Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wedi cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol 2023 ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan. Mae'r bwletin hwn yn cyfeirio'n benodol at amcangyfrifon ar gyfer Cymru.
Mae amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 wedi cael eu diwygio gan y SYG i gyfrif am amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudo rhyngwladol i Gymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu bod poblogaeth Cymru yng nghanol 2022 bellach wedi'i hamcangyfrif yn oddeutu 1,000 o bobl yn uwch na'r ffigur a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 23 Tachwedd 2023.
Bydd tablau StatsCymru yn cael eu diweddaru maes o law.
Adroddiadau
Cyswllt
Dan Boon a Steph Harries
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.