Amcangyfrifon aelwydydd: canol-2020
Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn ôl math o aelwyd, poblogaeth a maint cyfartalog ay gyfer canol-2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae amcangyfrifon o aelwydydd yn darparu amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru yn seiliedig ar yr amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf o’r boblogaeth. Maent yn debyg i amcanestyniadau o aelwydydd, ond y gwahaniaeth allweddol rhwng y ddau yw bod yr amcanestyniadau yn seiliedig ar amcanestyniadau o’r boblogaeth yn y dyfodol tra bo’r amcangyfrifon yn seiliedig ar amcangyfrifon o’r boblogaeth yn y gorffennol.
Mae’r amcangyfrifon diweddaraf o aelwydydd yn seiliedig ar amcangyfrifon canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r boblogaeth, a gyhoeddwyd ar 25 Mehefin 2021. Mae’r amcangyfrifon o aelwydydd yn defnyddio data’r cyfrifiadau diweddaraf sydd ar gael o’r boblogaeth ynghylch cyfraddau ffurfio aelwydydd, ac yn eu cymhwyso i amcangyfrifon o’r boblogaeth gyfredol.
Prif bwyntiau
- Rhwng canol 2019 a chanol 2020, cynyddodd nifer yr aelwydydd a amcangyfrifwyd yng Nghymru tua 9,520 (neu 0.7%), i 1.38 miliwn, a hynny yn sgil y cynnydd mewn aelwydydd un person i raddau helaeth.
- Ers i ni ddechrau cyhoeddi amcangyfrifon o aelwydydd yn 1991, mae'r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 23.8%, ac ers 2011, mae wedi cynyddu 5.7%.
- Gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcangyfrifwyd ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru rhwng canol 2019 a chanol 2020.
- Ar lefel Cymru, cynyddodd y nifer yr amcangyfrifir eu bod yn byw ar aelwydydd preifat (neu’r 'boblogaeth aelwydydd') tua 16,500 (0.5%) i 3.1 miliwn.
- Yng nghanol 2020 maint cyfartalog aelwydydd yng Nghymru oedd 2.26 person o gymharu â 2.52 yng nghanol 1991.
Aelwydydd yng Nghymru
Ar ganol-2020
- Aelwydydd un oedolyn ac aelwydydd dau oedolyn heb blant oedd y math mwyaf cyffredin o aelwyd o hyd, gan gyfrif am 32.3% a 31.2% o bob aelwyd.
- Nifer yr aelwydydd â phlant oedd 365,000, gan gyfrif am 26.5% o bob aelwyd.
- Gwelwyd cynnydd yn y nifer o aelwydydd a amcangyfrifwyd yn achos pob math o aelwyd o gymharu â chanol 2019.
- Amcangyfrifwyd mai yn nifer yr aelwydydd un oedolyn heb blant yr oedd y cynnydd canrannol mwyaf (cynnydd o 1.1%).
- Amcangyfrifwyd bod nifer yr aelwydydd un oedolyn sydd â phlant wedi cynyddu 0.9% o gymharu â chanol 2019, yn sgil cynnydd yn nifer yr aelwydydd ag un plentyn yn bennaf.
- Amcangyfrifwyd bod aelwydydd heb blant wedi cynyddu tua 8,700 (0.9%) o gymharu â chanol 2019, ac amcangyfrifwyd bod aelwydydd oedolion â phlant wedi cynyddu tua 800 (0.2%).
Aelwydydd un person
Amcangyfrifir bod nifer yr aelwydydd un person wedi cynyddu ledled Cymru rhwng canol 2019 a chanol 2020, ac mai nhw yw’r math mwyaf cyffredin o aelwyd o hyd.
Ar lefel Cymru gyfan, gwelwyd cynnydd o tua 4,800 (1.1%) yn y nifer a amcangyfrifir o aelwydydd un person ers canol 2019. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei yrru'n bennaf gan aelwydydd dynion 30 oed neu’n hŷn.
Ar ganol-2020
- Amcangyfrifwyd bod cyfanswm nifer y dynion sy'n byw ar aelwydydd un person wedi cynyddu 1.7% ers canol 2019, a bod nifer y menywod sy’n byw ar aelwydydd un person wedi cynyddu 0.5%.
