Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2018 ar gyfer parciau cenedlaethol.

Mae’r amcanestyniadau hyn yn rhoi syniad o faint a strwythur posibl poblogaeth parciau cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043. Fodd bynnag, mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar 10 mlynedd cyntaf cyfnod yr amcanestyniad, gan fod amcanestyniadau'n tueddu i ddod yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, gan y gallai tueddiadau newid dros yr amserlen honno.

Nid rhagolygon mo’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith y gall polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill, fel pandemig y coronafeirws, eu cael ar y boblogaeth yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnig dadansoddiad o'r amcanestyniadau poblogaeth parciau cenedlaethol diweddaraf, gan gynnwys cymariaethau ag amcanestyniadau blaenorol.

Prif bwyntiau am 2018 i 2028

Newid yn amcanestyniadau’r boblogaeth

  • Amcanestynnir y bydd poblogaethau Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn cynyddu 3.5% (1,190) a 2.5% (550) yn y drefn honno.
  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth Eryri yn gostwng 1.9% (480).

Amcanestyniadau yn ôl oedran

  • Amcanestynnir y bydd y tri pharc cenedlaethol yn gweld cynnydd canrannol mawr yn y poblogaethau sy'n 65 oed neu'n hŷn, a chynnydd mwy yn nifer y bobl 75 oed neu drosodd.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl o oedran gweithio (16 i 64 oed) a phlant (rhwng 0 a 15 oed) yn gostwng ar Arfordir Sir Benfro ac Eryri.
  • Amcanestynnir y bydd Bannau Brycheiniog yn gweld gostyngiad llai yn nifer y bobl o oedran gweithio a chynnydd yn nifer y plant.

Cydrannau newid

  • Amcanestynnir y bydd newid naturiol negyddol yn cynyddu ym mhob un o'r tri pharc cenedlaethol.
  • Amcanestynnir y bydd mudo net cadarnhaol yn cynyddu ym mhob un o'r tri pharc cenedlaethol.
  • Amcanestynnir y bydd mudo net cadarnhaol yn fwy na'r newid naturiol negyddol ym Mannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, gan arwain at gynnydd cyffredinol yn y boblogaeth.
  • Amcanestynnir y bydd mudo net cadarnhaol yn llai na'r newid naturiol negyddol yn Eryri, gan arwain at ostyngiadau cyffredinol yn y boblogaeth.

Adroddiadau

Amcanestyniadau is-genedlaethol o’r boblogaeth (parciau cenedlaethol), sail-2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.