Amcangyfrifon o nifer yr anheddau yng Nghymru yn ôl deiliadaeth ac ar gyfer pob awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon stoc annedd
Prif bwyntiau
- Amcangyfrifwyd 1,472,400 o anheddau yng Nghymru, sydd yn gynnydd o 6% i’w gymharu â 2012.
- Mae stoc perchen-feddiannwyr wedi parhau i gynyddu yn ystod y ddegawd ddiwethaf, ac yn cynrychioli 71% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022 (p).
- Mae nifer y stoc rhent preifat hefyd wedi cynyddu yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac yn cynrychioli 13% o'r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022 (p).
- Mae stoc landlord cymdeithasol cofrestredig wedi parhau i gynyddu dros yr un cyfnod, ac yn cynrychioli 10% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022.
- Mae stoc awdurdodau lleol wedi aros yn weddol sefydlog ers 2016, ac yn cynrychioli 6% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2022.
- Mae cyfran y stoc anheddau y cyfrifir gan bob deiliadaeth wedi aros bron yn gyson ers 2012.
(p) Dros dro (gweler y datganiad am fanylion).
Mae’r datganiad yn cynnwys Atodiad sy’n disgrifio’r dull a ddefnyddir i amcangyfrif y stoc anheddau bob blwyddyn, y gwahaniaeth rhwng amcangyfrif yr anheddau ar 31 Mawrth 2021 a ffigur Cyfrifiad 2021 ar lefel Cymru ac awdurdodau lleol, a’r ffactorau allai effeithio ar y gwahaniaeth rhwng y ddwy set o ddata.
Adroddiadau
Amcangyfrifon stoc annedd: ar 31 Mawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 728 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.