unrhyw effaith ar nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd, a oedd yn parhau i fod yn 196,000 (14%). Ychwanegwyd llai na 500 o aelwydydd at y categori tlodi tanwydd difrifol (2.7% i 2.8%) ac roedd cynnydd bach yn nifer yr aelwydydd a oedd mewn perygl o dlodi tanwydd o 151,000 (10.9%) i 153,000 (11.1%).

Effaith bosibl y cynnydd ym mhrisiau tanwydd yn 2022

Mae'r cynnydd yn y cap ar brisiau ynni domestig a gyhoeddwyd gan Ofgem ar 3 Chwefror yn golygu bod biliau ynni tanwydd deuol cyfartalog nodweddiadol wedi cynyddu bron £700 y flwyddyn ar 1 Ebrill 2022, cynnydd o 54% [troednodyn 6].  Ar y sail hon, defnyddiwyd yr amcangyfrifon wedi'u modelu ar gyfer tlodi tanwydd yn 2021 i ragweld yr effaith debygol y bydd y cynnydd diweddaraf hwn mewn prisiau yn ei chael ar aelwydydd yng Nghymru.

Mae penderfynyddion eraill tlodi tanwydd, megis gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni domestig ac incwm aelwydydd, yn seiliedig ar ddata ym mis Hydref 2021 ond diwygiwyd prisiau tanwydd i adlewyrchu newidiadau mewn perthynas â thrydan a nwy o’r prif gyflenwad [troednodyn 7], ac addaswyd yr amcanestyniadau ar gyfer amcangyfrifon o brisiau olew gwresogi ar gyfer chwyddiant [troednodyn 8]. O ganlyniad i brisiau tanwydd 2022, y cynnydd mewn biliau ynni canolrifol ar gyfer pob tanwydd oedd: 48% ar gyfer trydan, 109% ar gyfer nwy a 6% ar gyfer olew gwresogi. Mae'r dull hwn yn goramcangyfrif nifer yr aelwydydd y rhagwelir y byddant mewn tlodi tanwydd gan ei fod yn tybio bod pob aelwyd ar y cap ar brisiau [troednodyn 9], ond mae'n rhoi syniad o effaith bosibl y cynnydd mewn prisiau tanwydd ar aelwydydd drwy ddefnyddio mesur tlodi tanwydd Cymru. Yn ogystal, nid yw’r dull hwn yn ystyried cymorth ariannol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a ddarperir drwy’r cynllun cymorth Tanwydd Gaeaf, y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a chynlluniau eraill yn ystod y Gaeaf 2021/2022 a’r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer ddiweddarach yn 2022.

Gan gymryd yr amcangyfrifon wedi'u modelu yn 2021 o dlodi tanwydd, eu diwygio gan ddefnyddio prisiau tanwydd (trydan, nwy o’r prif gyflenwad, ac olew gwresogi) ar 1 Ebrill 2022, a chymryd bod pob aelwyd ar y cap ar brisiau:

  • Gallai hyd at 45% (614,000) o aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022
  • Gallai hyd at 8% (115,000) o aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022
  • Gallai hyd at 15% (201,000) o aelwydydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill 2022

Rhagwelir y bydd effaith bosibl y cynnydd ym mhrisiau tanwydd 2022 ar aelwydydd sy’n agored i niwed yn debyg i’r effaith ar bob aelwyd, fel y nodwyd uchod.

Mae codiadau mewn prisiau ynni yn debygol o gael effaith anghymesur ar aelwydydd ag incwm is, gan eu bod yn gwario cyfran uwch o’u hincwm ar filiau cyfleustodau. Felly ar gyfer aelwydydd ar incwm is gallai fod cynnydd sylweddol gyda hyd at 217,700 (98%) yn cael eu rhagweld mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap pris ym mis Ebrill 2022 a hyd at 91,700 (41%) yn cael eu rhagweld i fod mewn tlodi tanwydd difrifol, gyda gweddill yr aelwydydd ar incwm isel i gyd mewn perygl o dlodi tanwydd (3,500, 2%).

Y camau nesaf

Disgwylir dadansoddiad manwl o'r amcangyfrifon hyn sydd wedi'u modelu ar ddiwedd y gwanwyn. Bwriedir:

  • cymharu â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig
  • trafod newidiadau dros amser yn fanylach
  • trafod tlodi tanwydd yn ôl nodweddion aelwydydd
  • trafod tlodi tanwydd yn ôl nodweddion anheddau
  • cael trafodaeth fanylach y ffactorau sy'n dylanwadu ar dlodi tanwydd; incwm, prisiau tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, a sut y mae'r rhain wedi newid ers cynhyrchu’r amcangyfrifon blaenorol

Atodiad A: crynodeb o’r fethodoleg

Ceir crynodeb byr isod sy’n cynnwys disgrifiadau o’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcangyfrifon tlodi tanwydd 2021 ar gyfer Cymru o dan y diffiniad 10%. Bydd adroddiad methodoleg llawn yn cael ei gyhoeddi ynghyd â dadansoddiad manwl hwyrach yn y gwanwyn.

