Neidio i'r prif gynnwy

Mae amcanestyniadau aelwydydd yn rhoi amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd a'r mathau o aelwydydd ar gyfer pharciau cenedlaethol.

Mae’r amcanestyniadau hyn yn rhoi syniad o nifer posibl yr aelwydydd a’u cyfansoddiad yn y dyfodol yn yr parciau cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 2018 i 2043.

Nid rhagolygon mo’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld effaith y gall polisïau’r llywodraeth, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill (fel pandemig y coronafeirws) eu cael ar boblogaeth aelwydydd yn y dyfodol.

Prif bwyntiau am 2018 i 2028

Amcanestyniadau nifer yr aelwydydd

  • Amcanestynnir y bydd niferoedd yr aelwydydd yn y tri pharc cenedlaethol wedi cynyddu erbyn 2028.
  • Amcanestynnir cynnydd o 4.8% (bron 730) yn nifer yr aelwydydd ym Mannau Brycheiniog, o 5.3% (550(r)) yn Arfordir Penfro ac o 0.3% (40) yn Eryri.
  • Amcanestynnir mai aelwydydd un person ac aelwydydd dau berson heb blant fydd y math mwyaf cyffredin o aelwyd o hyd yn y tri pharc cenedlaethol.

(r) Wedi ei ddiwygio ar 19 Mai 2021 oherwydd gwallau talgrynnu.

Aelwydydd un-person

  • Amcanestynnir y daw aelwydydd un person yn fwyfwy cyffredin, gan gyfrif am 35%, 37% a 42% o’r holl aelwydydd erbyn 2028 ym Mannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri yn y drefn honno.
  • Amcanestynnir y bydd cyfanswm y dynion sy’n byw mewn aelwydydd un person yn cynyddu 15% o’i gymharu â 3% ymhlith menywod
  • amcanestynnir y bydd aelwydydd un person yn parhau i fod yn fwy cyffredin ymhlith menywod mewn grwpiau oedran hŷn nag ymhlith dynion hŷn.
  • Amcanestynnir y bydd aelwydydd un person yn parhau i fod yn fwy cyffredin ymhlith dynion mewn grwpiau oedran iau nag ymhlith menywod  iau.

Poblogaeth aelwydydd

  • Amcanestynnir y bydd cynnydd ym mhoblogaeth aelwydydd ym Mannau Brycheiniog o 3.3% (ychydig dros 1,100) a chynnydd o 2.3% (500) yn Arfordir Penfro.
  • Yn Eryri, amcanestynnir y bydd gostyngiad ym mhoblogaeth aelwydydd o -1.9% (480(r)).

(r) Wedi ei ddiwygio ar 19 Mai 2021 oherwydd gwallau talgrynnu.

Adroddiadau

Amcanestyniadau is-genedlaethol o aelwydydd (parciau cenedlaethol), sail-2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.