Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2018 yn darparu ystadegau am faint a strwythur oedran posibl poblogaeth y DU a'i gwledydd cyfansoddol yn y dyfodol.

Prif bwyntiau

  • Amcanestynnir  y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 2.7% i 3.22 miliwn erbyn 2028, ac yn cynyddu 3.7% i 3.26 miliwn erbyn 2043.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y plant o dan 16 oed yn gostwng 4.7% i 536,300 rhwng 2018 a 2028.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn gostwng 0.2% i 1,927,700 rhwng 2018 a 2028.     
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu 16.3% i 758,600 rhwng 2018 a 2028.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 75 oed a throsodd yn cynyddu 29.3% i 378,100 rhwng 2018 a 2028.

Nodyn am y diwygio

Ddydd Llun 18 Mai 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) nodyn ar eu gwefan i roi gwybod i ddefnyddwyr eu bod wedi darganfod gwall sydd yn effeithio ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018.

Roedd y gwall wedi ei achosi gan brosesu mudo rhwng Cymru a Lloegr yn anghywir, gan arwain at amcanestyniad poblogaeth canol-2028 oddeutu 65,000 yn rhy isel yng Nghymru, ac oddeutu 65,000 yn rhy uchel yn Lloegr.

Cyhoeddodd yr ONS amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol wedi eu cywiro ar gyfer Cymru ddydd Iau 11 Mehefin.

Mae’r amcanestyniadau sydd wedi eu cywiro yn dangos tuedd hirdymor wahanol i Gymru o gymharu â’r amcanestyniadau gwreiddiol a gafodd eu cyhoeddi. Roedd yr amcanestyniadau gwreiddiol yn dangos gostyngiad yn amcanestyniadau poblogaeth Cymru o 2025 ymlaen.

Bydd tablau StatsCymru diwygiedig yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.