- Amcangyfrifwyd bod pobl 60 oed neu hŷn yn cyfrif am 53.0% o aelwydydd un person, gyda’r rhai 65 oed hŷn yn cyfrif am 44.4% o aelwydydd un person a phobl 75 oed neu hŷn yn cyfrif am 26.5% o aelwydydd un person.
- Yn achos aelwydydd un person grwpiau iau (16 i 59 oed), amcangyfrifir eu bod yn fwy tebygol o fod yn ddynion, ac yn achos grwpiau hŷn (60 oed neu’n hŷn), eu bod yn fwy tebygol o fod yn fenywod.
- Amcangyfrifwyd bod cyfanswm nifer y menywod sy’n byw ar aelwydydd un person yn parhau i fod yn uwch na nifer y dynion sy’n byw ar aelwydydd un person, sef 226,600 ar gyfer menywod o gymharu â 218,700 ar gyfer dynion.
Amcangyfrif awdurdodau lleol o nifer yr aelwydydd
Rhwng canol 2019 a chanol 2020
- Gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelwydydd a amcangyfrifwyd ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru.
- Roedd y cynnydd mwyaf yn nifer yr aelwydydd a amcangyfrifwyd yng Nghaerdydd (tua 1,400), Bro Morgannwg (tua 800) a Chasnewydd (tua 700).
- Roedd y cynnydd canrannol mwyaf ym Mro Morgannwg (cynnydd o 1.5%), Casnewydd (cynnydd o 1.1%) a Thorfaen (cynnydd o 1.0%).
- Bro Morgannwg a Chasnewydd a welodd y cynnydd canrannol mwyaf yn amcangyfrifon canol blwyddyn amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol o'r boblogaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Poblogaeth aelwydydd a’u maint
Yr amcangyfrif o nifer y bobl sy'n byw ar aelwydydd preifat yw poblogaeth aelwydydd. Cyfrifir hyn drwy dynnu nifer y boblogaeth sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol o’r amcangyfrif o gyfanswm y boblogaeth.
Mae sefydliadau cymunedol yn cynnwys cartrefi gofal preswyl, neuaddau preswyl prifysgolion, ysgolion preswyl a charchardai. Gan nad yw amcangyfrifon o boblogaethau sefydliadau cymunedol ar gael yn flynyddol, cyfrifir niferoedd tybiedig ar sail data'r cyfrifiad.
Rhwng canol 2019 a chanol 2020
- Gwelwyd cynnydd o tua 16,500 (0.5%) yn y boblogaeth aelwydydd a amcangyfrifwyd yng Nghymru, o gymharu â chynnydd o tua 13,800 (0.4%) rhwng canol 2018 a chanol 2019.
- Gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth aelwydydd a amcangyfrifwyd ar gyfer 21 o'r 22 awdurdod lleol, gyda'r cynnydd canrannol mwyaf ym Mro Morgannwg (cynnydd o 1.3%) a Chasnewydd (cynnydd o 1.2%).
- Abertawe oedd yr unig awdurdod lleol lle gwelwyd gostyngiad yn y boblogaeth aelwydydd a amcangyfrifwyd (gostyngiad o 0.2%). Mae hyn yn adlewyrchu amcangyfrifon canol 2020 y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r boblogaeth, a ddangosodd mai Abertawe oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru i weld gostyngiad yn ei amcangyfrif o'r boblogaeth rhwng canol 2019 a chanol 2020.
Maint cyfartalog aelwydydd
Nifer y bobl ar bob aelwyd yw maint cyfartalog aelwydydd. Mae'n ffordd o fesur cyfansoddiad aelwydydd ac mae'n ddefnyddiol ar gyfer cymharu gwahanol awdurdodau lleol a chyfnodau amser. Fe'i cyfrifir drwy rannu'r amcangyfrif o boblogaeth aelwydydd â'r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd. Nid yw maint cyfartalog aelwydydd yn newid llawer o flwyddyn i flwyddyn, ond mae wedi newid yn sylweddol ers 1991.
- Mae’r maint cyfartalog aelwydydd a amcangyfrifir yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers 1991, gan adlewyrchu'r cynnydd diweddar mewn aelwydydd un person.
