Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2014 amcangyfrif nifer yr aelwydydd ac yn rhagdybio bod tueddiadau blaenorol ym maes genedigaethau, marwolaethau, a mudo yn parhau.

Yn gyffredinol, mae'r tybiaethau'n ymwneud â nifer aelodau'r gwahanol fathau o aelwydydd. Mae’r tybiaethau yn seiliedig ar dueddiadau yn y gorffennol ac yn amcanestyn niferoedd yr aelwydydd pe bai’r tueddiadau hyn yn parhau. Gan eu bod yn seiliedig ar dueddiadau maent yn llai sicr yn y tymor hir.

Prif bwyntiau

  • Rhagwelir y bydd nifer yr aelwydydd yng Nghymru yn cynyddu 10% rhwng 2014 a 2039, yn ôl amcanestyniadau o 1.33 miliwn i 1.47 miliwn.
  • Rhagwelir y bydd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd, sef 32%, ac yna yn Abertawe (sef 17%).
  • Powys yw'r unig awdurdod lleol lle rhagwelir y bydd gostyngiad yn nifer yr aelwydydd (sef gostyngiad o 2%).
  • Aelwyd un person yw'r math mwyaf cyffredin o aelwyd dros holl gyfnod yr amcanestyniad, a rhagwelir y bydd cynnydd o 27% yn y math hwn o aelwyd erbyn 2039.
  • Rhagwelir y bydd aelwydydd un person yn cynyddu o fod yn 31% o'r holl aelwydydd i fod yn 36% o'r holl aelwydydd.
  • Rhagwelir y bydd maint cyfartalog aelwydydd yn gostwng o 2.29 person ym mhob aelwyd i 2.17 person ym mhob aelwyd.
  • O gymharu â'r set ddiwethaf o amcanestyniadau aelwydydd, dim ond ychydig iawn o wahaniaeth a welir ar gyfer 2019. Ar ôl hynny, mae’r bwlch yn lledu, gyda'r gwahaniaeth yn 2031 2% yn is yn yr amcanestyniadau sy'n defnyddio 2014 fel blwyddyn sylfaen.
  • Gan ddefnyddio'r amrywiolion uchaf ac isaf, amcanestynir y bydd nifer yr aelwydydd yng Nghymru yn cynyddu rhwng 1.40 ac 1.44 miliwn erbyn 2029, sy'n wahaniaeth o 37,000 o aelwydydd.
  • Gan ddefnyddio’r cyfartaledd mudo dros ddeng mlynedd, amcanestynir y bydd nifer yr aelwydydd yn cynyddu i 1.45 erbyn 2029, a chan dybio na fydd unrhyw fudo amcanestynir y bydd y nifer yn gostwng i 1.40 miliwn.

Adroddiadau

Amcanestyniadau aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol, sail-2014 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.