Diffiniadau

Diffinnir bod aelwyd yn dlawd o ran tanwydd os gwnaethant wario mwy na 10% o’u hincwm ar danwydd. Cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r hafaliad isod:

Image
Tlodi Tanwydd = costau tanwydd wedi'i rannu â incwm

Os yw’r gymhareb o’r hafaliad uchod yn fwy na 0.1, diffinnir bod yr aelwyd yn dlawd o ran tanwydd. Caiff cyfanswm y costau tanwydd ar gyfer aelwyd eu modelu gan ddefnyddio trefn wresogi safonol sy’n ystyried faint o arian y byddai angen i’r aelwyd ei wario ar gostau tanwydd er mwyn cyrraedd y safonau sefydledig ar gyfer cysur yn seiliedig ar trefn gwresogi boddhaol. Diffinnir ‘System wresogi foddhaol’ yw 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd â phobl hŷn (60 oed neu hŷn) neu anabl (pobl sy’n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor). Ar gyfer aelwydydd eraill, ystyrir bod tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr o bob 24 awr yn ystod yr wythnos, ac 16 awr o bob 24 awr ar benwythnosau yn foddhaol.

Diffinnir unrhyw aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8 a 10% yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. maent yn agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni).

Cyfrifo prif elfennau tlodi tanwydd

Defnyddir tair prif elfen i gyfrifo tlodi tanwydd: Incwm, Prisiau Ynni a Gofynion Ynni. Ceir crynodeb isod o’r modd y caiff yr elfennau hyn eu cyfrifo.

Incwm

Mae angen dau ddiffiniad gwahanol o incwm.

Incwm sylfaenol

Caiff hyn ei gyfrifo trwy adio cyfanswm incymau personol pawb yn yr aelwyd (16 oed ac yn hŷn) at ei gilydd, yn ogystal ag unrhyw fudd-dal neu daliadau o ffynhonnell incwm arall y mae’r aelwyd yn eu derbyn (o incwm a enillir, budd-daliadau’r wladwriaeth a chynilion, ac ati) i ddarparu incwm y Brif Uned Budd-daliadau (PBU). Os yw’n berthnasol, caiff incwm o unedau budd-daliadau eraill a’r Taliad Tanwydd Gaeaf (WFP) ei ychwanegu wedyn i roi’r ‘incwm sylfaenol’.

Incwm llawn

Mae hyn yn adeiladu ar ‘incwm sylfaenol’ trwy ychwanegu incwm yn gysylltiedig â thai, gan gynnwys: budd-daliadau yn gysylltiedig â thai (HB), Budd-dal y Dreth Gyngor (CTB), a didyniad o Dreth y Gyngor sy’n daladwy, sef ‘Incwm Llawn yr Aelwyd’.

Prisiau ynni

Mae elfen pris tanwydd cyfrifiad tlodi tanwydd yn cynhyrchu prisiau tanwydd y gellir eu cyfuno’n rhwydd ag allbynnau gofyniad ynni aelwyd i gynhyrchu costau tanwydd.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth am ddull taliadau nwy a thrydan, ond nid yw’n casglu gwybodaeth am yr union dariff neu gyflenwr. Mae ffynonellau data’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn darparu ‘pris cyfartalog uned’ a ‘chostau cyfartalog sefydlog’ (ffioedd sefydlog) nwy a thrydan am ranbarthau cyflenwi ynni ledled y Deyrnas Unedig. Wedyn, caiff y cyfuniad o ddata gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, a’r cyhoeddiad Prisiau Ynni Chwarterol[troednodyn 10] a ddarperir gan BEIS eu cyfuno i gyfrifo ffigur pris tanwydd terfynol. Darperir data arall ar gyfer tanwyddau nad ydynt ar fesurydd o ddata Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ac ar gyfer ychydig o danwyddau prin o gyhoeddiad Sutherland Tables neu werthoedd diofyn SAP.

Gofynion ynni

Un o elfennau tlodi tanwydd yw faint o danwydd sydd ei angen i ddarparu ar gyfer anghenion pob aelwyd, ac o gyfuno hyn â phrisiau tanwydd, mae’n cynhyrchu’r bil tanwydd wedi’i fodelu.

