Neidio i'r prif gynnwy

Rhydd yr adroddiad hon amcangyfrifon sy'n seiliedig ar 2018 o'r angen cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2037-38.

Mae amcangyfrifon o'r angen am dai yn chwarae rhan allweddol wrth flaengynllunio ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol a chânt eu defnyddio i lywio'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a datblygu polisi tai.

Cyfyngiadau

Mae'r Amcangyfrifon hyn yn:

  • darparu amrywiaeth o angen am dai ychwanegol yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol a'r data gorau sydd ar gael
  • sail i drafodaeth am benderfyniadau polisi.

Nid yw’r Amcangyfrifon hyn yn:

  • Gallu darogan beth yn union sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol
  • Ffordd o bennu targed tai yng Nghymru
  • Ceisio amcangyfrif nifer yr aelwydydd mewn llety anaddas.

Methodoleg

Mae'r ffigurau yn ymwneud â'r angen am dai ychwanegol ac maent yn seiliedig ar:

  • amcangyfrifon o angen presennol nas diwallwyd
  • angen newydd (amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2014). Nid rhagolygon mo amcanestyniadau aelwydydd, maent yn seiliedig ar dueddiadau blaenorol yn unig ac yn tybio y bydd y tueddiadau hyn yn parhau yn y dyfodol. Yn arbennig, nid yw'r fath amcanestyniadau yn ceisio cyfrif am effaith polisïau yn y dyfodol (er enghraifft, polisïau a allai ddylanwadu ar symudiadau'r boblogaeth) na digwyddiadau.

Canlyniadau allweddol

  • Mae'r ystod o amcangyfrifon yn amlwg yn ehangu wrth fynd ymhellach i'r dyfodol, gan adlewyrchu natur ansicr yr amcangyfrifon hyn.
  • Amcangyfrifir, ar gyfartaledd, y bydd angen rhwng 6,700 a 9,700 o dai ychwanegol bob blwyddyn yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2022-23 (gydag amcangyfrif canolog o 8,300).
  • Mae'r amcangyfrifon o'r angen am dai ychwanegol yn lleihau'n raddol dros y 15 mlynedd nesaf, gan adlewyrchu'r ffaith bod y twf rhagamcanol mewn aelwydydd yn arafu o'r amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2014 (a lywir gan amcanestyniadau o'r boblogaeth yn bennaf).
  • Erbyn canol yr 2030au, amcangyfrifir y bydd angen hyd at 6,500 o dai ychwanegol bob blwyddyn yng Nghymru (gydag amcangyfrif canolog sydd islaw 4,000).

Adroddiadau

Amcangyfrifon o'r angen am dai yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol (sail-2018) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.