Neidio i'r prif gynnwy

1. Crynodeb

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio dichonoldeb darparu amcangyfrif o blant a allai fod yn colli addysg gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig ym manc data SAIL. 

Fe wnaeth yr ymagwedd ganfod nad oedd modd dod o hyd i oddeutu 6.4% o’r plant (27,000) yn y set ddata o gofrestriadau meddygon teulu yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) neu ddata sy’n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) ar 20 Ebrill 2021. Mae hyn yn debygol o gynrychioli amcangyfrif band uchaf o blant sydd ar goll o addysg y wladwriaeth.  Gall y rhesymau dros blant nad odd modd dod o hyd iddynt yn y data CYBLD neu EOTAS gynnwys y canlynol:

  • Plant sy’n cael addysg mewn ysgolion annibynnol (tua 8,000)
  • Plant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref (tua 4,000)
  • Plant sy’n cael addysg yn Lloegr
  • Problemau cysylltu data, o bosib yn sgil anghysondebau wrth gofnodi enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni;
  • Cwmpas gormodol mewn data cofrestru meddygon teulu (ee yn sgil plant yn symud o Gymru ond heb ddadgofrestru gyda’r meddyg teulu)
  • Rhesymau eraill

Mae’r ymagwedd yn awgrymu y gallai fod amrywiaeth eang o blant ar goll o’r data addysg rhwng awdurdodau lleol, o bosibl rhwng tua 3.0% a 15.3%. Gellir esbonio'r gwahaniaethau hyn yn rhannol gan bresenoldeb ysgolion annibynnol ac agosrwydd rhai awdurdodau lleol at ysgolion yn Lloegr. Mae'r ymagwedd hefyd yn awgrymu gwahaniaeth rhwng oedrannau ysgol (o bosibl rhwng tua 4.9% a 9% yn cynyddu gydag oedran). Amcangyfrifon yw'r rhain yn unig o ystyried cyfyngiadau'r ymagwedd. 

Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi’i wneud fel rhan o raglen waith gynlluniedig Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru 2022–2026 a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

2. Cyflwyniad

Mae adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) yn gosod dyletswydd ar rieni i sicrhau bod plentyn o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg amser llawn effeithlon sy’n addas i oedran a gallu’r plentyn ac i unrhyw anghenion dysgu ychwanegol y gallai fod gan y plentyn, naill ai drwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall. Mae adran 436A o Ddeddf 1996 yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol (ALlau) wneud trefniadau i nodi plant nad ydynt yn cael addysg addas ac i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Er mwyn cefnogi ALlau i gyflawni eu dyletswydd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau i’w wneud yn ofynnol i ALlau sefydlu cronfa ddata o blant sy’n colli addysg a chyhoeddi canllawiau statudol i ALlau gan ddefnyddio’r gyfraith bresennol. Rhagwelir y byddai’r gronfa ddata’n cael ei chynhyrchu drwy gysylltu data addysg â data cofrestru meddygon teulu i nodi’r plant hynny sydd ar goll o addysg ffurfiol.

Er mwyn profi dichonoldeb yr ymagwedd hon, rydym wedi ceisio atgynhyrchu'r cysylltiad data hwn gan ddefnyddio data sydd wedi'i wneud yn ddienw yn y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein hymagwedd a'n canfyddiadau.

3. Ymagwedd

Mae ein hymagwedd yn defnyddio technegau cysylltu data gweinyddol gan ddefnyddio setiau data iechyd ac addysg ar lefel unigol.

Defnyddir set ddata o gofrestriadau meddygon teulu, a elwir yn Set Ddata Gwasanaeth Demograffig Cymru (WDSD), a ddisgrifir isod, fel y data sylfaenol. Mae defnyddio data lefel unigol cysylltiedig yn ein galluogi i gael amcangyfrif mwy manwl gywir na chymharu ffigurau cyfanredol oherwydd, os ydym yn tynnu nifer y plant yn y data addysg o nifer y plant o set ddata poblogaeth fel y WDSD, bydd y nifer a gynhyrchir yn adlewyrchu nifer y plant sydd ar goll o’r ddwy ffynhonnell ddata ond ni fyddai’n bosibl pennu faint o blant oedd ar goll o’r data addysg, y mae gennym ddiddordeb penodol ynddynt. Gallai cymhariaeth gyfanredol hefyd danamcangyfrif y nifer wirioneddol o blant coll. Er enghraifft, pe bai 10 o blant ar goll o'r data addysg a 10 plentyn ar goll o'r WDSD (boed yr un plant neu blant gwahanol) byddai cymhariaeth gyfanredol yn nodi nad oedd unrhyw blant ar goll.

Datblygwyd yr ymagwedd mewn meddalwedd DB2 Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL) ac mae wedi’i hadolygu, ei haddasu a’i mireinio lle bo’n briodol.

4. Dull

Cafodd setiau data iechyd ac addysg ar gyfer pob plentyn yng Nghymru eu gwneud yn ddienw a’u hadneuo i SAIL drwy ddull ‘Ffeil Hollt’ gan ddefnyddio Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) fel trydydd parti dibynadwy. Trwy'r broses hon, dilëwyd gwybodaeth adnabyddadwy bersonol a gosodwyd Maes Cysylltu Dienw (ALF) yn ei le, a dilëwyd manylion cyfeiriad (lle'r oedd y rhain wedi'u darparu) a'u disodli gan Faes Cysylltu Dienw Preswyl (RALF). Ar gyfer pob disgybl, cynhyrchwyd rhif cofnod unigol (IRN) i hwyluso dadansoddiad data cysylltiedig rhwng y setiau data addysg ar ôl eu lanlwytho. Mewn setiau data iechyd ac addysg, disodlwyd dyddiad geni gan wythnos geni (WOB) i wneud y data hyd yn oed yn fwy dienw. Unwaith y byddent wedi cyrraedd SAIL, cafodd gwybodaeth ddilys ALF, RALF ac IRN eu hamgryptio i ddiogelu'r data ymhellach cyn bod ar gael i'w dadansoddi.

