Oherwydd argyfwng y coronafeirws mae mwy o bobl nag erioed yn wynebu caledi ariannol ac mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn annog pawb i geisio cael gwybod a oes modd iddynt gael cymorth i dalu eu treth gyngor.
Mae cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, eisoes yn helpu bron i 300,000 o gartrefi ag incwm isel â’u biliau treth gyngor bob blwyddyn.
Mae’n bosibl fod hawl gennych i dalu llai o dreth gyngor:
- os ydych yn credu eich bod yn byw ar incwm isel
- os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl/plant nad ydynt yn talu treth gyngor
- os ydych yn fyfyriwr
- os ydych yn anabl
- os oes gennych nam meddyliol difrifol
Mae sicrhau bod cartrefi sy'n agored i niwed yn gallu manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Y llynedd, comisiynodd y Gweinidog Cyllid ymchwil annibynnol i ddeall effaith Credyd Cynhwysol Llywodraeth y DU ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru.
Mae'r adroddiad terfynol, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, yn dangos bod llawer o gartrefi yng Nghymru wedi gweld bod symud i system y Credyd Cynhwysol yn gallu cael effaith negyddol ar ddyfarniadau ynghylch gostyngiadau’r dreth gyngor, dyled y dreth gyngor neu ôl-ddyledion rhent. Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ymhellach am rai o'r opsiynau ar gyfer gwneud newidiadau i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae rhai cartrefi yn eu hwynebu wrth geisio deall y system Credyd Cynhwysol a’i pherthynas â'r Cynllun Gostyngiadau.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
"Rydyn ni’n cydnabod bod hwn yn gyfnod tu hwnt o anodd i bawb a bod llawer o gartrefi ledled Cymru yn ei chael yn anodd ymdopi'n ariannol oherwydd effeithiau COVID-19. Mae sicrhau bod pawb yn cael y cymorth y mae ganddynt yr hawl iddo gyda’u treth gyngor yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i wneud y dreth yn decach.
"Er nad yw’r adroddiad sy’n cae ei gyhoeddi heddiw yn ystyried yr effeithiau sy’n deillio o’r pandemig, bydd y canfyddiadau’n ein helpu i ystyried y camau nesaf y mae angen eu cymryd i wrthdroi’r effaith negyddol y gallai system Credyd Cynhwysol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
“Rydyn ni’n parhau i edrych hefyd ar y dewisiadau posibl ar gyfer diwygio trethi lleol a’r system cyllid llywodraeth leol yn gyffredinol yng Nghymru.”