Neidio i'r prif gynnwy

Mae amcanestyniadau aelwydydd yn rhoi amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd a'r mathau o aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae’r amcanestyniadau hyn yn rhoi syniad o nifer posibl yr aelwydydd a’u cyfansoddiad yn y dyfodol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043.

Nid rhagolygon mo’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith y gall polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill (fel pandemig y coronafeirws) eu cael ar boblogaeth aelwydydd yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hwn yn diwygio’r amcanestyniadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2020, yn dilyn gwall yn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru. Mar rhagor o wybodaeth am y diwygiad yn y adroddiad.

Prif amcanestyniad

Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:

  • amcanestynnir y bydd cyfanswm nifer yr aelwydydd yng Nghymru oddeutu 1.42 miliwnerbyn 2028, cynnydd o 4.4% yn ystod y cyfnod
  • amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd yn cynyddu ym mhob awdurdod lleol, ac eithrio Ceredigion
  • amcanestynnir y bydd y cynnydd canrannol mwyaf yn nifer yr aelwydydd ym Mro Morgannwg (fyny 8.6%), Casnewydd (fyny 8.6%) ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr (fyny 6.3%)
  • amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd yng Ngheredigion yn lleihau 1.6%

Aelwydydd un-person

Yn ystod y cyfnod 2018 i 2028:

  • amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd un-person yn cynyddu
  • bydd aelwydydd un-person yn parhau i fod y math mwyaf cyffredin o aelwyd, gan gyfrif am 33.5% o’r holl aelwydydd yn 2028
  • amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd un-person yn cynyddu ar gyfer y mwyafrif o’r grwpiau oedran erbyn 2028
  • gellir gweld peth o'r twf amcanestynedig mwyaf mewn aelwydydd un-person ar gyfer pobl 35-39 mlwydd oed a 40-44 mlwydd oed (i fyny 25.1% a 31.2% yn y drefn honno)
  • amcanestynnir y bydd nifer yr aelwydydd un-person hefyd yn cynyddu'n sylweddol ar gyfer y grwpiau oedran hŷn
  • amcanestynnir y bydd aelwydydd un-person sy’n cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu’n hŷn yn cyfrif am bron i 45% o'r holl aelwydydd un-person erbyn 2028

Poblogaeth aelwydydd preifat

  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth aelwydydd preifat yn cynyddu yn y mwyafrif o’r awdurdodau lleol yng Nghymru.

Adroddiadau

Amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol sy’n seiliedig ar 2018, Cymru (diwygiedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 819 KB

PDF
819 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.