Mae’r WDSD yn cynnwys cofrestriadau demograffig ar lefel unigol a chyfeiriadau lluosog ar gyfer pob unigolyn o unrhyw oedran sydd erioed wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau preswyl ac amhreswyl (h.y. sefydliadau cymunedol, sy'n cynnwys ysgolion preswyl) ynghyd â dyddiadau dechrau a diwedd preswylio. Roedd y set ddata iechyd hon yn gysylltiedig â data addysg, gan ddefnyddio'r ALF a WOB yn gyntaf i gysylltu â thabl craidd a oedd yn cynnwys yr holl ALF a gofnodwyd ar gyfer disgyblion yng Nghymru. Gan ddefnyddio’r IRN wedi’u hamgryptio, cysylltwyd y tabl craidd hwn â dau dabl addysg arall, sef y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a setiau data Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS). Mae'r set ddata CYBLD yn cynnwys pob disgybl sydd wedi'i gofrestru mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ar ddyddiad y cyfrifiad ysgol flynyddol [troednodyn 1]. Mae'r set ddata EOTAS yn cynnwys disgyblion y mae awdurdodau lleol yn eu gosod mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD), neu fathau eraill o ddarpariaeth y cyfeirir atynt fel Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol [troednodyn 2].  Nid yw'n cynnwys plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol.

Gan y gellir diweddaru'r WDSD yn barhaus yn seiliedig ar ddyddiadau cofrestru meddygon teulu, gellir nodi unrhyw ddyddiadau fel 'dyddiadau terfyn' i ddewis data i gael cipolwg ar nifer y bobl sy'n byw yng Nghymru ar adeg benodol. Trwy hefyd nodi dyddiadau geni i'w cynnwys, mae'n bosibl cael amcangyfrif o drigolion ar gyfer grwpiau oedran penodol.

Dewiswyd dyddiad CYBLD o 20 Ebrill 2021 fel y dyddiad sylfaen ar gyfer yr amcangyfrif. Fel arfer cymerir CYBLD ym mis Ionawr ond, yn 2021, cafodd ei ohirio tan fis Ebrill oherwydd y pandemig. Mae’n bosibl bod y newid hwn mewn amseru wedi cael effaith ar y gyfradd baru rhwng data WDSD a CYBLD ac EOTAS ond nid yw’n bosibl pennu a fyddai hyn wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol. Roedd defnyddio data ar gyfer 2021 yn caniatáu cymharedd ag ymarfer cyfochrog a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a oedd yn cynnwys cysylltu data CYBLD â Chyfrifiad 2021. Defnyddiwyd y dyddiad hwn fel y dyddiad cau fel mai dim ond cofnodion ar gyfer preswylwyr a gofrestrwyd erbyn y dyddiad hwnnw a ddewiswyd i'w defnyddio yn y dadansoddiad. Cafodd cofnodion yn ymwneud â chofrestriadau a ddaeth i ben cyn 20 Ebrill 2021 eu heithrio. Dim ond y rhai a oedd yn byw yng Nghymru a gafodd eu cynnwys, yn seiliedig ar godau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) 2011.

Defnyddiwyd WOB hefyd i gyfrifo oedran ar ddechrau'r flwyddyn academaidd (h.y. ar 31 Awst 2020) ar gyfer pob preswylydd. Yna cymhwyswyd dyddiadau terfyn i ddata WOB fel mai dim ond cofnodion ar gyfer y rhai a oedd o oedran ysgol statudol ar ddechrau blwyddyn academaidd 2020/21 a ddewiswyd i'w defnyddio yn y dadansoddiad (h.y. 5–15 oed ar 31 Awst 2020). Ni chynhwyswyd cofnodion WDSD yn ymwneud â phreswylwyr yr oedd eu hoedran yn uwch neu'n iau na'r oedrannau hyn bryd hynny.

Trwy gymhwyso’r dyddiadau cau hyn i setiau data cysylltiedig WDSD, CYBLD ac EOTAS, roedd yn bosibl datblygu amcangyfrif o drigolion o oedran ysgol statudol a oedd mewn addysg ffurfiol yn 2021. Roedd tynnu’r amcangyfrif hwn o’r amcangyfrif ar gyfer yr holl drigolion oedran ysgol statudol yn rhoi syniad o nifer y plant a allai fod ar goll o’r system addysg ar 20 Ebrill 2021.

Cafodd cofnodion a gategoreiddiwyd fel rhai coll o ddata CYBLD neu EOTAS (ac felly o bosibl ar goll o addysg ffurfiol) eu categoreiddio yn ôl a oedd RALF wedi’i gofnodi fel preswylydd mewn cyfeiriad preswyl. Cafodd cofnodion na chanfuwyd RALF ar eu cyfer yn set ddata WDSD eu categoreiddio fel rhai â chyfeiriad amhreswyl.

4.1 Cymhariaeth ag amcangyfrifon SYG

Mae’r SYG wedi cynnal ymarfer cyfochrog i amcangyfrif plant sy’n colli addysg, a’r nod oedd dilysu amcangyfrif YDG Cymru gan ddefnyddio ffynonellau data eraill. O dan y porth cyfreithiol a ddarperir gan Adran 45A o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaethau Cofrestru 2007 (fel y’i mewnosodwyd gan Adran 79 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017), mae Llywodraeth Cymru yn rhannu data addysg gyda’r SYG i gefnogi datblygiad cyfrifiad gweinyddol sy’n seiliedig ar ddata. Gwnaethom ofyn i’r SYG gysylltu hyn â data Cyfrifiad 2021 fel dull amgen o amcangyfrif nifer y plant nad ydynt mewn addysg ffurfiol.

Cyhoeddodd y SYG eu canfyddiadau ar 17 Ebrill 2024 (gweler CT21_0206_Census 2021 – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)).[troednodyn 3] Oherwydd pwrpas craidd y Cyfrifiad (sef cyfrif y boblogaeth sydd 'fel arfer yn breswylwyr') defnyddiodd y SYG ddiffiniadau gwahanol i gynhyrchu'r amcangyfrif i'r rhai a ddefnyddir gan YDG Cymru. Mae'r gwahaniaethau yn y diffiniadau a ddefnyddir gan ONS ac ADR Cymru yn cael eu hesbonio isod.

