Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Hydref 2018 i Medi 2019.

Prif bwyntiau

Gwerth allforion Cymreig ar gyfer y flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2019 oedd £17.8 biliwn, i fyny £0.8 biliwn (4.9%) o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

O edrych ar wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gwelwyd cynnydd yn 7 o’r 12 a bu’r cynnydd canrannol mwyaf yn Llundain (i fyny 13.0%). Gwelodd Cymru y pumed cynnydd mwyaf.

Gwelwyd cynnydd o £503 miliwn (4.9%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £333 miliwn (5.0%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2018. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.9% o allforion Cymreig o’i gymharu â 48.8% ar gyfer y DU.

Parhaodd yr Almaen i fod y gyrchfan allforio uchaf, yn cyfrif am 16.6% o allforion, i lawr o 18.8% o’i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Medi 2018.

Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 49.7% o allforion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.