Neidio i'r prif gynnwy

Rhydd yr adroddiad hon amcangyfrifon sy'n seiliedig ar 2018 o'r angen cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2022-23 yn ôl daliadaeth.

Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru erthygl ystadegol ar Amcangyfrifon o'r angen am dai yng Nghymru ar lefel genedlaethol a rhanbarthol (yn seiliedig ar 2018).

Mae'r ail gyhoeddiad hwn yn rhannu'r amcangyfrifon o'r angen am dai yn ddwy ddeiliadaeth tai:

  • Tai'r farchnad (perchennog ddeiliad a'r sector rhentu preifat)
  • Tai fforddiadwy (rhenti canolradd a chymdeithasol)

Methodoloeg

Mae’r amcangyfrifon cyffredinol o’r angen am unedau tai ychwanegol ac maent yn seiliedig ar:

  • amcangyfrifon o angen presennol na chaiff ei ddiwallu
  • angen newydd (amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2014) .

Mae'r ffigurau a roddir yn yr erthygl hon yn amcangyfrif yr angen am unedau tai ychwanegol yn ôl deiliadaeth ar sail set o dybiaethau. Dim ond ar gyfer y 5 mlynedd gyntaf o amcangyfrifon (2018/19 i 2022/23) y ceir rhaniad yn ôl deiliadaeth. Bydd angen rhagolygon megis y twf mewn incwm aelwydydd yn y dyfodol a newid i brisiau rhenti preifat yn y dyfodol er mwyn rhannu amcangyfrifon yn ôl deiliadaeth.

Cyfyngiadau

Mae'r amcangyfrifon hyn yn:

  • amcangyfrif sut y gallai'r angen am dai gael ei rannu yn ôl deiliadaeth ar sail set o dybiaethau
  • defnyddio'r ffynonellau data gorau sydd ar gael yn y tybiaethau sylfaenol fel y cytunwyd arnynt gan grŵp arbenigol
  • ffurfio sail trafodaeth ar gyfer penderfyniadau polisi.

Nid yw'r amcangyfrifon hyn yn:

  • ystadegau swyddogol
  • gallu darogan beth yn union sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol
  • cyfystyr â thargedau tai
  • ceisio amcangyfrif nifer y cartrefi mewn llety anaddas

Prif ganlyniadau

  • O dan wahanol amrywiolion o amcanestyniadau aelwydydd, mae'r amcangyfrif o ran unedau tai'r farchnad sy'n ofynnol bob blwyddyn yn amrywio o 3,400 (dim ymfudo) a 5,200 (ymfudo 10 mlynedd) bob blwyddyn. Mae unedau tai fforddiadwy yn amrywio o 3,300 (dim ymfudo) i 4,400 (ymfudo 10 mlynedd).
  • O dan yr amcangyfrifon canolog, byddai angen tua 4,400 o unedau tai'r farchnad a 3,900 o unedau tai fforddiadwy ar gyfartaledd bob blwyddyn rhwng 2018/2019 a 2022/23.
  • Mae'r amcangyfrifon hyn yn awgrymu, ar gyfartaledd, o dan yr amcangyfrifon canolog, y dylai 53% o unedau tai ychwanegol fod yn unedau tai'r farchnad, gyda'r 47% sy'n weddill yn dai fforddiadwy (rhent canolradd neu gymdeithasol) rhwng 2018/19 a 2022/23.
  • O dan ymfudo 10 mlynedd a'r amrywiolyn uwch, mae rhaniad cyfrannol unedau tai ychwanegol yn 54%(r) marchnad a 46%(r) fforddiadwy. O dan dim ymfudo a'r amrywiolyn is, mae rhaniad cyfrannol unedau tai ychwanegol yn 51% tai'r farchnad a 49% tai fforddiadwy.

(r) Diwygiedig ar 06 Mehefin 2019

Gwybodaeth bellach

Mae'r erthygl ystadegol hon wedi'i hategu gan ddata a gyhoeddwyd ar StatsCymru yn ogystal ag adnodd excel lle gall yr holl ffynonellau data a thybiaethau sylfaenol gael eu newid er mwyn nodi'r effaith ar yr amcangyfrifon o unedau tai ychwanegol a rennir yn ôl deiliadaeth. Mae’r adnodd Excel ar gael o dan y pennawd Data isod.

Adroddiadau

Amcangyfrifon o’r angen am dai yng Nghymru fesul deiliadaeth (sail-2018) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 061 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.