Amcangyfrif plant sydd ar goll o addysg: diffiniadau y SYG ac YDG Cymru

Set ddata poblogaeth graidd

SYG

Cyfrifiad 2021

YDG Cymru

WDSD

Poblogaeth yr astudiaeth

SYG

Ddim yn CYBLD na data Cyfrifiad Ysgolion Lloegr ym mlwyddyn academaidd 2020–2021

YDG Cymru

Ddim mewn data CYBLD nac EOTAS ym mlwyddyn academaidd 2020–2021

Dyddiad cyfeirio (h.y. dyddiad arsylwi'r plentyn yn y set ddata poblogaeth berthnasol)

SYG

21 Mawrth 2021

YDG Cymru

20 Ebrill 2021

Hyd y preswyliad

SYG

12 mis neu fwy

YDG Cymru

Unrhyw hyd preswyliad

Dyddiad cyfeirnod oedran

SYG

21 Mawrth 2021

YDG Cymru

31 Awst 2020

Ystod dyddiad geni

SYG

1 Medi 2004 i 31 Awst 2016

YDG Cymru

1 Medi 2004 i 31 Awst 2015

Ystod Oedran Ganlyniadol ar Ddyddiad Cyfeirnod Oedran

SYG

4 i 16

YDG Cymru

5 i 15

Cynhaliwyd rhywfaint o brofion ar ddull YDG Cymru gan ddefnyddio rhai o ddiffiniadau'r ONS (e.e. ailredeg i echdynnu cofnodion ar gyfer y rhai sy'n preswylio am 12 mis neu fwy yn unig a defnyddio ystod oedran y SYG). Crëwyd fersiwn wedi'i haddasu o'r cod SQL a'i rhedeg gan ddefnyddio'r diffiniadau hyn i ddarparu amcangyfrif wedi'i addasu fel ffurf o ddadansoddiad sensitifrwydd. Cafodd hwn ei grynhoi a'i dynnu o SAIL, yna ei gymharu â'r amcangyfrif gan y SYG. Dangosir y canlyniadau yn Nhablau 5 a 6.

5. Canfyddiadau

5.1 Prif ganlyniadau

Mae Tabl 1 yn dangos yr amcangyfrif o ddull YDG Cymru ar gyfer yr holl blant preswyl ar ddiwrnod cyfrifiad ysgol 2021 wedi’i ddadansoddi yn ôl blwyddyn sengl o oedran. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys yr holl blant preswyl o oedran ysgol statudol ar 31 Awst 2020, boed yn breswylwyr parhaol neu dros dro ar ddiwrnod cyfrifiad ysgol. 

Sylwch fod yr holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r deg agosaf. Wrth i ddadansoddiadau oedran ac awdurdodau lleol gael eu hagregu’n annibynnol, mae’r cyfansymiau’n amrywio rhwng Tablau 1 a 3.

Tabl 1: Amcangyfrif o nifer y plant sy’n byw yng Nghymru, yn ôl statws cofrestru CYBLD/EOTAS ac oedran, 20 Ebrill 2021
Oedran ar 31 Awst 2020Pob plentyn preswyl (WDSD)Wedi’i gofnodi’n flaenorol yn CYBLD neu EOTAS (ond nid ar 20 Ebrill 2021)Dim cofnod CYBLD / EOTAS% Dim cofnod neu wedi’u cofnodi’n flaenorol yn CYBLD / EOTAS
535,9105401,3605.3%
635,2106101,1204.9%
736,1508401,1005.4%
837,2408701,1005.3%
938,0101,0701,0605.6%
1037,4601,1501,1206.1%
1137,6201,6401,1407.4%
1237,8701,7601,0907.5%
1336,2901,8009907.7%
1435,6601,8401,1908.5%
1535,3901,9401,2409.0%
Pawb 5–15 oed402,81014,06012,5106.6%

Ffynhonnell: Banc Data SAIL

Noder: Gall plant a gofnodwyd yn flaenorol yn CYBLD neu EOTAS neu heb gofnod CYBLD neu EOTAS (h.y. y drydedd a'r bedwaredd golofn) fod mewn ysgolion annibynnol, yn cael eu haddysgu gartref yn ddewisol neu'n derbyn eu haddysg yn Lloegr. Efallai fod gan rai o’r plant hyn gofnodion CYBLD neu EOTAS hefyd ond ni ellid eu cysylltu â’r WDSD oherwydd anghysondebau wrth gofnodi enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni.

Mae Tabl 1 yn dangos na chafodd 6.6% o blant ar y WDSD eu cofnodi mewn data CYBLD nac EOTAS ar 20 Ebrill 2021.

Ni ellid dod o hyd i oddeutu 3% o blant ar y WDSD mewn data CYBLD neu EOTAS o gwbl, heb fawr o amrywiad yn ôl oedran.

Nid oedd yn bosibl adnabod plant a oedd yn byw yng Nghymru ac a oedd yn mynychu ysgolion yn Lloegr, nid plant oedd yn mynychu ysgolion annibynnol. Mae ffigurau'r categori 'Wedi’u cofnodi’n flaenorol yn CYBLD neu EOTAS' ar gyfer 11 oed a throsodd yn uwch na'r rhai ar gyfer oedrannau iau felly mae'n bosibl bod rhai plant yn mynychu ysgol gynradd yng Nghymru ac yna ysgol uwchradd yn Lloegr. Gall hyn fod oherwydd patrymau lleol o ddarpariaeth addysg a/neu rwydweithiau trafnidiaeth, neu ffactorau eraill. Ar y llaw arall, yn yr oedrannau hyn gall plant fod wedi symud i ysgol annibynnol ar gyfer addysg uwchradd am resymau tebyg. Unwaith eto, nid yw'n bosibl pennu hyn gan ddefnyddio'r data sydd ar gael.

Yn achos rhai o’r plant hynny na ellid eu canfod mewn data CYBLD neu EOTAS, mae’n bosibl nad ydynt ar goll mewn gwirionedd ond ni ellid cysylltu eu cofnodion yn y data addysg â’r WDSD (e.e. oherwydd anghysondebau wrth gofnodi enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni).

Gall fod elfen o gwmpas gormodol yn y WDSD hefyd. Yn dilyn Cyfrifiad 2011, ymgymerodd y SYG â rhywfaint o waith archwiliadol i archwilio opsiynau ar gyfer y dyfodol er mwyn cynhyrchu ystadegau demograffig-gymdeithasol poblogaeth ac ardaloedd bach ar gyfer Cymru a Lloegr.[troednodyn 4] Er bod y gwaith hwn bellach dros 10 oed, mae’n cynnwys rhai canfyddiadau sy’n berthnasol i’n dadansoddiad. Un o'r ffynonellau data a archwiliwyd gan y SYG oedd Cofrestr Gleifion y GIG, a oedd yn cynnwys cofnod ar gyfer pob person a gofrestrwyd gyda Meddyg Teulu GIG yng Nghymru a Lloegr. Yn hyn o beth, mae'n cyfateb yn fras i'r WDSD ond mae'n cwmpasu Lloegr yn ogystal â Chymru. Canfu’r SYG fod Cofrestr Gleifion y GIG yn destun cwmpas gormodol a chwmpas anghyflawn. Nododd y SYG amryw o resymau posibl dros faterion darpariaeth, gyda’r rhai a restrir isod yn debygol o fod yn berthnasol i’n dadansoddiad:

