Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r Canllawiau hyn

 

Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar wedi’i thargedu Llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. 

Elfennau craidd y rhaglen yw:

  • Gofal plant rhan-amser o ansawdd, wedi’i ariannu i blant 2-3 oed
  • Gwasanaeth ehangach gan Ymwelwyr Iechyd
  • Mynediad at gymorth magu plant
  • Cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu 

Sefydlwyd Dechrau'n Deg yn 2007 fel rhaglen gymunedol wedi'i thargedu'n ddaearyddol. Gall y model hwn o ymyrraeth leihau'r stigma i deuluoedd wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n cefnogi mwy o gymdeithasoli ac yn creu ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr. Mae hefyd yn caniatáu datblygu isadeiledd a'r gweithlu o fewn cymunedau sy'n hyrwyddo cydleoli gwasanaethau a thimau amlasiantaeth. Mae hyn yn cefnogi cydweithio ac yn caniatáu i deuluoedd elwa ar ymateb amlasiantaeth i'w hanghenion unigol.

Ers 2012 mae awdurdodau lleol wedi gallu defnyddio canran fach o'u dyraniadau cyllid i ddarparu gwasanaeth allgymorth i blant a'u teuluoedd y nodwyd eu bod mewn angen ond sy'n byw y tu allan i ardaloedd diffiniedig Dechrau'n Deg[1]. Mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol i gael rhywfaint o hyblygrwydd o fewn y rhaglen.

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Dechrau'n Deg. Mae'r rhain ar gael yn: Dechrau'n Deg: canllawiau | LLYW.CYMRU

Mae gwaith ymgynghori â Thimau Dechrau'n Deg mewn awdurdodau lleol wedi ei gynnal wrth ddatblygu'r canllawiau hyn. 
 

[1] Yn y canllawiau hyn mae ardal Dechrau'n Deg yn ardal sy'n derbyn pob un o'r pedair elfen o'r Rhaglen Dechrau'n Deg. 

Y gynulleidfa

Mae'r canllawiau hyn yn bennaf ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu, cynllunio a rheoli Gwasanaethau Dechrau'n Deg mewn awdurdodau lleol. Byddant fodd bynnag o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda theuluoedd gan gynnwys ymwelwyr iechyd, therapyddion lleferydd ac iaith a thimau Teuluoedd yn Gyntaf a all adnabod plant y mae angen gwasanaethau allgymorth arnynt.

Cyflwyniad

Mae allgymorth yn darparu dull integredig o weithredu gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan ddefnyddio'r strwythurau a'r systemau a ddarperir gan Dechrau'n Deg. Dylai cyllid allgymorth gynnig yr hyblygrwydd i ddarparu rhywfaint neu’r cyfan o elfennau craidd y rhaglen Dechrau'n Deg, yn ogystal â gwasanaethau ehangu Dechrau’n Deg, i blant a'u teuluoedd sydd wedi'u hadnabod fel rhai mewn angen ond eu bod yn byw y tu allan i ardal Dechrau'n Deg. 

Dyrennir CAP i bob awdurdod lleol, sef nifer targed y plant (buddiolwyr) y mae disgwyl iddynt eu cyrraedd drwy eu rhaglen Dechrau'n Deg graidd. Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu fesul plentyn.

Ers 2012 mae awdurdodau lleol wedi bod yn cefnogi canran fach o blant a'u teuluoedd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg diffiniedig. I ddechrau roedd y ddarpariaeth hon wedi'i chapio ar 2.5% o'r cyllid a oedd wedi'i ddyrannu ar y pryd. Yn 2017 cynyddwyd hyn i 5% o refeniw Dechrau'n Deg ac yn 2018 cafodd ei gynyddu eto i 10% ac mae wedi aros felly. Mae pob awdurdod lleol wedi mabwysiadu ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau allgymorth yn unol ag anghenion unigryw y teuluoedd sy'n byw mewn cymunedau penodol neu oherwydd eu bod wedi asesu anghenion.

Yn 2021 cafwyd ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ei rhaglen Dechrau'n Deg flaenllaw. Hefyd, yn unol â'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, cafodd yr ymrwymiad hwn ei ymestyn i fynd ati'n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn dyflwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.

Fel rhan o'r gwaith o ehangu gwasanaethau Dechrau'n Deg, a ddechreuodd ym mis Medi 2022, dyroddwyd canllawiau i awdurdodau lleol a oedd yn eu galluogi hwy i gyrraedd hyd at 25% o'u targedau ehangu drwy allgymorth. Mae cynyddu cyfran y gwasanaethau y gellid eu darparu drwy allgymorth yn galluogi cymorth i gyrraedd nifer mwy o blant sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg traddodiadol, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn amddifadedd gwledig. Wrth i dargedau ehangu gael eu cyrraedd, mae'n bosibl y bydd gostyngiad yn y niferoedd sy'n cael gwasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg drwy'r llwybr hwn.

