Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o nifer yr anheddau yng Nghymru yn ôl deiliadaeth ac ar gyfer pob awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2020.

O ganlyniad i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), canslwyd rhai o’r casgliadau data tai sy'n bwydo i mewn i'r amcangyfrifon hyn. Amcangyfrifwyd y cydrannau hyn. Mae hyn yn golygu bod mwy o ansicrwydd ynghylch amcangyfrifon y stoc anheddau ar gyfer mis Mawrth 2020. Gweler y datganiad am fanylion llawn.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd 1,437,600 o anheddau yng Nghymru, sydd yn gynnydd o 5% i’w gymharu â 2010.
  • Mae stoc perchen-feddiannwyr wedi parhau i gynyddu yn ystod y ddegawd ddiwethaf, ac yn cynrychioli 70% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2020(p).
  • Mae nifer y stoc rhent preifat hefyd wedi cynyddu yn ystod y deng mlynedd diwethaf, ac yn cynrychioli 14% o'r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2020(p).
  • Mae stoc landlord cymdeithasol cofrestredig wedi parhau i gynyddu dros yr un cyfnod, ac yn cynrychioli 10% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2020.
  • Mae stoc awdurdodau lleol wedi aros yn weddol sefydlog ers 2016, ac yn cynrychioli 6% o’r holl stoc anheddau ar fis Mawrth 2020.
  • Mae cyfran y stoc anheddau y cyfrifir gan bob deiliadaeth wedi aros yn gyson ers 2012.

(p) dros dro (gweler y datganiad am fanylion).

Hysbysiad o ddiwygio

Mae amcangyfrifon o'r rhaniad deiliadaeth ar gyfer Torfaen a Bro Morgannwg (yn Nhabl 2 a Siart 3 o'r adroddiad ac yn nhablau StatsCymru) wedi'u diwygio ar ôl darganfod gwall (sydd bellach wedi'i gywiro).

Adroddiadau

Amcangyfrifon stoc annedd: ar 31 Mawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.