  • Cofrestriadau mewn sawl ardal – lle gall rhywun fod wedi'i gofrestru gyda mwy nag un practis meddyg teulu gwahanol a hefyd yn dal mwy nag un rhif GIG (effaith debygol: cwmpas gormodol);
  • Rhifau GIG dyblyg – lle mae gan ddau neu fwy o bobl yr un rhif GIG (effaith debygol: cwmpas anghyflawn);
  • Oedi wrth gofnodi marwolaethau (effaith debygol: cwmpas gormodol);
  • Ymfudo o'r DU heb ddadgofrestru o'r GIG (effaith debygol: cwmpas gormodol);
  • Mewnfudo i'r DU heb gofrestru gyda meddyg teulu (effaith debygol: cwmpas anghyflawn);
  • Cofrestru gyda meddyg teulu preifat yn unig (effaith debygol: cwmpas anghyflawn); a
  • Gwahaniaethau mewn diffiniadau – gyda diffiniad y SYG yn cyfrif ‘preswylwyr arferol’ yn unig a ddiffinnir fel y rhai a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, yn y DU ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy neu â chyfeiriad parhaol yn y DU ac roedd y tu allan i'r DU ac yn bwriadu bod y tu allan i'r DU am lai na 12 mis (effaith debygol: cwmpas gormodol).

Canfu’r SYG, ym mis Ebrill 2011, fod cyfrif cofnodion Cofrestr Gleifion y GIG 4.3 y cant yn fwy nag amcangyfrif poblogaeth Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae hyn yn awgrymu, er bod elfennau o gwmpas anghyflawn yn nata cofrestru meddygon teulu, mae effaith cwmpas gormodol yn debygol o fod yn fwy.

Mae'r SYG ar hyn o bryd yn cynnal rhaglen drawsnewid ar gynhyrchu ystadegau poblogaeth ac ymfudo gan ddefnyddio data gweinyddol. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys asesu addasrwydd setiau data amrywiol ar gyfer darparu ystadegau poblogaeth a mudo.[troednodyn 5] Fel rhan o hyn, mae'r SYG wedi astudio'r Gwasanaeth Demograffeg Personol (PDS). Mae’r PDS yn cynnwys data demograffig ar gyfer y rhai sydd wedi rhyngweithio â Gwasanaeth GIG yng Nghymru, Lloegr ac Ynys Manaw, gan gynnwys trwy bractisau meddygon teulu ac ymweliadau ag ysbytai, felly mae ganddo gwmpas ychydig yn ehangach na’r WDSD a Chofrestr Gleifion y GIG. Yn yr un modd â Chofrestr Gleifion y GIG, canfu’r SYG dystiolaeth o gwmpas gormodol a chwmpas anghyflawn. Canfu’r SYG ostyngiad mewn cofrestriadau meddygon teulu a newidiadau i gyfeiriadau o fis Ebrill 2020 (dechrau’r pandemig coronafeirws (COVID-19)) wedi’i ddilyn gan gynnydd yn hanner cyntaf 2021, gan godi uwchlaw lefelau cyn y pandemig coronafeirws. Awgrymodd y SYG y gallai hyn fod oherwydd ôl-groniad o bobl yn dychwelyd at y meddyg teulu ar ôl y cyfnod clo, diweddaru eu manylion oherwydd y rhaglen frechu, neu bobl yn symud tŷ ac yn newid eu cyfeiriad wrth i’r farchnad eiddo ailagor. Mae hyn yn berthnasol i'n dadansoddiad oherwydd gallai awgrymu bod nifer fawr o bobl a theuluoedd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn 2021, gan arwain at amcangyfrif uwch yn y WDSD.

O ystyried yr holl ffactorau hyn, mae’n awgrymu bod y ganran gyffredinol o blant sydd ar goll o’r data addysg (6.6%) yn debygol o gynrychioli amcangyfrif band uwch o blant sy’n colli addysg ffurfiol. Er enghraifft, mae Adran 5.2 yn nodi bod tua 8,000 o blant 5 i 15 oed yn mynychu ysgolion annibynnol yng Nghymru. Os byddwn yn cymryd bod yr holl blant hyn yn byw yng Nghymru ac yn tynnu’r amcangyfrif hwn o’r nifer sydd ar goll o’r data addysg, byddai hyn yn gostwng y ganran i 4.6%. Gan ystyried y tua 4,000 o blant rhwng 5 a 15 oed y gwyddys eu bod yn ddewisol a addysgir gartref yn dod â'r ganran i lawr i 3.6%. Mae'n anoddach meintioli effeithiau mynychu'r ysgol yn Lloegr, paru methiannau a chwmpas gormodol yn y data cofrestru meddygon teulu ond pe baem yn gallu gwneud hynny, byddai hyn yn dod â'r ganran i lawr hyd yn oed ymhellach.

Mae Tabl 2 yn rhoi dadansoddiad o nifer y plant na ellid eu canfod yn nata CYBLD / EOTAS o gwbl a gofnodwyd mewn cyfeiriad preswyl neu amhreswyl ar gyfer pob oedran. Mae cyfeiriadau amhreswyl yn sefydliadau cymunedol a gallent gynnwys cartrefi gofal, hosteli i’r digartref, lleoliad gofal iechyd neu fyrddio mewn ysgol annibynnol.

Tabl 2: Nifer y plant na ellid eu canfod yn CYBLD / EOTAS yn ôl cyfeiriad preswyl yn erbyn amhreswyl ac oedran, 20 Ebrill 2021
Oedran ar 31 Awst 2020Dim cofnod CYBLD / EOTAS: y cyfanDim cofnod CYBLD / EOTAS: mewn cyfeiriad preswylDim cofnod CYBLD / EOTAS: cyfeiriad amhreswyl
51,3601,100260
61,120940180
71,100930170
81,100940160
91,060910150
101,120940180
111,140980160
121,090910180
13990810180
141,190960230
151,240960280
Pawb 5–15 oed12,51010,3802,130

Ffynhonnell: Banc Data SAIL

Roedd tua 83% o blant na ellid eu canfod yn nata CYBLD / EOTAS yn byw mewn cyfeiriad preswyl yn 2021. Ychydig o amrywiad sydd yn ôl oedran ar ganran y rhai sydd ar goll ac yn byw mewn cyfeiriad preswyl neu amhreswyl. Ar gyfer plant 5 i 14 oed, roedd llai nag 20% o blant na ellid eu canfod yn nata CYBLD / EOTAS yn byw mewn cyfeiriad amhreswyl. Ar gyfer 15 oed, roedd tua 23% o blant na ellid eu canfod mewn data CYBLD / EOTAS yn byw mewn cyfeiriad amhreswyl.

