Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2020 yn darparu ystadegau am faint a strwythur oedran posibl poblogaeth y DU a'i gwledydd cyfansoddol yn y dyfodol.

Mae ansicrwydd ynghlwm ag amcanestyniadau poblogaeth, ac maent yn seiliedig ar ragdybiaethau ar dueddiadau'r dyfodol mewn ffrwythlondeb, marwolaeth a mudo. Nid yw effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ymddygiad demograffig yn glir eto, ac mae hyn yn cyfrannu at fwy o ansicrwydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mwletin a dogfennau methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2020 a chanol 2030, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 2.6% o 3.17 miliwn i 3.25 miliwn.
  • Rhwng canol 2020 a chanol 2045, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 4.2% o 3.17 miliwn i 3.30 miliwn.
  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu 3.2% rhwng canol 2020 a chanol 2030 i 69.2 miliwn, ac amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn tyfu ym mhob un o'r pedair gwlad.

Amcanestyniadau poblogaeth Cymru yn ôl oedran

  • Amcanestynnir y bydd nifer y plant o dan 16 oed yn gostwng 10.5% i 503,800 rhwng canol 2020 a chanol 2030.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn cynyddu 1.7% i 1,971,300 rhwng canol 2020 a chanol 2030.     
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed neu hŷn yn cynyddu 16.1% i 776,300 rhwng canol 2020 a chanol 2030.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 75 oed neu hŷn yn cynyddu 23.9% i 380,200 rhwng canol 2020 a chanol 2030.

Amcanestyniadau poblogaeth Cymru yn ôl cydrannau newid

  • Amcanestynnir y bydd dal mwy o farwolaethau na genedigaethau, gyda chyfanswm o 77,000 yn fwy o farwolaethau na genedigaethau rhwng canol 2020 a chanol 2030.
  • Amcanestynnir mai mudo fydd yn gyfrifol am y cynnydd yn y boblogaeth Cymru, gyda chyfanswm mudo net o 159,000 rhwng canol 2020 a chanol 2030.

Sylwi

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi datganiad ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim sy’n seiliedig ar 2020 i hysbysu defnyddwyr o wall yn ymwneud ag allfudo rhyngwladol o Gymru. Mae’r ONS yn nodi bod effaith hyn yn gymharol fach ar amcanestyniadau Cymru, gyda’r amcanestyniadau poblogaeth oddeutu 2,700 yn is erbyn 2030 na’r hyn a gyhoeddir, ac oddeutu 16,400 yn is erbyn 2045. Yn dilyn ymgynghori â Llywodraeth Cymru, mae’r ONS wedi penderfynu peidio â chyhoeddi amcanestyniadau newydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ONS.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.