Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn ar gyfer y y flwyddyn y gorffen Mawrth 2020. Bydd y data'n ymdrin â chyfnod byr iawn o'r pandemig coronafirws (COVID-19) a bydd yn anodd pennu'n llawn unrhyw effeithiau y gallai hyn fod wedi'u cael tan fod data mwy diweddar ar gael.

Prif bwyntiau

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £17.2 biliwn, i lawr £0.5 biliwn (2.7%) o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
  • O edrych ar wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gwelwyd cynnydd yn 2 o’r 12 a bu’r cynnydd canrannol mwyaf yn Llundain (i fyny 9.6%). Gwelodd Cymru y pedwerydd gostyngiad lleiaf.
  • Gwelwyd gostyngiad o £494 miliwn (4.6%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £11 miliwn (0.2%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.0% o allforion Cymreig o’i gymharu â 47.2% ar gyfer y DU.
  • Mae Ffrainc wedi cymryd lle’r Almaen fel y gyrchfan allforio uchaf, yn cyfrif am 16.1% o allforion. Mae’r gyfran hon wedi codi o 15.6% o allforion o’r flwyddyn flaenorol.
  • Gellir gweld y gostyngiad mewn allforion Almaeneg hwn ar draws naw o’r deg sector diwydiant gyda Beiriannau a Trafnidiaeth yn disgyn y mwyaf (£412 miliwn).
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 49.3% o allforion.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud ag allforion nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.