Mae Tabl 3 yn dangos amcangyfrif o'r plant oed ysgol sy'n byw yn yr ysgol wedi'u dadansoddi fesul awdurdod lleol yng Nghymru. Sylwch fod yr awdurdod lleol yn seiliedig ar gyfeiriad preswyl, nid cyfeiriad ysgol. Mae'r ffigurau hyn wedi'u hagregu o god ACEHI wedi'i recordio fesul awdurdod lleol ar gyfer pob preswylydd, felly mae’r ffigurau CYBLD a ddangosir yma yn debygol o fod yn wahanol i gyfrifon CYBLD cyhoeddedig fesul awdurdod lleol ar gyfer 2021.

Tabl 3: Amcangyfrif o nifer y plant sy’n byw yng Nghymru, yn ôl statws cofrestru CYBLD/EOTAS ac awdurdod lleol, 20 Ebrill 2021
Awdurdod lleolPob plentyn preswyl (WDSD)Wedi’i gofnodi’n flaenorol yn CYBLD neu EOTAS (ond nid ar 20 Ebrill 2021)Dim cofnod CYBLD / EOTAS% Dim cofnod neu wedi’u cofnodi’n flaenorol yn CYBLD / EOTAS
Ynys Môn8,4802002305.0%
Gwynedd16,7801,3301,26015.3%
Conwy13,5804204405.9%
Sir Ddinbych12,5804603506.1%
Sir y Fflint20,3109208008.4%
Wrecsam18,2408606208.0%
Powys15,04091075010.8%
Ceredigion7,7403302307.2%
Sir Benfro15,3105704706.5%
Sir Gaerfyrddin23,4106906305.4%
Abertawe29,7306905704.0%
Castell-nedd Port Talbot18,0903502603.2%
Pen-y-bont ar Ogwr18,7003703403.7%
Bro Morgannwg17,8804904004.8%
Rhondda Cynon Taf31,6705204703.1%
Merthyr Tudful8,1701601904.5%
Caerffili23,4504203103.0%
Blaenau Gwent8,4501601203.2%
Torfaen12,3902502003.4%
Sir Fynwy10,99080086014.6%
Casnewydd22,5407907806.6%
Caerdydd49,3302,3602,2509.2%
Pob Awdurdod Lleol402,86014,05012,5306.4%

Ffynhonnell: Banc Data SAIL

Noder: Gall plant a gofnodwyd yn flaenorol yn CYBLD neu EOTAS neu heb gofnod CYBLD neu EOTAS (h.y. y drydedd a'r bedwaredd golofn) fod mewn ysgolion annibynnol, yn cael eu haddysgu gartref yn ddewisol neu'n derbyn eu haddysg yn Lloegr. Efallai fod gan rai o’r plant hyn gofnodion CYBLD neu EOTAS hefyd ond ni ellid eu cysylltu â’r WDSD oherwydd anghysondebau wrth gofnodi enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni.

Mae canran y plant preswyl heb unrhyw gofnod CYBLD neu EOTAS, neu a gofnodwyd yn flaenorol yn y naill set ddata neu'r llall, ac felly o bosibl ar goll o addysg ffurfiol, ar ei huchaf yng Ngwynedd a Sir Fynwy. Roedd hyn hefyd yn wir yn nadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, nid yw'r rhai heb unrhyw gofnod CYBLD neu EOTAS o gwbl yn cyfrif am fwy nag 8% o'r plant sy'n byw yn yr awdurdodau hyn.

Dylid nodi bod y cafeatau a drafodwyd mewn perthynas â Thabl 2 i gyd yn berthnasol i Dabl 4 hefyd. Mae'r cafeatau ynghylch plant sy'n mynychu ysgolion annibynnol neu ysgolion yn Lloegr yn arbennig o berthnasol i ganlyniadau ar lefel awdurdod lleol gan fod gan y ffactorau hyn batrymau daearyddol. Er enghraifft, mae Sir Fynwy yn rhannu ffin â Lloegr ac mae ganddi hefyd nifer gymharol uchel o blant yn mynychu ysgolion annibynnol. Er nad yw'r naill na'r llall yn wir am Wynedd, mae'r awdurdod lleol hwn yn rhannu ffin â Chonwy a Sir Ddinbych, ac mae gan y ddau ohonynt lefelau cymharol uchel o bresenoldeb ysgol annibynnol felly gall fod yn wir fod rhai plant sy'n byw yng Ngwynedd yn mynychu ysgol breifat yn yr awdurdodau hyn. Trafodir hyn ymhellach yn Adrannau 5.2 ac 5.4.

Mae Tabl 4 yn rhoi dadansoddiad o nifer y plant na ellid eu canfod yn nata CYBLD / EOTAS o gwbl a gofnodwyd mewn cyfeiriad preswyl neu amhreswyl ar gyfer pob oedran.

Tabl 4: Nifer y plant na ellid eu canfod yn CYBLD / EOTAS yn ôl cyfeiriad preswyl yn erbyn cyfeiriad amhreswyl ac awdurdod lleol, 20 Ebrill 2021
Awdurdod LleolDim cofnod CYBLD / EOTAS: y cyfanDim cofnod CYBLD / EOTAS: mewn cyfeiriad preswylDim cofnod CYBLD / EOTAS: mewn cyfeiriad amhreswyl
Ynys Môn23019040
Gwynedd1,260380880
Conwy44041030
Sir Ddinbych35031040
Sir y Fflint80071090
Wrecsam62058040
Powys750580170
Ceredigion23019040
Sir Benfro47040070
Sir Gaerfyrddin63058050
Abertawe57053040
Castell-nedd Port Talbot26024020
Pen-y-bont ar Ogwr34032020
Bro Morgannwg40036040
Rhondda Cynon Taf47044030
Merthyr Tudful19018010
Caerffili31029020
Blaenau Gwent1201200
Torfaen20018020
Sir Fynwy860640220
Casnewydd78069090
Caerdydd2,2502,070180
Pob Awdurdod Lleol12,53010,3902,140

Ffynhonnell: Banc Data SAIL

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, roedd canran y plant na ellid eu canfod yn nata CYBLD / EOTAS a oedd yn byw mewn cyfeiriad amhreswyl yn llai nag 20%. Ym Mhowys a Sir Fynwy, y canrannau oedd 26% a 23% yn y drefn honno. Yng Ngwynedd, roedd mwyafrif (70%) y plant na ellid eu canfod yn nata CYBLD / EOTAS yn byw mewn cyfeiriad amhreswyl.

