Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Gwerth allforion Cymreig ar gyfer y flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mawrth 2019 oedd £17.7 biliwn, i fyny £1.2 biliwn (7.5%) o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • O edrych ar wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gwelwyd cynnydd yn 10 o’r 12 a bu’r cynnydd canrannol mwyaf yn yr Alban (i fyny 12.9%), o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mawrth 2018. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (i lawr 3.7%). Gwelodd Cymru y pedwerydd cynnydd mwyaf.
  • Gwelwyd cynnydd o £829 miliwn (8.3%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £400 miliwn (6.2%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mawrth 2018. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 61.1% o allforion Cymreig o’i gymharu â 50.3% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd yr Almaen i fod y gyrchfan allforio uchaf, yn cyfrif am 17.8% o allforion, i lawr o 19.8% o’i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mawrth 2018.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 49.7% o allforion.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud ag allforion nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.