- Yng nghanol 2020, roedd amcangyfrif maint cyfartalog aelwydydd yn 2.26 o bobl fesul aelwyd, yr un fath ag yng nghanol 2019.
- Roedd amcangyfrif maint cyfartalog aelwydydd yn 2.52 yng nghanol 1991 ac yn 2.31 yng nghanol 2011.
Ganol 2020
- Amcangyfrifwyd mai yng Nghonwy (2.16 o bobl fesul aelwyd), Powys (2.17 o bobl fesul aelwyd) a Cheredigion (2.18 o bobl fesul aelwyd) yr oedd maint cyfartalog aelwydydd ar ei isaf o hyd.
- Yng Nghonwy y bu’r amcangyfrif o faint aelwydydd ar ei isaf o holl awdurdodau lleol Cymru ers 2001.
- Roedd 69.0% o holl aelwydydd Powys yn aelwydydd un person neu ddau berson heb blant, ac yng Ngheredigion a Chonwy y ffigurau cyfatebol oedd 68.8% a 68.7% yn y drefn honno.
- Conwy a Phowys oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl 65 oed neu'n hŷn yng Nghymru (27.9% a 27.7% yn y drefn honno) yn ôl amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r boblogaeth.
- Amcangyfrifwyd mai ym Merthyr Tudful yr oedd maint cyfartalog aelwydydd ar ei uchaf (2.40 o bobl fesul aelwyd), ac yno y bu uchaf o holl awdurdodau lleol yng Nghymru ers 2007.
- Merthyr Tudful oedd â'r ail gyfran uchaf o bobl 0 i 15 oed neu’n hŷn yng Nghymru (19.2%) yn ôl amcangyfrifon canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r boblogaeth.
Cymharu ag amcanestyniadau 2018 o aelwydydd
Cyhoeddwyd amcanestyniadau 2018 (awdurdodau lleol) o aelwydydd yng Nghymru ar 4 Awst 2020 ar gyfer y blynyddoedd rhwng canol 2018 a chanol 2043. Mae’r amcanestyniadau yn rhoi syniad o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol tra bo’r amcangyfrifon yn darparu amcangyfrifon yn seiliedig ar dueddiadau diweddar yn y boblogaeth.
I raddau helaeth, gellir esbonio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o aelwydydd a'r amcanestyniadau o aelwydydd gan wahaniaethau rhwng amcangyfrifon ac amcanestyniadau yn ymwneud â’r boblogaeth, yn hytrach nag unrhyw newidiadau mewn cyfraddau ffurfio aelwydydd. Ar lefel Cymru roedd amcangyfrifon canol 2020 o’r boblogaeth 0.5% yn uwch nag amcanestyniadau 2018 ar gyfer 2020.
Ar gyfer canol 2020:
- ar lefel Cymru, roedd yr amcangyfrifon o aelwydydd tua 7,100 (0.5%) yn uwch nag amcanestyniadau 2018 o aelwydydd
- roedd yr amcangyfrifon o aelwydydd yn uwch na'r amcanestyniadau o aelwydydd ar gyfer 20 o'r 22 awdurdod lleol
- yng Ngheredigion yr oedd y gwahaniaeth canrannol mwyaf rhwng yr amcangyfrifon o aelwydydd a’r amcanestyniadau o aelwydydd, lle'r oedd yr amcangyfrifon 1.7% yn uwch na'r amcanestyniadau (ychydig dros 500 aelwyd)
- Abertawe a Merthyr Tudful oedd yr unig ddau awdurdod lleol yr oedd eu hamcangyfrifon o aelwydydd yn is na'r amcanestyniadau o aelwydydd
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Cyhoeddir gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg yn ddiweddarach yn 2021, gyda mwy o fanylion am yr amcangyfrifon hyn, yn ogystal ag am yr amcanestyniadau o aelwydydd a phoblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol (gan gynnwys amcanestyniadau o senarios amrywiol).