Cafodd newid i'r cyfyngiadau ariannol presennol ar gyfer gwasanaethau allgymorth a bennir ei ffurfioli yn y ddogfen ganllaw hon er mwyn unioni'r sefyllfa ledled Cymru a darparu cysondeb ac eglurder ar draws gwasanaethau craidd a gwasanaethau ehangu.

Y prif egwyddorion

Gellir darparu allgymorth Dechrau'n Deg i'r canlynol:

  • Plant teuluoedd/gofalwyr sy'n symud allan o ardal Dechrau'n Deg 
  • Plant teuluoedd/gofalwyr sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg ond yr asesir eu bod mewn angen
  • Cymunedau buddiant 
  • Plant sydd wedi cael eu nodi fel rhai sydd ag angen canolig/uchel am gymorth ac sydd angen mynediad at ddarpariaeth Gymraeg.


     

  • Gall plant iau na 4 oed gael mynediad at bob un o elfennau gwasanaethau Dechrau'n Deg, neu rai ohonynt, drwy gyllid allgymorth, os oes ganddynt angen sydd wedi'i adnabod a bod yr adnoddau ar gael.
     
  • Nid yw'n ofynnol i blant ddefnyddio pob un o bedair elfen rhaglen graidd Dechrau'n Deg er mwyn cael allgymorth. Fodd bynnag, er mwyn i'r rhai sy'n derbyn gwasanaethau allgymorth gyfrif fel buddiolwyr Dechrau'n Deg, bydd angen i deuluoedd fod wedi cael cyswllt rhaglen Iechyd Dechrau'n Deg fel rhan o'r cynnig allgymorth neu gael eu nodi fel rhai sydd ag angen canolig/uchel am ddarpariaeth ehangu Dechrau'n Deg.
     
  • Dylid blaenoriaethu cyllid allgymorth ar gyfer y plant hynny y nodwyd eu bod angen cymorth. Nid yw'n ddarpariaeth gyffredinol. 
     
  • Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio offeryn asesu teulu, fel y Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) pan fydd asiantaethau'n cyfeirio plant a'u teuluoedd ar gyfer allgymorth. Yna dylid ystyried hyn mewn cyfarfod panel adnoddau amlasiantaeth i nodi a yw'r plant yn gymwys i gael cyllid allgymorth. Fodd bynnag, dylai'r Rheolwr Dechrau'n Deg gael ymreolaeth i gytuno ar drefniadau dros dro a fydd yn ddarostyngedig i gael eu hadolygu o fewn 6 wythnos i atal oedi o ran darparu gwasanaethau.
     
  • Dylid gosod amserlen ar gyfer adolygiadau rheolaidd (o leiaf fesul tymor) i bennu a yw'r gwasanaeth allgymorth yn ofynnol o hyd ynteu a oes llwybr yn bodoli ar gyfer ymgysylltu'r teulu ag asiantaeth arall. Er y gall allgymorth fod yn wasanaeth cyfyngedig, gall barhau nes bod y plentyn yn 4 oed neu pan fydd yn pontio i addysg y blynyddoedd cynnar. Mae angen i'r ddarpariaeth ganolbwyntio ar y teulu ac ar anghenion unigol. 
     
  • Rhaglen ymyrraeth gynnar ac atal yw Dechrau'n Deg. Ni ddylid defnyddio cyllid, gan gynnwys cyllid ar gyfer allgymorth, i ariannu gwasanaethau y mae gan yr awdurdod lleol rwymedigaeth/dyletswydd statudol i'w darparu.
     
  • Ni fwriedir i wasanaethau allgymorth ddisodli'r fethodoleg dargedu bresennol sy'n darparu'r pedair elfen o Dechrau'n Deg i deuluoedd cymwys sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig.

Amcanion Allgymorth

Amcanion allgymorth yw:

  • Ymestyn cyrhaeddiad Dechrau'n Deg i deuluoedd a/neu grwpiau cymunedol penodol o blant ag angen a nodwyd sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau'n Deg.
  • Sicrhau parhad y cymorth i blant a theuluoedd sy'n symud allan o ardaloedd Dechrau'n Deg, y mae angen parhau â’r ddarpariaeth ar eu cyfer cyn eu trosglwyddo i wasanaethau neu ddarpariaethau eraill.
  • Galluogi awdurdodau lleol i gynyddu'r ddarpariaeth o'u gwasanaethau Dechrau'n Deg yn ystod cyfnodau o newid demograffig, megis cyfraddau genedigaethau amrywiol, a allai arwain at lai o blant cymwys yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg cydnabyddedig. 

