Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Hydref 2019 i Fedi 2020.

Mae'r data dros dro yn yr adroddiad hwn ar gyfer mis Hydref – Medi 2020. Mae'r data ar gyfer y cyfnod hwn yn dangos gostyngiadau sylweddol yng ngwerth allforion nwyddau i Gymru. Mae CThEM wedi adrodd bod masnach yn y misoedd diwethaf wedi gweld gwerthoedd annormal o isel o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae'r data'n cwmpasu allforion nwyddau ac yn cynnwys gwybodaeth yn ôl cyrchfan a sector y cynnyrch.

Prif bwyntiau

Gorffennaf i Fedi 2020 (data dros dro)

Gall newidiadau tymor byr a chwarterol fod yn gyfnewidiol, ond fe’u cyflwynir yma oherwydd arwyddocâd y gostyngiadau a welwyd ledled y DU rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020 o gymharu â dechrau'r flwyddyn.

  • Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020, gwerth allforion nwyddau yng Nghymru oedd £3.2 biliwn. Cynnydd o 17.5% yw hwn, o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y cynnydd ledled y DU oedd 19.4%.
  • O'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol (Gorffennaf i Fedi 2019), y gostyngiad yng Nghymru oedd 27.9% a 18.6% ledled y DU.
  • Gwelodd pob un o'r pedair gwlad  y DU gynnydd mewn allforion o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Lloegr welodd y cynnydd mwyaf o 19.4%, Gogledd Iwerddon 18.1%, Cymru 17.5% a'r Alban 13.1%.

Y flwyddyn yn gorffen Medi 2020

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £14.3 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2020, i lawr £3.5 biliwn (19.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Medi 2019.
  • Y gostyngiadau yng Nghymru a'r DU cyfan yw'r mwyaf ers i gofnodion cymharol ddechrau.
  • Am yr ail dro ers i gofnodion cymharol ddechrau yn 2013, gostyngodd gwerth allforion nwyddau ym mhob gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Medi 2019. Llundain welodd y gostyngiad lleiaf (i lawr 8.8%), tra mai Gorllewin Canolbarth Lloegr welodd y gostyngiad mwyaf (i lawr 20.3%). Gwelodd Cymru’r ail ostyngiad mwyaf.
  • Gwelwyd gostyngiad o £2.5 biliwn (23.0%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gostyngiad o £0.1 biliwn (14.5%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 58.5% o allforion Cymreig o’i gymharu â 47.5% ar gyfer y DU.
  • Mae’r Almaen yn parhau fel y gyrchfan allforio uchaf (am y flwyddyn yn gorffen Medi 2020). Roedd allforion nwyddau i’r Almaen yn cyfrif am 15.4% o allforion. Mae’r gyfran hon i lawr 16.6% o allforion yn y flwyddyn flaenorol.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 47.3% o allforion.
  • Gwelodd pob un o’r 10 grwp cynnyrch ostyngiadau yng ngwerth allforion o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gostyngiadau mwyaf yn "Diodydd a Thybaco" (i lawr 32.2%) a "Nwyddau nad ydynt wedi'u dosbarthu mewn mannau eraill" (i lawr 37.6%).

Gwybodaeth bellach

Mae'r ffigurau yn amcangyfrifon sydd wedi'u modelu ac a gynhyrchwyd gan Adran Gyllid a Thollau EM. Maent yn ymwneud â nwyddau a allforir i gyrchfannau y tu allan i'r DU. Dyrennir allforion nwyddau i wledydd a rhanbarthau'r DU yn seiliedig ar gyfran y cyflogeion yn yr ardal honno. Nid yw'r ffigurau'n cynnwys allforion gwasanaeth. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Cyhoeddir y canlyniadau allweddol a chiwbiau data StatsCymru yn chwarterol a chyhoedddir adroddiad bob 12 mis

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.