Neidio i'r prif gynnwy

Gall ceidwaid symud gwartheg, defaid a geifr sy'n cael eu hallforio ar eu tagiau presennol yn y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

O ganlyniad i newidiadau yn neddfwriaeth yr UE yn 2023, ni fydd angen i geidwaid ym Mhrydain Fawr ddefnyddio tagiau clust â chod GB yng nghlustiau gwartheg, defaid a geifr sy'n cael eu hallforio mwyach.  Gallant symud â'u tagiau DU presennol. Bydd angen i geidwaid barhau i ddefnyddio tag clust neu datŵ â chod GB ar gyfer moch. 

Beth sydd angen imi ei wneud os wyf am allforio da byw

Mae'n rhaid i chi sicrhau bod da byw wedi'u tagio'n gywir fel y gellir eu holrhain bob amser. Mae hyn er mwyn helpu i atal a rheoli lledaeniad clefydau.

Rhaid i dda byw fod ar ddaliad am o leiaf 40 diwrnod cyn iddynt gael eu hallforio.  Dyma’r gofyniad cadw fel y’i gelwir.

Mae angen tystysgrif iechyd allforio (EHC) ar allforwyr anifeiliaid byw i allforio anifeiliaid byw gan gynnwys i Ogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth Cymru yn eich cynghori i gadarnhau bod gofynion adnabod yn cydymffurfio â'r mewnforiwr cyn i'r anifeiliaid adael eich daliad. 

A allaf allforio da byw i'w lladd

Ni allwch allforio gwartheg, defaid, moch, geifr na cheffylau ar gyfer eu pesgi a'u lladd. Mae hyn yn berthnasol i deithiau o Brydain Fawr neu drwy Brydain Fawr i unrhyw le y tu allan i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. 

Gallwch barhau i allforio gwartheg, defaid, moch, geifr neu geffylau byw at ddibenion eraill. Er enghraifft, ar gyfer bridio a chystadlaethau. 

Caniateir allforion ar gyfer pesgi a lladd o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, ond ni chaniateir allforion ar gyfer pesgi a lladd o Brydain Fawr i Weriniaeth Iwerddon.

Gofynion tagio ar gyfer allforio defaid a geifr

Ŵyn heb eu nodi eto

Rhowch dagiau EID llawn gyda’r llythrennau ‘UK’ a rhif adnabod yr anifail arnynt.

Defaid â thagiau EID llawn gyda’r llythrennau ‘UK’ a rhif adnabod yr anifail arnynt

Mae'r tag presennol yn dderbyniol.

Ŵyn wedi'u tagio â thag lladd 

Ni allwch allforio ŵyn i'w bridio â thag lladd oni bai eu bod wedi'u graddio i EID llawn, ar yr amod y gellir eu holrhain yn llawn. Rhaid croesgyfeirio'r rhifau adnabod hen a newydd yn y llyfr praidd.

Os yw'r ŵyn yn dal i fod ar y daliad lle cawsant eu geni, rhaid i'r tagiau EID llawn newydd fod yn felyn, ond ar gyfer pob oen nad ydynt ar y daliad lle cawsant eu geni , rhaid i'r dynodwyr EID llawn newydd fod yn goch.

Geifr

Mae defnyddio dyfais adnabod electronig ar eifr yn wirfoddol yng Nghymru. Ond, wrth allforio, rhaid iddynt gael tag EID sydd â'r llythrennau 'UK' a rhif adnabod yr anifail arno.

 

 

Gofynion ar gyfer allforio gwartheg

Lloi heb eu nodi eto

Rhowch bâr o dagiau'r DU gyda’r llythrennau ‘UK’ a rhif adnabod yr anifail arnynt. 

Gwartheg â phâr o dagiau'r DU gyda’r llythrennau ‘UK’ a rhif adnabod yr anifail arnynt

Mae'r tag presennol yn dderbyniol.

Ni fydd angen i'r gwartheg sy'n cael eu hallforio y tu allan i'r DU ddod gyda'u pasbort mwyach, a bydd angen i chi ddychwelyd y pasbortau a chopi o'u tystysgrif iechyd allforio i BCMS o fewn 7 diwrnod i'w hallforio. 

Mae angen i wartheg sy'n symud i Ogledd Iwerddon ddod gyda phasbort o hyd, ond bydd angen i chi anfon copi o'r dystysgrif iechyd allforio i BCMS o fewn 7 diwrnod.

Gofynion adnabod ar gyfer allforio moch

Heb dag

Defnyddiwch dag gweledol neu datŵ â'r llythrennau 'GB' neu 'UK-GB', rhif y genfaint a'r rhif adnabod unigryw arno. 

Moch a nodwyd â thag clust, tatŵ neu slapfarc â'r llythrennau 'UK' a rhif y genfaint

Rhaid i foch y bwriedir eu hallforio fod â thag clust neu datŵ a rhaid iddo arddangos y llythrennau 'GB' neu 'UK-GB', rhif y genfaint a'r rhif adnabod unigryw.

Mae'n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os oes gan y mochyn dag clust, tatŵ neu slapfarciau presennol o ddaliad neu safle arall. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid adnabod moch gyda rhif y genfaint ar gyfer y daliad y maent yn symud ohono.