Cyllid

Mae awdurdodau lleol bellach yn gallu darparu gwasanaethau allgymorth i chwarter (25%) o'u targedau lleol cyffredinol (CAP).

Er enghraifft, os oes gan awdurdod lleol darged (CAP ar gyfer Cyfnod 1 a Cham 2) o 800 o blant, yna gallai uchafswm o 200 o'r targed hwn gynnwys plant sy'n derbyn gwasanaethau allgymorth.

Dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu cyrraedd eu targedau (CAP) drwy fethodolegau targedu daearyddol traddodiadol a dylent ystyried allgymorth ar ôl rhoi cynnig ar y rhain. 

Ehangu Darpariaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg

Wrth i'r gwaith ehangu tuag at sicrhau darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg i bawb barhau ac wrth inni gwrdd â thargedau, mae'n bosibl y bydd y niferoedd sy'n elwa ar ofal plant Dechrau'n Deg drwy'r llwybr hwn yn gostwng. Rydym yn cydnabod y bydd yr angen am ofal plant Dechrau'n Deg yn lleihau wrth i'r gwaith ehangu fynd rhagddo. Er hynny, gellir defnyddio allgymorth o hyd i gael mynediad at weddill elfennau'r rhaglen ar gyfer y teuluoedd hynny sydd mewn angen. 

Y broses

Beth ddylid ei gynnwys mewn Cynlluniau Darparu Dechrau'n Deg?

  • Polisi yr awdurdod lleol ar sut y bydd cyllid allgymorth yn cael ei ddyrannu a'i reoli yn erbyn y meini prawf a nodir isod. 
     
  • Sut y bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod ceisiadau/atgyfeiriadau ar gyfer allgymorth yn cael eu rheoli mewn ffordd deg a thryloyw. Pa broses amlasiantaeth sydd ar waith i asesu atgyfeiriadau a sut y ceir cytundeb ynghylch ariannu pecynnau cymorth.
     
  • Sut y bydd timau Dechrau'n Deg yn sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda Chydlynwyr Teuluoedd yn Gyntaf ac asiantaethau eraill i sicrhau bod cyllid allgymorth ar gael i'r teuluoedd mwyaf difreintiedig ar draws yr awdurdod lleol; a
     
  • Sut mae cyllid allgymorth yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i ddiwallu anghenion y plant mwyaf difreintiedig yn yr awdurdod lleol. 

Meini prawf ar gyfer sut y gellir defnyddio cyllid allgymorth.

Gellir darparu cyllid allgymorth dan yr amgylchiadau canlynol:

Plant yn symud allan o ardaloedd Dechrau’n Deg

  • Gellir defnyddio cyllid allgymorth i sicrhau parhad gwasanaethau a chymorth angenrheidiol i blant a nodwyd (drwy baneli ac offerynnau asesu teulu lleol) fel rhai sydd angen cymorth ac sydd wedi bod yn derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg ond sy'n symud allan o ardaloedd Dechrau'n Deg. 
     
  • Dylai'r Rheolwr Dechrau'n Deg allu cytuno ar drefniadau pontio cychwynnol i atal oedi cyn i'r plentyn/teulu allu derbyn cymorth. Yna dylid cynnal cyfarfod panel/adolygu amlasiantaeth o fewn 6 wythnos.

Plant teuluoedd/gofalwyr sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg. 

  • Fel rhan o becyn cymorth wedi'i deilwra, gellir gwneud atgyfeiriadau i ofyn am hawliadau Dechrau'n Deg unigol ar gyfer unrhyw blentyn dan 4 oed ag angen a nodwyd o fewn yr awdurdod lleol. Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud gan Gydlynwyr Teuluoedd yn Gyntaf, Ymwelwyr Iechyd, adrannau awdurdodau lleol neu asiantaethau eraill, gan roi manylion y blwch mewn adnodd/ymyrraeth gan unrhyw wasanaeth arall sy'n statudol neu'n cael ei ariannu gan grant a pham y dylent dderbyn gwasanaeth allgymorth Dechrau'n Deg.
     
  • Dylai lleoedd gofal plant gael eu cynnig ar sail anghenion drwy allgymorth os yw lleoedd gofal plant a gomisiynwyd heb eu dyrannu yn y tymor hir. 
     
