Adroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am gynnyrch amaethyddol, Gwerth Ychwanegol Crynswth o amaethyddiaeth a Chyfanswm Incwm o Ffermio ar gyfer 2018.

Mae’r rhagolwg ar gyfer 2018 yn dal ar yr un lefel uchel a 2017 yn dilyn cyfanswm incwm o ffermio isel iawn yn 2015 a 2016.

Pwyntiau allweddol

  • Cynyddodd gwerth yr allbwn amaethyddol crynswth (allbwn gros) gan £84 miliwn (neu 5%) i £1,677 miliwn.
  • Cynyddodd treuliant canolraddol (mae'r nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir neu eu treulio yn y broses gynhyrchu) gan £97 miliwn (neu 9%) i £1,178 miliwn. Mae hyn, mewn gwirionedd, cynnydd mewn costau.
  • Syrthiodd gwerth ychwanegol crynswth (allbwn amaethyddol crynswth minws treuliant canolraddol) gan £12 miliwn (neu 2%) i £498 miliwn.
  • Syrthiodd cyfanswm yr incwm o ffermio (CIFF) gan £43 miliwn (neu 12%) i £308 miliwn.

Adroddiadau

Allbwn ac incwm amaethyddol cyfun, 2018
, Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 550 KB

PDF
Saesneg yn unig
550 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Allbwn ac incwm amaethyddol cyfun, 2015 i 2018: tablau
, Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 9 KB

ODS
Saesneg yn unig
9 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Allbwn ac incwm amaethyddol cyfun, 2017

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099