Mae Tabl 5 yn dangos canlyniadau cymhwyso diffiniadau’r SYG i ddata WDSD. Y cyfeirnod oedran a’r dyddiad cyfeirio yw 21 Mawrth 2021 (yn hytrach na 31 Awst 2020 a 20 Ebrill 2021 uchod) ar gyfer y rhai a anwyd rhwng blynyddoedd academaidd 2004/05 a 2015/16, ac felly’n cynnwys 4 i 16 oed. Rydym hefyd wedi ceisio alinio â diffiniad 'preswylwyr arferol' y SYG drwy gyfyngu ein carfan i'r plant hynny sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru am 12 mis neu fwy cyn y dyddiad cyfeirio. Dylid nodi bod hwn yn ddiffiniad mwy cul nag un y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae diffiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys y rheini a oedd wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i’r DU ac a fwriadwyd i fod y tu allan i’r DU am lai na 12 mis.

Tabl 5: Amcangyfrif o nifer y plant sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am 12 mis neu fwy, yn ôl statws cofrestru CYBLD/EOTAS ac oedran, 21 Mawrth 2021
Oedran ar 21 Mawrth 2021Pob plentyn preswyl (WDSD)Wedi’i gofnodi’n flaenorol yn CYBLD neu EOTAS (ond nid ar 20 Ebrill 2021)Dim cofnod CYBLD / EOTAS% Dim cofnod neu wedi’u cofnodi’n flaenorol yn CYBLD / EOTAS
414,1301206905.7%
531,2003701,2605.2%
631,5305301,0204.9%
732,0606709805.1%
833,3008209305.3%
934,2008809405.3%
1035,0801,0209605.6%
1134,3601,2609706.5%
1234,3801,5809207.3%
1334,3001,6408507.3%
1433,1301,6508707.6%
1532,5701,7409708.3%
1618,2301,0105508.6%
Pawb 4–16 oed398,47013,29011,9106.3%

Ffynhonnell: Banc Data SAIL

Noder: Gall plant a gofnodwyd yn flaenorol yn CYBLD neu EOTAS neu heb gofnod CYBLD neu EOTAS (h.y. y drydedd a'r bedwaredd golofn) fod mewn ysgolion annibynnol, yn cael eu haddysgu gartref yn ddewisol neu'n derbyn eu haddysg yn Lloegr. Efallai fod gan rai o’r plant hyn gofnodion CYBLD neu EOTAS hefyd ond ni ellid eu cysylltu â’r WDSD oherwydd anghysondebau wrth gofnodi enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni.

Er gwaethaf y diffiniad oedran ehangach, mae’r boblogaeth breswyl gyffredinol o blant yn Nhabl 5 tua 4,000 yn is na’r hyn yn Nhablau 1 a 3 oherwydd y diffiniad mwy cyfyngedig o breswyliad. Mae cyfrifon CYBLD ac EOTAS yr un mor is.

Mae cyfran y rhai a allai fod ar goll o addysg ffurfiol ychydig yn is yn Nhabl 5 ar 6.3% nag yn Nhablau 1 a 3 (6.6% a 6.4%, yn y drefn honno), gyda dosbarthiad tebyg ar draws y categorïau i’r hyn a ddangosir yn Nhabl 3. Mae rhywfaint o amrywiaeth yn nosbarthiad oedran y rhai heb gofnod CYBLD neu EOTAS. Mae cyfran y rhai heb unrhyw gofnod CYBLD neu EOTAS o gwbl tua 3%, fel o'r blaen.

Mae Tablau 6 ac 7 yn rhoi cymhariaeth o amcangyfrif YDG Cymru yn seiliedig ar ddiffiniadau’r SYG, a ffigurau cyhoeddedig y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hunain, wedi’u dadansoddi yn ôl oedran.

Tabl 6: Amcangyfrif o nifer y plant sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am 12 mis neu fwy, yn ôl Cyfrifiad 2021 yn erbyn setiau data WDSD, 21 Mawrth 2021
OedranCyfrifiad 2021: pob plentyn preswylWDSD: pob plentyn preswyl
414,60514,130
532,89031,200
632,60531,530
732,99032,060
834,39533,300
935,38034,200
1035,49535,080
1135,26534,360
1235,09034,380
1335,16034,300
1433,97033,130
1533,30032,570
1618,64518,230
Pawb 4 i 16 oed409,790398,470

Mae’r gymhariaeth o’r cyfansymiau ‘Pob plentyn preswyl’ yn Nhabl 6 yn dangos bod amcangyfrif y SYG o nifer y plant preswyl arferol o Gyfrifiad 2021 tua 11,000 yn uwch na’r amcangyfrif gan y WDSD wrth gyfyngu i blant sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu ar gyfer 12 mis neu fwy. Dylid nodi, yn wahanol i'r gymhariaeth rhwng y WDSD a CYBLD/EOTAS a wnaed uchod, nad yw'r gymhariaeth rhwng amcangyfrifon y WDSD a'r Cyfrifiad o'r holl blant preswyl yn seiliedig ar ddadansoddiad data cysylltiedig. Felly, ni allwn ddweud bod 11,000 o blant 'ar goll' o ddata cofrestru meddygon teulu oherwydd gallai rhai plant fod ar goll o'r ddwy ffynhonnell. Mae hefyd yn bosibl bod rhai plant yn y data cofrestru meddygon teulu ond nid yn y Cyfrifiad, gan arwain at leihad yn y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffynhonnell. At hynny, er ein bod yn Nhablau 5, 6 ac 7 wedi addasu’r diffiniad o breswyliad i fod yn debycach i ddiffiniad y SYG, nid yw’r diffiniadau’n cyfateb yn union. Fel y dywedwyd uchod, mae ein diffiniad yma yn un mwy cul. Os byddwn yn dileu'r cyfyngiad 'preswylydd am 12 mis neu fwy' o'n hamcangyfrif o nifer y plant o'r WDSD yna byddwn yn dod o hyd i fwy o blant nag amcangyfrif y Cyfrifiad.[troednodyn 6]