Nid yw'r amcangyfrifon hyn o aelwydydd yn gyfrif o union nifer yr aelwydydd yng Nghymru, gan fod rhywfaint o ansicrwydd yn rhan annatod o'r amcangyfrif o'r boblogaeth yn ogystal â chyfraddau ffurfio aelwydydd. Mae amcangyfrifon o’r boblogaeth a chyfraddau ffurfio aelwydydd yn gynyddol ansicr wrth symud ymhellach o'r cyfrifiad diweddaraf, ac mae'r set bresennol o amcangyfrifon o’r boblogaeth ac o aelwydydd yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n gyfrifol am y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, am gyhoeddi data Cyfrifiad 2021 rhwng gwanwyn 2022 a gwanwyn 2023. Caiff yr amcangyfrifon hyn o aelwydydd eu diweddaru yn unol â data’r cyfrifiad diweddaraf unwaith y caiff ei ryddhau.
Cymharedd a chysondeb
Cymharu ag amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o aelwydydd
Mae Arolwg Blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r Boblogaeth hefyd yn rhoi amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru yn ôl math o aelwyd (SYG). Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn amrywio gan eu bod yn seiliedig ar sampl o ymatebion aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae'r diffiniadau a ddefnyddir mewn perthynas ag aelwydydd yn debyg iawn i ddiffiniadau Llywodraeth Cymru wrth amcangyfrif aelwydydd (i gael rhagor o wybodaeth, gweler yr wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd (SYG)). Mae'r amcangyfrifon diweddaraf o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn debyg iawn i amcangyfrifon swyddogol Llywodraeth Cymru o aelwydydd, gan amrywio yn ôl awdurdod lleol a math o aelwyd. Fodd bynnag, credwn mai’r amcangyfrifon aelwydydd Llywodraeth Cymru hyn yw'r ffynhonnell swyddogol ar gyfer amcangyfrif nifer yr aelwydydd yng Nghymru.
Amcangyfrifon o aelwydydd ledled y DU
Cyhoeddir amcangyfrifon o aelwydydd ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Ceir rhagor o wybodaeth yn:
Lloegr: Amcanestyniadau o aelwydydd (SYG)
Yr Alban: Amcangyfrifon o aelwydydd (Cofnodion Cenedlaethol yr Alban)
Gogledd Iwerddon: Amcangyfrif o'r boblogaeth ac aelwydydd (Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon)
Cyfrifir yr amcangyfrifon o aelwydydd Cymru gan ddefnyddio dull gwahanol i sut y cynhyrchir amcangyfrifon o aelwydydd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae arweiniad ar y gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon pedair gwlad y DU o’u haelwydydd wedi'i gynnwys yn adroddiad 'Household and Dwelling Estimates Across the UK (Cofnodion Cenedlaethol yr Alban)'.
Data cysylltiedig am Gymru
Mae’r amcanestyniadau o aelwydydd Cymru i'w gweld ar StatsCymru.
Cyhoeddir amcangyfrifon o boblogaeth Cymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gellir eu gweld ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae’r amcangyfrifon a’r amcanestyniadau o boblogaeth Cymru ar lefel awdurdod lleol a pharc cenedlaethol i'w gweld ar StatsCymru.
Mae ystadegau tai eraill ar gyfer Cymru, gan gynnwys amcangyfrifon o’r stoc anheddau ac amcangyfrifon o’r anghenion tai ychwanegol i'w gweld ar wefan Ystadegau ac Ymchwil.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .
Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai pob ystadegyn swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod ar unwaith. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ailddyfarnu’r statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.
Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol ym mis Awst 2020 yn dilyn gwiriad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu hasesu’n llawn yn erbyn y Cod Ymarfer oedd yn 2011 (SYG).
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- cynnwys manylion ychwanegol gan ddefnyddio amrywiaeth o dablau a siartiau, gan gynnwys cyhoeddi data ar wefan StatsCymru
- gwella sut y cyflwynir yr ystadegau, gan gynnwys cyhoeddi mewn fformat html i ddiwallu anghenion defnyddwyr
- lleihau’r mynediad a ganiateir cyn rhyddhau’r data, gan sicrhau mwy o hygrededd
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn gosod saith nod llesiant er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Defnyddir yr amcangyfrifon yn y datganiad hwn i gyfrifo'r gyfradd ar gyfer dangosydd 34: Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhaid cyfeirio at ddangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a baratoir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau o lesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Martin Parry
Ffôn: 03000 250373
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 290/2021