Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.

Rhain yw’r set swyddogol o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU a’i gwledydd cyfansoddol, rhanbarthau a siroedd Lloegr, ac awdurdodau lleol a’u ardaloedd cyfwerth.

Seiliwyd y pennawd hwn ar amcangyfrifon poblogaeth canol-2018 ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Prif bwyntiau

  • Ar 30 Mehefin 2018 amcangyfrifwyd yr oedd 3,139,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 0.4% (13,500) ers canol-2017.
  • Amcangyfrifwyd bod mwy o bobl 65 oed a throsodd yn byw yng Nghymru (652,000) na phlant 0 i 15 oed (563,000).

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd yr ONS yn eu cyhoeddi.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.