  • Mae'r adolygiadau i'w cynnal o leiaf fesul tymor. 

Cymunedau Buddiant

  • Gall timau Dechrau'n Deg ddefnyddio eu cyllid allgymorth i dargedu plant o grwpiau penodol neu gymunedau buddiant yn eu hawdurdod lleol sydd ag anghenion amlwg. Gallai'r rhain gynnwys, er enghraifft: plant a theuluoedd sydd wedi profi trawma neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu gam-drin domestig; ffoaduriaid a cheiswyr lloches; cymunedau teithwyr; teuluoedd digartref; plant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan garchariad.
     
  • Mae gan dimau Dechrau’n Deg yr ymreolaeth i benderfynu pa grwpiau yn eu hawdurdod lleol fyddai’n elwa fwyaf ar ba elfennau o Dechrau’n Deg. Rhaid i'r Cynlluniau Darparu gynnwys pa gymuned fuddiant y mae'r awdurdod lleol yn ei thargedu, a'r canlyniadau y maent yn disgwyl eu gweld yn cael eu gwireddu o'r buddsoddiad. 
     
  • Mae'r adolygiadau i'w cynnal o leiaf fesul tymor.

Sut y dylid gwneud atgyfeiriadau

Dylid gwneud y cais am wasanaethau i'r Rheolwr Dechrau'n Deg neu gynrychiolydd enwebedig drwy offeryn asesu teulu fel Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) neu broses debyg. 

Y Rheolwr Dechrau'n Deg neu gynrychiolydd enwebedig sydd i benderfynu ynghylch a ddylid ymrwymo'r cyllid a'r adnoddau i ddarparu'r cymorth sydd ei angen.

Dylai'r Rheolwr Dechrau'n Deg, neu'r cynrychiolydd enwebedig, weithio'n agos gyda'r Cydlynydd Teuluoedd yn Gyntaf, neu gynrychiolydd enwebedig, i gadarnhau'r gwasanaethau a ddarperir ac a oes llwybr lle gall Teuluoedd yn Gyntaf gefnogi'r teulu. 

Rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i anghenion y teulu cyfan a gwasanaethau addas a ddarperir drwy'r prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf a gomisiynir yn strategol. Dylai'r elfen Dechrau'n Deg fod yn rhan o gyfres o gymorth a ddarperir i'r teulu cyfan pan fo hynny'n bosibl, ac os yw'n berthnasol.

Cydweithio

Bydd timau Dechrau'n Deg yn cydweithio â chynlluniau eraill ym meysydd y blynyddoedd cynnar, teulu a gofal plant, gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf, i sicrhau bod teuluoedd ledled Cymru yn gallu elwa ar yr holl adnoddau sydd ar gael ar draws rhaglenni. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gomisiynu gwasanaethau allgymorth.

Dylid anelu at sicrhau mwy o gysondeb rhwng rhaglenni, gan wneud defnydd effeithiol o gyllid i ddiwallu anghenion lleol yn well a chefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Monitro a Gwerthuso

Rhaid i dimau Dechrau'n Deg goladu data yn lleol i gofnodi nifer y plant sy'n elwa ar allgymorth a sut y caiff cyllid allgymorth ei wario. Ar ben hynny, dylai astudiaethau achos sy’n dangos effaith cyllid allgymorth gael eu coladu i'w cynnwys ym mhroses monitro cyllid Llywodraeth Cymru. 

Bydd Rheolwyr Cyfrif Llywodraeth Cymru yn monitro'r gwaith o ddarparu allgymorth fel rhan o'r trefniadau monitro rheolaidd.

Argymhellir bod awdurdodau lleol yn adolygu eu polisi a'u darpariaeth allgymorth yn rheolaidd i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i ddiwallu anghenion y plant mwyaf difreintiedig mewn awdurdodau lleol unigol. Dylai'r broses hon gynnwys adolygiad o ganlyniadau i deuluoedd sy'n derbyn cyllid allgymorth.

Crynodeb

Dylai cymorth allgymorth roi'r hyblygrwydd i Dimau Dechrau'n Deg ddarparu elfennau o'r rhaglen Dechrau'n Deg i blant a theuluoedd ychwanegol sy'n byw y tu allan i ardaloedd daearyddol Dechrau'n Deg ond yr aseswyd eu bod mewn angen canolig/uchel. 

Dylai awdurdodau lleol sydd am wyro oddi wrth y canllawiau hyn ofyn am gymeradwyaeth gan eu Rheolwr Cyfrif dynodedig yn Llywodraeth Cymru.