Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gynnyrch amaethyddol, Gwerth Ychwanegol Crynswth o amaethyddiaeth a Chyfanswm Incwm o Ffermio ar gyfer 2022.

Mae'r amcangyfrif cychwynnol ar gyfer allbwn amaethyddol wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, yn dilyn blwyddyn eithriadol lle mae prisiau wedi codi ar draws y rhan fwyaf o nwyddau sydd wedi gwrthbwyso'r cynnydd mewn prisiau mewnbwn. Disgwylir y bydd y cynnydd presennol mewn costau byw yn fwy amlwg yn yr amcangyfrif ar gyfer 2023.

Yn 2022, amcangyfrifir bod y gwerth ychwanegol gros a'r cyfanswm incwm o ffermio wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol (bron 40% ac ychydig dros 55% yn y drefn honno). Cynyddodd yr allbwn amaethyddol cyfun dros 20% yn 2022, ochr yn ochr â chynnydd o tua 15% mewn treuliant canolraddol.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd gwerth yr allbwn amaethyddol cyfun (allbwn gros) ychydig dros £400 miliwn (neu 23%) i ychydig dros £2.1 biliwn yn 2022.
  • Cynyddodd treuliant canolraddol (y nwyddau a'r gwasanaethau a ddefnyddir yn ystod y broses gynhyrchu) bron £180 miliwn (neu 15%) i tua £1.4 biliwn yn 2022. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn gynnydd mewn costau.
  • Cynyddodd gwerth ychwanegol gros (allbwn amaethyddol cyfun, wedi tynnu treuliant canolraddol) tua £225 miliwn (neu 38%) i ychydig dros £810 miliwn yn 2022.
  • Cynyddodd Cyfanswm yr Incwm Ffermio tua £215 miliwn (ychydig dros 55%) i bron £600 miliwn yn 2022.

Adroddiadau

Allbwn ac incwm cyfun amaethyddol: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 457 KB

PDF
Saesneg yn unig
457 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Katherine Green

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.