Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer 2019.

Prif bwyntiau

Gwerth allforion Cymreig ar gyfer 2019 oedd £17.7 biliwn, i fyny £0.5 biliwn (3.0%) o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

O edrych ar wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gwelwyd cynnydd yn 7 o’r 12 a bu’r cynnydd canrannol mwyaf yn Llundain (i fyny 17.2%). Gwelodd Cymru y pedwerydd cynnydd mwyaf.

Gwelwyd cynnydd o £159 miliwn (1.5%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £357 miliwn (5.4%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â 2018. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.4% o allforion Cymreig o’i gymharu â 48.2% ar gyfer y DU.

Parhaodd yr Almaen i fod y gyrchfan allforio uchaf, yn cyfrif am 16.2% o allforion, i lawr o 18.1% o’i gymharu â 2018.

Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 49.9% o allforion.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud ag allforion nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Nodyn

Mae rhywfaint o'r data allforion masnach a gynhwysir yn y bwletin hwn wedi'u diwygio ychydig yn ddiweddar gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r set ddata. Mae'r data diweddaraf ar gael ar StatsCymru.

Adroddiadau

Allforion Cymreig, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 496 KB

PDF
Saesneg yn unig
496 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.