Tabl 7: Amcangyfrif o nifer a chanran y plant preswyl nad ydynt mewn ysgol wladol, yn ôl Cyfrifiad 2021 yn erbyn setiau data WDSD, 21 Mawrth 2021
OedranCyfrifiad 2021: ddim mewn ysgol wladolCyfrifiad 2021: % nad ydynt mewn ysgol wladolWDSD: % dim cofnod neu wedi’u cofnodi’n flaenorol yn CYBLD / EOTASWDSD: % heb gofnod neu wedi’u cofnodi’n flaenorol yn CYBLD / EOTAS
46354.3%8105.7%
51,4004.3%1,6305.2%
61,2003.7%1,5504.9%
71,3954.2%1,6505.1%
81,3854.0%1,7505.3%
91,4854.2%1,8205.3%
101,6554.7%1,9805.6%
111,7705.0%2,2306.5%
122,0405.8%2,5007.3%
132,1756.2%2,4907.3%
142,4407.2%2,5207.6%
152,6658.0%2,7108.3%
161,7159.2%1,5608.6%
Pawb 4 i 16 oed21,9605.4%25,2006.3%

Ffynhonnell: SYG a Banc Data SAIL

Er gwaethaf gwahaniaethau yn y niferoedd a allai fod ar goll o’r system addysg wladol, mae'n nodedig mai'r amcangyfrif o blant sy'n byw yng Nghymru fel arfer, y mae hyn yn wir ar eu cyfer o dan y naill ddull neu'r llall, yw tua 5% neu 6%.

5.2 Ysgolion annibynol

Mae ffigurau cyhoeddedig yn dangos bod tua 8,000 o blant 4 i 16 oed yn mynychu ysgolion annibynnol yng Nghymru yn 2021 (er na ddarparodd pob ysgol ddata ar gyfer 2021 felly mae’r ffigur gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch).[troednodyn 7] O fewn hyn, mae cyfrif disgyblion yn tueddu i gynyddu yn y grŵp oedran 9 i 12, o bosibl oherwydd bod rhai plant yn symud i'r sector annibynnol ar gyfer addysg uwchradd. Mae proffil oedran disgyblion a oedd yn flaenorol yn CYBLD neu EOTAS a ddangosir yn Nhablau 1 a 5 yn dangos eu bod yn cytuno â hyn, gyda’r cynnydd mwyaf yn nifer y plant a gofnodwyd yn flaenorol yn CYBLD neu EOTAS ond nid yn 2021, yn digwydd yn 11 neu 12 oed. Mae hyn yn awgrymu nad yw llawer ar goll o’r system addysg yn llwyr ond eu bod yn symud rhwng sectorau ar gyfer addysg uwchradd. Gall hyn i ryw raddau esbonio’r niferoedd cyfrannol uwch ar gyfer rhai awdurdodau lleol yn Nhabl 3 sy’n tueddu i fod â chyfrannau uwch o blant yn mynychu ysgolion annibynnol, er enghraifft Sir Fynwy a Chaerdydd.

5.3 Plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol

Ym mlwyddyn ysgol 2020-21, roedd 4,342 o blant yn cael eu haddysgu gartref yng Nghymru yn ddewisol [troednodyn 7].  Mae'r niferoedd yn tueddu i gynyddu tua 11 oed, sy'n awgrymu y gallai addysg ddewisol yn y cartref fod yn ffactor arall sy'n cyfrannu at y cynnydd yn nifer y plant a gofnodwyd yn flaenorol mewn CYBLD neu EOTAS ond nid yn 2021, sy'n digwydd yn 11 neu 12 oed.

5.4 Plant sy'n Preswylio yng Nghymru a Addysgwyd yn Lloegr

Gall plant sy’n byw mewn awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â ffin â Lloegr fynychu’r ysgol naill ai’n lleol neu dros y ffin. Gallai hyn fod yn wir ar unrhyw adeg o fewn oedran ysgol statudol, ond gall darpariaeth leol olygu ei bod yn ymarferol mynychu ysgol gynradd yng Nghymru ac yna ysgol uwchradd yn Lloegr. Gellir gweld hyn yn rhannol yn Nhabl 4 lle, ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau, mae’r plant hynny sydd ond yn ymddangos yn CYBLD neu EOTAS cyn Ebrill 2021 yn cyfrif am lai na 5% o blant preswyl. Yr eithriadau yw Gwynedd (7.9%), Sir Fynwy (7.3%) a Phowys (6.0%), gyda'r ddau olaf yn rhannu ffin â Lloegr. Mae gan Wrecsam a Sir y Fflint, y ddau awdurdod lleol arall sy'n rhannu ffin â Lloegr hefyd ganran uwch o blant o'r fath na chyfartaledd Cymru o 3.5%, sef 4.7% a 4.5% yn y drefn honno er bod gan Gaerdydd a Cheredigion gyfraddau uwch na 4% hefyd. 

Fel y dangosir yn Adran 4, mae’r SYG yn cadw data addysg ar gyfer Lloegr y gallent ei ymgorffori yn eu dadansoddiad data cysylltiedig. Mae hyn yn golygu, pe bai plentyn sy'n byw yng Nghymru yn mynychu ysgol yn Lloegr, ni fyddai'n cael ei nodi fel un sydd ar goll o addysg wladol. Er bod dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod canran is o blant yn colli addysg yng Nghymru yn gyffredinol na’r dadansoddiad SAIL, roedd hyn yn arbennig o wir yn achos y pedwar awdurdod lleol sy’n rhannu ffin â Lloegr.

5.5 Yn CYBLD/EOTAS 2020, ond ar goll yn 2021

Cafodd tua 3,700 o blant 5 i 15 oed sy’n byw yng Nghymru yn 2021 eu cofnodi ddiwethaf yn CYBLD/EOTAS yn 2020. Mae hyn yn awgrymu iddynt adael y system ysgolion gwladol yng Nghymru yn ystod y pandemig. Gall y rhesymau am hyn gynnwys:

  • Adleoli y tu allan i Gymru ond heb ailgofrestru/dadgofrestru gyda meddyg teulu
  • Trosglwyddo i ysgol annibynnol yn 2021 (fel y trafodwyd uchod)
  • Pharhau ag addysg gartref yn dilyn y pandemig

Roedd sylw yn y cyfryngau yn ystod y pandemig yn awgrymu tueddiadau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg mewn addysg, gan gynnwys mudo, gweithio gartref a’r nifer sy’n manteisio ar addysg gartref. Nid yw’n bosibl archwilio ymhellach effaith bosibl y tueddiadau hyn ar ôl 2020 gan ddefnyddio’r setiau data sydd ar gael ar hyn o bryd.

6. Casgliadau

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio dichonoldeb darparu amcangyfrif o blant a allai golli addysg gan ddefnyddio data iechyd ac addysg. 

