Mae'r cwmnïau o Gymruwedi cyhoeddi gwerth oddeutu £2 miliwn o fusnes ychwanegol yn dilyn help Llywodraeth Cymru i chynyddu ymwybyddiaeth ryngwladol o safon bwyd a diod o Gymru.
Yn 2015, roedd allforion bwyd a diod Cymru werth dros £264miliwn , ac mae rhaglenni Cymorth Allforio Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i helpu cwmnïau i gyrraedd marchnadoedd newydd o amgylch y byd.
Mae'r cymorth sydd ar gael wedi'i ddylunio i helpu cwmnïau i leihau rhwystrau gwerthu dramor; mae hyn yn cynnwys cymorth i ddatblygu strategaethau allforio a dewis marchnadoedd, nodi cyfleoedd yn y marchnadoedd hynny a helpu cwmnïau i ymweld â marchnadoedd allweddol dramor.
Nimbus Foods, o Ddolgellau, yw un o brif arloeswyr a chynhyrchwyr addurniadau, topins a chynhwysion o safon uchel yn Ewrop ar gyfer y diwydiant bwyd. Mae eu hamrywiaeth eang o gynnyrch popty, melysion, hufen iâ, pwdinau, grawnfwyd a byrbrydau arbenigol eisoes yn cael eu defnyddio gan rai o frandiau mwyaf enwog y byd sy'n cynhyrchu bwydydd wedi'u hoeri ac wedi'u rhewi.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwerthu, Jack Proctor, yr effaith y mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi'i chael ar werthiannau:
"Mae gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf wedi gwella ein busnes allforio'n sylweddol. Pan wnes i ymuno â'r cwmni nid oeddem wedi arddangos o'r blaen, felly er mwyn ehangu'r busnes ymhellach fe benderfynon ni dargedu'r marchnadoedd llai aeddfed ar gyfer cynhwysion ac addurniadau. Gyda'r help, rydym wedi bod mewn arddangosiadau ac wedi canfod nifer o gleientiaid newydd. Rydym wedi gweithio'n galed i adeiladu portffolio gwych sy'n cyrraedd marchnadoedd newydd yng nghyfandir Ewrop ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ein busnes allforio o 15% i 26% yn ystod y cyfnod yma."
Dywedodd Mr Proctor, sydd wedi bod yn arwain gwerthiannau'r cwmni am dair blynedd, bod allforio wedi helpu i ddiogelu swyddi lleol. Ychwanegodd:
"Gyda thîm marchnata a gwerthiannau bach, mae twf o 11% mewn dwy flynedd yn galonogol iawn, ac wrth i ni ddatblygu ochr allforio'r busnes, rydym yn diogelu’r swyddi sydd gennym eisoes yn Nolgellau a hefyd yn ehangu'r angen am fwy o swyddi. Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gymorth Llywodraeth Cymru ac rydym bellach yn edrych i'r dyfodol ac yn adeiladu ymhellach ar hyn."
Mae Dairy Partners Wales yn gwmni llaeth teuluol sydd wedi hen ennill ei blwyf. Mae'n gweithgynhyrchu amrywiaeth o gawsiau gan gynnwys mozzarella, ar gyfer rhai o'r prif gwmnïau bwyd. Esboniodd Will Bennett, Cyfarwyddwr Dairy Partners Wales, yng Nghastellnewydd Emlyn, gorllewin Cymru, sut mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi eu helpu ar eu taith i fod yn gwmni lleol sy'n gweithredu o amgylch y byd:
"Mae'r cymorth wedi caniatáu i ni fynd â'r cynnyrch hwn i'r farchnad fyd-eang a chyrraedd marchnadoedd newydd o amgylch y byd. Rydym wedi gweld twf sylweddol yn ein busnes allforio. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
"Pan sefydlwyd Dairy Partners yng Nghastellnewydd Emlyn dros ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom fuddsoddi yn y safle a'r isadeiledd ei hun, a gwnaeth yr help gan Lywodraeth Cymru ein helpu i gynyddu ein hallforion, sy'n ychwanegu at werth ein buddsoddiad."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Girffiths,
"Mae'n amlwg bod rhaglenni Cymorth Allforio Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol ar gyfer helpu cwmnïau Cymru i ennill busnes newydd mewn marchnadoedd newydd yn fyd-eang. Gyda'n help ni, mae cynnyrch o Gymru wedi bod mewn arddangosiadau a sioeau masnach o amgylch y byd. Mae cynyddu gwerthiant yn y farchnad allforio yn hanfodol i fusnesau Cymru ffynnu a diogelu swyddi. Rwy'n falch o safon bwyd a diod Cymru a buaswn i'n annog cynhyrchwyr i fod yn uchelgeisiol yn eu cynlluniau allforio ac i ddod o hyd i'n cymorth. Gyda'n gilydd gallwn fynd â bwyd a diod i bob cornel o'r byd."
Os ydych chi'n gwmni sy'n meddwl y gallwch elwa o gymorth i ddatblygu’ch allforion, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu trwy e-bost.