O dan y diffiniad tlodi tanwydd, gellir grwpio’r ynni sydd ei angen i wresogi a phweru cartref yn bedwar categori, sef:

  1. Gwresogi gofod: Es (GJ)
  2. Gwresogi dŵr: Ew (GJ)
  3. Goleuadau ac offer: ELA (GJ)
  4. Coginio: Ec (GJ)

Defnyddir methodoleg Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM)[troednodyn 11] i ragfynegi gofynion ynni aelwyd lle mae:

Cyfanswm gofynion ynni aelwyd = ES + EW + ELA + EC

Mae cyfanswm gofynion ynni aelwyd yn cynnwys gwresogi gofod a dŵr (i fodloni safonau diffiniedig), ynni ar gyfer goleuadau ac offer (gan gynnwys gofynion ar gyfer pympiau, ffaniau a chawodydd trydan, ac ynni a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy), ac ynni ar gyfer coginio. Bydd faint o ynni sydd ei angen i wresogi annedd yn dibynnu ar fanyleb yr adeilad, fel lefelau inswleiddio, systemau gwresogi, lleoliad daearyddol yr annedd, a’r math o adeilad. Bydd galw aelwyd am ynni yn dibynnu ar nifer y bobl o fewn yr aelwyd, arferion yr unigolion hyn a’u ffordd o fyw. Defnyddir gwybodaeth o Arolwg Cenedlaethol Cymru ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru i ddarparu manylion am anheddau ac aelwydydd fel ei gilydd. Defnyddir rhagdybiaethau Data SAP gostyngol (RdSAP) i ddelio â data coll a gellir eu gweld yn nogfen gweithdrefn SAP[troednodyn 12]. Dylid nodi bod y ffigurau bellach yn ymgorffori gwerthoedd diwygiedig, sef gwerthoedd-U (U-values) fel y’u cyhoeddwyd yn RdSAP v9.93.

Darperir data ar nodweddion y ddeiliadaeth, a’r rhanbarth, gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Wedyn, bydd Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn darparu gwybodaeth am nodweddion ffisegol y cartref, a ddefnyddir i lywio modelu defnydd ynni aelwydydd ar gyfer tlodi tanwydd, gan gynnwys:

  • gwybodaeth fanwl am y dimensiynau
  • math o annedd a’i hoedran
  • systemau gwresogi a dŵr poeth
  • ffabrig yr annedd ac amlygiad/cysgodi
  • mesurau effeithlonrwydd ynni

Troednodiadau

[1] Yn seiliedig ar dueddiadau o Arolygon Cyflwr Tai blaenorol Cymru, data o Arolwg Tai Lloegr, data defnyddio solar ffotofoltäig, a gwybodaeth am gynlluniau Llywodraeth y DU megis ECO a'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy.

[2] Gweler Atodiad A yn Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru: 2018 am y diffiniad.

[3] ‘System wresogi foddhaol’ yw 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd â phobl hŷn (60 oed neu hŷn) neu anabl (pobl sy’n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor). Ar gyfer aelwydydd eraill, ystyrir bod tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr o bob 24 awr yn ystod yr wythnos, ac 16 awr o bob 24 awr ar benwythnosau yn foddhaol. Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035

[4Ystadegau aelwydydd sy'n is na'r incwm cyfartalog (Llywodraeth y DU). Dywedir bod aelwyd mewn incwm cymharol isel os yw eu hincwm gwario cyfartal net yn is na'r trothwy a osodwyd ar 60% o'r incwm canolrifol.

[5] Cyfrifwyd amcangyfrifon wedi'u pwysoli o weithwyr a oedd yn aml neu bob amser yn gweithio gartref (amrywiol 'wah') o'r pwynt sylfaenol cyn COVID ym mis Ionawr/Chwefror 2020, ac yna eto ym mis Medi 2021. COVID-19 (Understanding Society)

[6Price cap to increase by £693 from April (Ofgem)

[7Default tariff cap level: 1 April 2022 to 30 September 2022 (Ofgem)

[8Green Book supplementary guidance: valuation of energy use and greenhouse gas emissions for appraisal (Department for Business, Energy & Industrial Strategy)

[9] Mae Ofgem yn amcangyfrif bod 22 miliwn o aelwydydd (8 o bob 10 aelwyd) yn y DU ar dariff ‘diofyn’ safonol y gyflenwr sydd wedi’u diogelu gan y cap ar brisiau ynni ac felly bydd y cynnydd yn y cap pris yn effeithio arnynt. Check if the energy price cap affects you (Ofgem)

[10] Mae'r data prisiau tanwydd mesurydd a ddefnyddir yn y cyfrifiadau tlodi tanwydd yn deillio o brisiau ynni chwarterol BEIS, yn nhablau QEP 2.2.4 a QEP 2.3.4.

[11] Defnyddir methodoleg BREDEM a ddisgrifir yn Henderson J, Hart J, BREDEM 2012 A technical description of the BRE Domestic Energy Model, v1.1, Ionawr 2015.

[12] BRE 2017. Appendix S: Reduced Data SAP for existing dwellings, RdSAP 2012 v9.93.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gowan Watkins
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099