Mae’r amcangyfrif o blant sy’n colli addysg yn seiliedig ar gofnodion Ebrill 2021 a dylid ei ystyried yn ddangosol. Gall amcangyfrifon mwy diweddar ddarparu canlyniadau gwahanol. O fewn y dull hwn, gellir defnyddio isddulliau eraill e.e. cysylltu'r setiau data gan ddefnyddio'r ALF ac wythnos geni (fel sydd wedi'i wneud yma) neu gan ddefnyddio’r ALF yn unig. Gwnaethpwyd y newid hwn i’w wneud yn fwy sicr bod y cofnodion cywir yn cael eu paru rhwng setiau data iechyd ac addysg. Fodd bynnag, gall mân addasiadau fel hyn achosi amrywiadau ac ailgategoreiddio cofnodion ar gyfer y rhai a allai fod ar goll o addysg. 

Mae amcangyfrifon y SYG ac YDG Cymru yn awgrymu na ellid dod o hyd i rhwng 5% a 7% o blant yn y data addysg ym mis Mawrth / Ebrill 2021. Yn y ddau ddadansoddiad, canfuwyd mai Gwynedd a Sir Fynwy oedd yr awdurdodau lleol gyda'r ganran uchaf o blant o'r fath. Roedd dadansoddiad YDG Cymru hefyd yn gallu gwahaniaethu rhwng y rhai a gofnodwyd yn flaenorol yn y data addysg (h.y. cyn 2021) a'r rhai na ellir dod o hyd iddynt yn y data o gwbl. Nid oedd modd dod o hyd i oddeutu 3% o blant (tua 12,500 o blant) yn y data addysg o gwbl.

Mae amcangyfrifon YDG Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi syniad o blant a allai fod ar goll o'r system addysg, ond nid yw'r naill ddull na'r llall yn ystyried y rhai sy'n cael eu haddysgu yn y sector ysgolion annibynnol. Mae'n bwysig nodi hefyd y gallai rhai plant y cyfrifir eu bod ar goll naill ai yn ymagwedd YDG Cymru neu'r SYG fod ar goll o'r data cysylltiedig, h.y. ni ellir cysylltu eu cofnodion addysg â'u cofnodion poblogaeth oherwydd anghysondebau wrth gofnodi meysydd cysylltu. Yn hyn o beth, mae'r amcangyfrifon a gyflwynir yma yn debygol o fod yn amcangyfrifon bandiau uwch.

Roedd amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol o blant sydd ar goll o'r data addysg yn is nag un YDG Cymru. Gall hyn fod oherwydd bod unigolion wedi cofnodi eu data adnabyddadwy yn fwy cywir yn y Cyfrifiad nag wrth gofrestru ar gyfer meddyg teulu. Gall hefyd fod oherwydd y gall cofnodion Cyfrifiad gael eu cysylltu'n bendant ag amser penodol, h.y. Diwrnod y Cyfrifiad, tra bod data cofrestru meddygon teulu yn dioddef oedi oherwydd oedi wrth i bobl ddiweddaru eu cofnodion. Mae’n bosibl bod y ffactorau hyn wedi arwain at y SYG yn sicrhau cyfradd gysylltu well rhwng y boblogaeth a chofnodion addysg. Fel y trafodwyd uchod, efallai y bydd rhywfaint o gwmpas gormodol yn nata cofrestru meddygon teulu hefyd yn arwain at ein dadansoddiad yn canfod mwy o blant na ellid eu canfod yn y data addysg na’r SYG.

At hynny, roedd gan y SYG hefyd fynediad at ddata addysg ar gyfer Lloegr a olygai nad oedd disgyblion a oedd yn byw yng Nghymru ond a addysgwyd yn Lloegr yn cael eu nodi fel rhai coll yn eu dadansoddiad. Ar y llaw arall, nid oedd gan y SYG fynediad at ddata EOTAS felly byddai plant o’r fath yn y set ddata hon wedi ymddangos fel pe baent ar goll yn nadansoddiad y SYG.

Serch hynny, mae’r ffaith nad yw amcangyfrif y SYG, er ei fod yn is, yn rhy annhebyg i YDG Cymru yn awgrymu y gall cysylltu data addysg â data cofrestru meddygon teulu roi amcangyfrif rhesymol o blant sydd ar goll o system addysg y wladwriaeth. At hynny, yn eu hasesiad o ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddiwyd i ddatblygu eu Set Ddata Poblogaeth Ystadegol ar gyfer Cymru a Lloegr, asesodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod gan y PDS (data cofrestru’r GIG) gwmpas rhagorol.[troednodyn 6] Gellid dadlau bod hyn yn darparu cymorth pellach ar gyfer defnyddio data cofrestru’r GIG (ar ffurf cofrestriadau meddygon teulu yn ein hachos ni) fel ffordd o dynnu sylw at blant a allai fod yn colli addysg.

Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd elfen o gwmpas gormodol yn nata cofrestru meddygon teulu a allai arwain at oramcangyfrif o blant 'coll'. At hynny, mae'n bosibl bod llawer o blant sydd ar goll o'r data addysg yn mynychu ysgolion annibynnol neu ysgolion yn Lloegr. Gallai awdurdodau lleol benderfynu ar hyn drwy ddilyniant gyda theuluoedd plant y nodwyd eu bod 'ar goll'. Dylid nodi hefyd y gallai nifer fach o blant fod ar goll o setiau data cofrestru meddygon teulu ac addysg.

Diolchiadau

Cynhaliwyd y dadansoddiad data ym mhrosiect Labordy Data Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), ‘Participation in and Progression Through Education in Wales’ o fewn cronfa ddata SAIL, a ariennir o dan thema Addysg Cymru Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) ES/W012227/1 (UK Research and Innovation) a WISERD ES/S012435/1 (UK Research and Innovation). Mae’r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarparwyd gan gleifion ac a gasglwyd gan y GIG fel rhan o’u gofal a chymorth.

Mae YDG Cymru yn dod ag arbenigwyr gwyddor data yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, staff o’r WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru ynghyd i ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu drwy ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae Rhaglen Waith YDGC 2022-2026 yn amlinellu’r 10 maes thematig y bydd tîm YDG Cymru yn canolbwyntio eu hymchwil arnynt i helpu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion mwyaf dybryd sy’n wynebu cymdeithas.

Mae YDG Cymru yn rhan o ADR UK ac yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU).

Mae'r astudiaeth hon yn cydnabod adolygiad gan gymheiriaid a chefnogaeth academaidd Dr Alex Sandu, Dr Jen Keating, Dr Katy Huxley, a Dr Rob French.

Troednodiadau

Manylion cyswllt

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tony Whiffen
Ebost: adrwales@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 70/2024
ISBN digidol 978-1-83625-605-2

Image
YDG Cymru
Image
GSR logo