Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn astudiaeth o bobl ar draws Cymru gyfan. Mae’r arolwg yn rhedeg drwy’r flwyddyn, ledled Cymru gyfan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r arolwg yn un o brif ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru a’r cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru gael gwybod am farn a bywydau pobl yng Nghymru.

Prif themâu'r arolwg yw gwasanaethau cyhoeddus fel addysg, trafnidiaeth, gweithgareddau hamdden, iechyd a lles.

Pam ydym yn cynnal yr ymchwil hwn?

Mae'r astudiaeth hon yn rhoi cyfle i bobl Cymru helpu i lunio'r camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut y darperir gwasanaethau. Trwy gymryd rhan, byddwch yn ein helpu i ddeall anghenion pobl yng Nghymru ac i wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario yn y mannau cywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Mae’r ymchwil hon yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar ran Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, ac Adnoddau Naturiol Cymru.

Llywodraeth wedi’i ddatganoli i Gymru yw Llywodraeth Cymru.

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff sy’n datblygu a chyllido’r celfyddydau yng Nghymru.

Adnoddau Naturiol Cymru pwrpas yw sicrhau bod yr adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy, eu hyrwyddo yn gynaliadwy a’u defnyddio yn gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr arolwg, cysylltwch â'r SYG ar 0800 496 2119 neu drwy e-bostio: adbortharolwg@ons.gsi.gov.uk.

Fel arall, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol ar 0300 060 4400 neu drwy e-bostio: arolygon@llyw.cymru.

Dogfennau

Llythyr cychwynnol
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 246 KB

PDF
246 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Taflen gychwynnol
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Gwybodaeth bellach

Pam oedd fy mod ddewis?

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi'i gynllunio i gasglu barn pobl Cymru. Byddai ymweld â phob cyfeiriad yng Nghymru yn cymryd gormod o amser ac yn costio gormod o arian. Yn lle hynny, rydym yn dewis sampl gynrychioliadol o gyfeiriadau ac yn gofyn i bobl yn y cyfeiriadau hyn i gymryd rhan.

Mae'r cartrefi yn cael eu dewis ar hap o restr gyfeiriadau’r Post Brenhinol. Nid yw cyfwelwyr yn gwybod pwy sy'n byw yn y cyfeiriad nes eu bod yn ymweld â hi. Unwaith bydd cyfeiriad wedi cael ei ddewis ar gyfer yr astudiaeth, ni allwn ddewis cyfeiriad arall yn ei le. Mae hyn yn golygu ein bod yn dibynnu ar ewyllys da y rhai sydd wedi cael eu dewis. Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol, ond drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i sicrhau fod y canlyniadau yn adlewyrchu barn Cymru gyfan.

Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?

Os yw eich cyfeiriad wedi cael ei ddewis ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol, dylech chi dderbyn llythyr a thaflen am yr arolwg (neu efallai eich bod eisoes wedi eu derbyn). Byddwch wedyn yn derbyn ymweliad gan gyfwelydd. Bydd pob cyfwelydd y SYG yn cario cerdyn adnabod. Gofynnwch i gael gweld y cerdyn adnabod os nad ydych yn siŵr pwy yw'r galwr. Bydd y cyfwelydd yn gofyn ychydig o gwestiynau am y bobl sy'n byw yn y cyfeiriad. Os oes mwy nag un person yn byw yn y cyfeiriad byddant yn dewis un person 16 oed neu'n hŷn ar hap i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Bydd dewis un person yn y modd hwn yn helpu i sicrhau bod yr astudiaeth yn cynrychioli pawb yng Nghymru.

Dim ond y person sydd wedi cael ei ddewis gall y cyfwelydd gyfweld. Nid oes neb arall yn y cartref yn gallu cymryd eu lle. Mae llwyddiant yr astudiaeth yn dibynnu ar ewyllys da a chymorth y rhai sy'n cael eu dewis i gymryd rhan.

Gall y cyfwelydd wneud apwyntiad i gynnal y cyfweliad ar adeg sy'n gyfleus ar gyfer y person a ddewiswyd. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad trwy ffonio’r SYG ar 0800 496 2119.

A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?

Ydy - Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data. Ni fydd yn bosib i’ch adnabod chi mewn unrhyw adroddiad a fydd yn seiliedig ar y canlyniadau.

Ni fydd eich manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata.

A allaf gymryd rhan yn y Gymraeg?

Gallwch - mae nifer o'r cyfwelwyr sy'n gweithio ar yr astudiaeth yn siarad Cymraeg. Os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg, rhowch wybod i'r cyfwelydd sy'n galw. Os nad yw'r cyfwelydd yn siarad Cymraeg, gallant drefnu i chi gael ymweliad gan gyfwelydd sy'n siarad Cymraeg. Neu, gallwch drefnu i gael cyfwelydd sy'n siarad Cymraeg i ymweld â chi unwaith y byddwch wedi derbyn y llythyr yn dweud wrthych fod eich cartref wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn yr astudiaeth, drwy ffonio'r 0800 496 2119.

Cysylltu data yn yr Arolwg Cenedlaethol

Mae atebion arolwg dienw ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn cael eu cysylltu â ffynonellau data eraill.  Ni fydd enwau, cyfeiriadau a chodau post yn cael eu cysylltu.  Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig.

Mae ymatebwyr yn gallu optio allan o gysylltu eu hatebion.  Gellir gwneud hyn wrth gymryd rhan yn yr arolwg, neu wedyn drwy gysylltu â thîm prosiect Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ar 0300 025 5050 neu drwy e-bostio: arolygon@llyw.cymru.

Cysylltu data

Cysylltu data yw’r broses o ddod â chofnodion ar lefel yr unigolyn o ffynonellau gwahanol at ei gilydd.

Hyd yma cafodd y dechneg hon ei defnyddio’n bennaf mewn ymchwil iechyd a meddygol, ond mae’n awr yn cael ei hymestyn i gynnwys mathau eraill o ddata, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, tai, trafnidiaeth ac addysg.

Beth yw buddiannau cysylltu data?

Cysylltu gwybodaeth â chofnodion eraill:

  • lleihau’r angen i bobl gymryd rhan mewn arolygon megis Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • lleihau costau casglu gwybodaeth yn sylweddol
  • mae’n golygu bod gwahanol fathau o wybodaeth ar gael yn rhwydd ac felly mae’n caniatáu i ymchwil gael ei gynnal yn fwy cyflym
  • galluogi defnydd gwell i gael ei wneud o ddata sydd eisoes ar gael.

Cysylltu data yn yr Arolwg Cenedlaethol

Mae Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU) Cymru yn uned ymchwil sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Prif waith HIRU yw cysylltu gwybodaeth o nifer o arolygon a chronfeydd data o bob rhan o Gymru.

Mae atebion arolwg dienw ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn cael eu cysylltu â ffynonellau data eraill gan HIRU. Ni fydd enwau, cyfeiriadau a chodau post yn cael eu cysylltu. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig.

Mae ymatebwyr yn gallu optio allan o gysylltu eu hatebion. Gellir gwneud hyn wrth gymryd rhan yn yr arolwg, neu wedyn drwy gysylltu â thîm prosiect Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ar 0300 025 5050 neu drwy e-bostio: arolygon@llyw.cymru.

Dogfennau

Cerdyn gwybodaeth ar gysylltu data
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 50 KB

PDF
50 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Siart-llif o'r broses cysylltu data
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 69 KB

PDF
69 KB